Ystad Bryncir

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Canolfan Ystad Bryncir oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystad yn berchen ar diroedd yn ardal Pen-y-groes. Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r tŵr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan deulu Huddart a oedd y perchnogion olaf i fyw yno. Bu i'r hen deulu (a ddefnyddiai'r cyfenw Brynkir) farw allan ar farwolaeth Thomas Brynkir, ym 1745. Roedd Robert Brynkir, rheithor Braunston yn Swydd Northampton, a fu farw 1691, wedi gwerthu rhan o'r ystad i William Owen o Frogyntyn a Chlenennau, a'r rhan arall i William Wynne, Y Wern (yn cynnwys y plas).[1] Roedd aelodau o deulu Brynkir yn dal i fyw yno wedyn, gan fod yna gofnod o James Brynkir, nai Robert, (a nai William Wynne hefyd) yno ym 1705 ac ni fu farw tan 1740.[2]

Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu yno, beth bynnag, tua ddechrau'r 19g, gan fod "Mr Huddart of Brynkir" wedi ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[3] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad ym 1809, ar ôl gwneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[4]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystad pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[5], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[6] Gwerthwyd mwy o dir yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[7] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y ty'n furddun wedi hynny.[8]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families, (Horncastle, 1914) t.251.
  2. Archifdy Caernarfon, XES/5/Friars/20;
  3. Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611
  4. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 26.11.2018
  5. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  6. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  7. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11
  8. Jim Hewett, The Huddart Family, FR Heritage Journal rhif 93 (2008).