Ystad y Faenol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Ystad y Faenol wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi Uwchgwyrfai hefyd yn eido i'r ystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddietifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr[1] - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad. Nid oedd defnydd gan y Goron o ystad mor bellenig o'u safbwynt nhw, ond fel gwobr i anrhydeddu rhyw was ffyddlon neu'i gilydd, ac yn y man, John Smith, o Tedworth, Swydd Southampton, gafodd y wobr honno. Fel perchnogion o bell am flynyddoedd lawer cyn symud i blas y Faenol, ychydig o newid a fu i'r ystad.

Mae mapiau ac arolwg o'r ystad o 1777-8 yn dangos yn glir pa diroedd oedd yn perthyn i'r ystad.[2] Yn ogystal â llawer o dir o gwmpas yr ystad, roedd maenor Dinorwig, a thiroedd bur helaeth yn Llŷn - yn cynnwys hanner Nant Gwytheyrn, a thir ym mhob plwyf yn Uwchgwyrfai. Rhestrir isod enwau'r ffermydd yn Uwchgwyrfai - llawer ohonynt, sef tiroedd Plas Dinas wedi dod i feddiant yr ystad trwy briodas mam Syr William Williams, un o Fwcleiod Baron Hill, Biwmares, oedd yn berchen ar y tiroedd hynny:

Clynnog Fawr

Llanaelhaearn

  • Tyddyn Mawr

Llandwrog

  • Coed y Brain

Llanllyfni

  • Ffridd Baladeulyn
  • Talymignedd

Llanwnda

Roedd y tiroedd hyn i gyd (llawer ohonynt yn dir mynydd) yn cynnwys ychydig dros 4377 erw o dir, neu tua 6¾ milltir sgwâr (1771 hectâr neu 17.5 km sgwar).

Prif gyfoeth y darn hwn o'r ystad oedd Drws-y-coed a'r gwaith mwyngloddio a barhaodd hyd ddiwedd y 19g a thu hwnt.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon, XVaynol/7414
  2. Archifdy Caernarfon, XVaynol/4055