Ystad Lleuar
Cynnwys
Cychwyniad yr ystad[golygu]
Roedd Ystad Lleuar yn ystad annibynnol nes iddi gael ei huno ag Ystad Glynllifon, wedi i'r teulu oedd yn berchen arni fynd yn fethdalwyr. Yr aelod cyntaf o'r teulu y mae cofnod ohono yw William Glynne, Lleuar, Sarsiant yn y Gyfraith dan Harri VIII - a briododd wyres anghyfreithlon Harri Tudur (Harri VII). Dichon iddo etifeddu tiroedd Leuar oddi wrth ei dad, Robert ap Meredydd, Glynllifon, a bu ychwanegu at y rhain gan ei ddisgynyddion. Ym 1660, ar farwolaeth ei or-ŵyr, pasiodd y tiroedd i'w ferch Mary Glynn (1633-1676), gwraig George Twisleton. Ar ôl marwolaeth ei ŵyr (George rhif III) ym 1732 pasiodd y tiroedd i ŵr ei or-wyres Mary a'i gŵr, y Cadben William Ridsdale, Ripon, Swydd Efrog, ac yntau'n eu gwerthu i Thomas Wynn, A.S., Glynllifon. Yn y cyfamser, yr oedd y teulu wedi morgeisio llawer o'r tir gan eu bod yn wynebu dyledion mawr, a rhaid hefyd oedd setlo'r dyledion. Trwy hyn, ailunwyd rhai o diroedd cynharaf y Glynniaid efo'r prif ystad.[1]
Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724.[2] Ym 1729, fe brynodd Wynn y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.
Tiroedd yr ystad ym 1724[golygu]
Yn ogystal â thiroedd a fferm Lleuar ei hun, mae'r canlynol ar y rhestr o 1724 y soniwyd amdani uchod:
Plwyf Clynnog Fawr[golygu]
- Clynnog Plas
- 3 thŷ a'u gerddi yng Nglynnog Fawr
- Pennarth
- Cilcoed
- Carreg Boeth
- Tŷ Coch
- yr efail yng Nghlynnog Fawr
- Penybryn
- Ynys Wyddel
- Maesog
- Brynhafod Bach
- Bryn Evan
- Henbant
- 2 ddaliad Cors-y-wlad
- Cae hir
- Tŷ (ac efallai gweithdy) ar gyfer wehydd
- Tŷ Glas
- Ynys yr arch
- Brysgyni
- Glan-y-môr
- Parc Bach
- Pen Rhiwiau
- Melin Glan-y-môr
Plwyf Llanaelhaearn[golygu]
- Moelfre Fawr
- Tyddyn y Drain
- Cae'r Wrach
- Cors y Ceiliau
- Caeau Duon
- Llawr Sychnant
- Tyddyn Hir
Plwyf Llandwrog[golygu]
- tir gan Rowland John Rowland
- rhan o gae ("quillet") gan William Jones
- rhent gan Humphrey Meredydd, ysw.
Plwyf Llanllyfni[golygu]
- Dolgau
- Llwydcoed Bach
Plwyf Llanwnda[golygu]
- Crynnant
- Gwredog
ac, y tu allan i ffinau Uwchgwyrfai,
Tref Caernarfon[golygu]
- o leiaf 14 o dai
- Boot (efallai Tafarn y Boot)
- Vaenol House
- cae o fewn ffiniau'r dref
- tanerdy
Plwyf Llangelynnin[golygu]
- Gynnal
- rhent oddi wrth Felin Ariannus
- Rhiw
- eiddo yn nwylo Elizabeth Roberts.
Tiroedd ychwanegol a enwyd ym 1675[golygu]
Hanner canrif yn gynt, pan oedd yr ail George Twisleton yn priodi Margaret Griffith, merch Cefnamlwch yn Nhudweiliog ym 1675, lluniwyd cytundeb yn nodi'r tiroedd o eiddo teulu Twisleton a fyddai'n cael eu rhoi i unrhyw blant a enid i'r uniad maes o law.[3] Rhestrir bron y cwbl o'r eiddo uchod, ond hefyd nifer sylweddol o ffermydd ac ati'n ychwanegol. Gall fod rhai o'r rhain wedi cael eu huno â ffermydd mwy neu wedi eu gwerthu. Fodd bynnag, o gyfuno'r rhestr isod gyda'r un uchod o 1724, gellir gweld braslun o ehangder Ystad Lleuar ar ei gorau, cyn i drafferthion ariannol goresgyn y teulu. Nid oedd yn ystad fachan ychwaith; er nad oes nodyn o'r nifer o aceri, cofied mai tad Margaret Griffith, sef William Griffith o Lŷn, oedd y dyn cyfoethocaf y mae cofnod ohono yn y sir yn ystod y 17g.[4]
Plwyf Clynnog Fawr[golygu]
- Melin Clynnog (ond ai hon yw'r un felin â Melin Glan-y-môr a enwyd ym 1724?)
- Tyddyn y Gors
- Caeau Mwynion
- Bryn-waun
- Cae yn y Morfa
- Penrhyn y Fonwent
- Buarthau
Plwyf Llanaelhaearn[golygu]
- Tir Du
- Bryn Brych
Plwyf Llandwrog[golygu]
- Ffrwd yr Ysgyfarnog
- Hafod Iwan (ai Hafod Ifan yw hwn i fod?)
- rhent yn deillio o Gae Coch
Plwyf Llanwnda[golygu]
- rhent yn deillio o Bengwern
ac, y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai:
Plwyf Maenol Bangor[golygu]
- Berllan Bach
- Tir y Glyn
- tir yn nwylo Evan Griffith y Gog (ym 1675)
Trefgordd Castell, Dyffryn Conwy[golygu]
- rhent yn deillio o Gwerglodd y Sarsiant
- melin yn nhref Castell
- Tyddyn y Gweddiwr
- Tyddyn y Glyn
- Y Ro
Trefgordd Gwedir[golygu]
- rhent yn deillio o'r Gwige