Ystad Tŷ Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Ystad Tŷ Mawr neu Ystad Cwmgwared yn un o hen ystadau mân foneddigion Uwchgwyrfai, sef teulu’r Llwydiaid, Cwm Gwared. Daeth yr ystâd i feddiant y Llwydiaid rywbryd tua dechrau’r 16g. pan briododd Dafydd Llwyd o Hafodunos, Llangernyw, Sir Ddinbych, â Lleucu ferch Gruffydd ap Hywel Coetmor, oedd yn berchen ar Gwmgwared.

Arm chwe chenhedlaeth roedd y teulu, mae’n bur debyg, yn byw naill ai yng Nghwmgwared neu yn y Tŷ Mawr, eiddo arall y teulu ym mhlwyf Clynnog Fawr nid nepell o’r môr ger Pontlyfni. Tua diwedd y 17g., fodd bynnmag, symudodd y teulu i Lundain gan sefydlu rhyw fath o fusnes yno. Yr olaf i fyw ar hyd ei oes ar yr ystad, mae’n debyg, oedd Benjamin Lloyd. Fe’i enwir mewn dogfen ddyddiedig 1686 [1] ac mae’n amlwg mai'r Tŷ Mawr oedd prif gartref y teulu erbyn hynny. Roedd ei fab Edward Lloyd wedi symud i Ardd y Cwfaint (Covent Garden) yn Llundain erbyn hynny, ac wedi priodi â Saesnes, Ann Smith, merch Thomas Smith o Colebrook Park, Swydd Warwig. Roedd ganddynt o leiaf un mab, Philip a dwy ferch, Ann, a briododd Joseph Wright o Lundain; a Trevor (a fu farw 1723).[2]

Beth bynnag am y man ble cafodd o ei fagu, Llundain neu Glynnog, erbyn 1719 mae dogfennau’n nodi ei fod yn byw yn Nhŷ Mawr.[3] Roedd o’n ddi-briod ym 1719 yn ôl J.E. Griffith, ac ni wyddys a briododd wedyn. Mae’n bosibl fod ei dad wedi marw tua 1719, gan ei fod wedi dechau gwerthu tiroedd yr ystâd yn ystod y flwyddyn honno. Mae’n amlwg mai ystâd fechan oedd ystâd y Llwydiaid, ac os oedd o am gynnal ei fywyd a’i statws, byddai wedi bod yn amhosibl gwneud hynny ar yr hyn a ddeuai o’r ystâd ac felly fe wnaethai synnwyr i Philip, etifedd Edward, forgeisio ei dir a symud i Lundain, yn ôl pob ymddangosiad wedi i’w dad farw. Erbyn 1728, beth bynnag, mae gweithred yn ei ddisgrifio fel “Phillip Lloyd, gynt o Gwmgwara, ac erbyn hyn o ddinas Westminster, swydd Middlesex, bonheddwr, mab ac etifedd y diweddar Edward Lloyd o blwyf Gardd y Cwfaint, swydd Middlesex, bonheddwr”. Aethpwyd trwy broses gymhleth o forgeisio a thrawsgludo’r eiddo er mwyn sicrhau meddiant na ellid ei ddiddymu i’r prynwr, sef Thomas Wynn o Glynllifon. Y pris a daliwyd am yr ystad oedd £1170, ac roedd yn bwrcasiad addas iawn iddo ei wneud, gan fod y tiroedd yn ffinio ar dir Ystad Glynllifon.

Mae’r gwahanol weithredodd sydd yn cofnodi gwerthiant y tiroedd yn manylu ar yr eiddo, sef Cwmgwared, Maesmawr, Tŷ Mawr a Choed Hywel :

  • Cwm Gwared, plwyf Clynnog Fawr.
  • Maesmawr, plwyf Clynnog Fawr.
  • Y Tŷ Mawr, Coed Hywel, Cae islaw’r ffordd, Cae bol-y-berth, Cae'r Tŷ Newidd, Rhos Corwen, Y Weirglodd bach, Y Ddôl Fawr, Y ddôl bach, a pharseli o dir yng Ngweirglodd Llifon, sef y parcell mawr, parcell Einis, parcell-dan-yr-ardd, parcell y Feiston, parcell y gors, parcell y Brenin, i gyd yn nhrefgorddau Bryncynan a Dinlle. Dichon yr oedd y tiroedd hyn oll ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llandwrog. Diddorol yw sylwi ar y ffaith fod y parseli mewn gweirglodd a rannwyd ymysg nifer o dirfeddianwyr, trefn a hanai’n ôl i’w statws fel tir caeth yn ystod y Canol Oesoedd.[4]

Ganrif yn ddiweddarach, pan wnaed y map degwm tua 1840, roedd yr eiddo'n dal yn nwylo Teulu Glynllifon. Er na allwn fod yn siŵr, mae'n debygol iawn fod y ffiniau'r eiddo yn aros yr un fath, a nifer yr erwau a nodir ar y map yn cyfateb i faint eiddo'r Llwydiaid. Roedd y Tŷ Mawr yn 112 erw; Coed Hywel yn 6 erw; Maes Mawr yn 96 erw; a Chwmgwared yn 172 erw. O'r erwau hyn, roedd o leiaf eu hanner yn dir amaethu da, ac er nad oedd ystad y Llwydiaid yn fawr iawn, felly, roedd yn ddigonol i gadw teulu o fân foneddigion yn gyfforddus yn ol safonau'r oes.[5]

Gorffennwyd y broses o drawsgludo’r tir ym 1729; roedd Philip Lloyd erbyn hynny wedi ymsefydlu yn Westminster a phresenoldeb Llwydiaid Cwm Gwared yng Nghlynnog wedi dod i ben.

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7710-11
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.207 yn bennaf, ond hefyd tt.328, 376; roedd Trevor yn enw ar ferch y teulu: Archifdy Caernarfon, XD2/7721
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/7712
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/7716-27
  5. LlGC, Map a Rhestr Degwm plwyf Llandwrog, 1840 [1]