Ystad Orielton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yr oedd Ystad Orielton yn cynnwys tiroedd yn ne Sir Benfro’n bennaf. Mae Orielton yn blasty ger Maenorbŷr yn y sir honno. Daeth y cysylltiad rhwng yr ystâd honno ac Ynys Môn drwy i Hugh Owen, aer Ystad Bodeon ym Môn, briodi Elizabeth, merch ac unig aeres Henry Werriott o Orielton. Gan mai unig etifeddion oedd y ddau, fe unwyd holl dir y ddwy ystâd yn un uned fawr. Yr oedd Hugh Owen yn fab i Owen ap Huw Owen, Bodeon, Uchel Siryf Sir Fôn ym 1563 a 1580.

Bargyfreithiwr a Chofnodydd Caerfyrddin oedd Hugh Owen, a wnaed yn farchog ym 1588. Dichon mai ei gysylltiadau â de Cymru a’i harweiniodd i briodi â merch un o deuluoedd amlwg gorllewin Cymru. Bu farw Syr Hugh Owen ym 1613 ac o hynny ymlaen arhosodd prif gangen y teulu yn y de. Ymddengys i’w ail fab, William Owen, etifeddu ystâd Bodeon gan ei dad, ac aeth yno i sefydlu ei gartref ei hun; ond bu i wyres William, Ann Owen, briodi ei chyfyrder, Syr Hugh Owen yr ail farwnig, sef gor-ŵyr y Syr Hugh Owen cyntaf ac Elizabeth Werriott, ac (o ddiffyg etifeddion eraill) fe ail-unwyd y ddwy ystâd. Eisoes, roedd merch i William Owen (brawd Syr Hugh Owen), sef Ann Owen arall, wedi priodi William Glynn, Plas Nantlle, ac wedi i hwnnw farw heb blant, gadawodd ystad Nantlle i’w nith, Ann, sef wyres yr Hugh Owen a wnaed yn farchog ym 1588 ac a oedd wedi ymsefydlu yn Sir Benfro. Trwy hyn daeth ystadau Orielton, Bodeon a Nantlle yn un ystad.[1]

Nid oes angen yng nghyd-destun Uwchgwyrfai drafod holl eiddo Sir Benfro na’r eiddo ym Môn, ond efallai ei fod yn werth crybwyll fod Plas Llanfaglan a nifer o ffermydd amlwg ym mhlwyf Llanfaglan sy’n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac a aeth wedyn yn rhan o Ystad Glynllifon, hefyd yn rhan o Ystad Orielton.[2]

Ceir swp o lythyrau gan Syr Hugh Owen, y 5ed barwnig a pherchennog yr ystâd hyd ei farwolaeth ym 1786, ymysg papurau Poole yn Archifdy Caernarfon. Mae’r rhain yn dangos yn glir bod y teulu’n dal i gymryd diddordeb byw ym materion eu hystadau yng ngogledd Cymru. [3] Etifeddodd ei fab yr ystadau pan nad oedd ond pedair oed, a phrin fod ganddo'r un diddordeb ynddynt â’i hynafiaid. Bu farw’n ddi-briod hefyd, a hynny’n 27 oed, gan adael yr ystadau i gyfyrder iddo, John Lord. Yn fuan wedi i hwnnw etifeddu’r ystadau, aethpwyd ati i werthu tiroedd gogledd Cymru, gan ddod â dylanwad Orielton ym materion Uwchgwyrfai i ben.

Tuag 20 mlynedd cyn i diroedd y Gogledd gael eu gwerthu’n derfynol gan yr ystad, cymerwyd morgais arnynt er mwyn benthyca £9600, ac fe’u rhestrir yn fanwl yn y weithred berthnasol. Cawn felly ddarlun o ba mor eang oedd y tiroedd hyn. Ni restrir yma ond eiddo yn Uwchgwyrfai; digon yw dweud fod tiroedd eraill yn cynnwys ystâd fach Plas Llanfaglan, a llawer o eiddo yng ngorllewin Ynys Môn.[4]

Dyma’r eiddo yn Uwchgwyrfai (diweddarwyd y sillafiad, gan fod y sawl a luniodd y ddogfen wreiddiol yn amlwg heb wybodaeth o’r Gymraeg):

Plwyf Clynnog Fawr

Tyddyn y Bont-faen; Hendy; Glan’rafon alias Tŷ’n Twll; Ynys Wyddel; Morfa Crota alias Tŷ yn y Lleiniau; Bryncynan Bach; rhent a delid gan berchennog Bryncynan; ynys yn Afon Llyfni; Llan y Claud [‘sic’]; Llain y Cae Garw; Aberdindesach (sef Aberdesach); Gwern Bach.

Plwyf Llanaelhaearn

Cae Geifr

Plwyf Llandwrog

Gelli-ffrydiau; Glynmeibion; Tyddyn Bach; Hafod Ifan; Cae Ffridd; rhent a delid gan berchennog Bodfan; Cae Doctor Bach; Cronw Bach; Lleiniau Bychain; Bryn-glas; Plas Newydd; Coed Hywel; Tyddyn Rhosmaelan; Modryn; Plas-yn-Nantlle; Tŷ yn y Nant; Cae Rhiniog Coch.

Plwyf Llanllyfni

Tu Hwnt i’r Afon.

Plwyf Llanwnda

Cae Elin Bulkeley; Cae Helygen.

Chwalwyd undod yr ystad ond, yn y man, aeth rhannau o’r eiddo’n rhan o Ystad Glynllifon, o ble y daethant ganrifoedd ynghynt.

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 83, 266
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/7655
  3. Archifdy Caernarfon, XPoole 1011-1137
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/7662