Ystad Plas-yn-Bont

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ystad Bontnewydd)
Jump to navigation Jump to search

Roedd Ystad Plas-yn-Bont, neu "Ystad Bontnewydd" (fel y'i gelwid hi pan werthwyd yr ystâd tua 1819), yn hen ystâd teulu Lewis, Plas-yn-bont. Yn ogystal â'r plas ei hun, roedd yr ystâd yn cynnwys eiddo ym mhlwyfi Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llanfaglan, Llanwnda a thref Caernarfon. Dichon fod gwreiddiau’r ystâd yn nhiroedd hen drefgordd Bodellog, a oedd yn nwylo Wiliam o Fodellog fel tenant ar ddechrau’r 16g. Yn nes ymlaen daeth tiroedd Bodellog yn eiddo i deulu Williams o’r Faenol, a rhoddwyd prydles ar y lle i Lewis ap Wiliam, ŵyr i Wiliam o Fodellog.[1] Ym 1609, bu ymrafael cyfreithiol rhwng Huw Lewis, mab Bodellog a ficer Llanddeiniolen a thirfeddiannwr Bodellog a llawer o blwyf Llanddeiniolen, sgweier y Faenol. Dichon i Lewis ennill yr achos llys, ac ym 1612 fe godwyd Plas-yn-Bont ganddo yn lle’r hen blasty, Plas Bodellog. .[2]

Roedd Cefn Cil Tyfi’n rhan o’r ystâd erbyn yr 17g, er nad yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar. Efallai mor gynnar â 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd gweddw Morgan Lewis o Blas-yn-Bont, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, M.A., (a fu farw 1641) oedd yn hŷn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i dŷ o eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.[3] Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r Bontnewydd, sef Plas-yn-bont. Yn ôl ewyllys Margaret, Cefn (neu Gefn Cil Tyfi) oedd un o'r ffermydd oedd yn perthyn i ystâd ei gŵr cyntaf - sef Ystad Plas-yn-Bont - a chafodd Margaret fyw yno fel gweddw tad Hugh.[4] Mae'n amlwg mai rhyw fath o "dŷ'r weddw" oedd Cefn yr adeg honno, gan fod gweddw ŵyr Margaret Lloyd yn byw yno tua 1715.[5]

Ym 1734, ceir rhestr mewn gweithred o rai o diroedd yr ystâd ym mhlwyf Llanwnda, sef Pen-y-clip, dôl a elwid yn Wern Gwta, caeau a elwid yn Gaer neu Gaeau Penrhyn, dôl o'r enw Gweirglodd Fawr, a fferm neu dyddyn o'r enw Yr Allt Goch.[6] Dichon mai safle Plas Dinas oedd y gaer y sonnir amdani yn yr enw uchod ac sydd ar gopa cefnen o dir uchel sy’n ymwthio fel penrhyn i dir isel gwaelod plwyf Llanwnda.

Bu farw gor-ŵyr Margaret, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu hwnnw farw ym 1759. Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddwy fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.[7] Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd Ystad Plas-yn-Bont (neu Ystad Pontnewydd) ym 1819.

Gorfod dibynnu ar fanylion pytiog fel hynny y mae’r hanesydd gan nad yw gweithredoedd cynnar yr ystâd ar gael hyd y gwyddys, ond ym 1760 ceir gweithred ymysg papurau Henblas yn archifdy Prifysgol Bangor sydd yn rhestru holl eiddo’r ystâd wedi i’r Huw Lewis olaf i fyw yno farw, sef: Plas-yn-bont ei hun, Caeau’r Penrhyn, Pen-y-clip, Tŷ Cnap, Cefn Cil Tyfi, Traean, Gwaredog, Gefail Gof, Tŷ’n yr Odyn, Cae’r Moel, tri thŷ gerllaw bont Y Bontnewydd, Yr Allt Goch, a Thŷ’n Llan ger Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda - i gyd ym mhlwyf Llanwnda. Yr oedd ganddo eiddo mewn plwyfi eraill hefyd: Llwyn Piod, Cae Bongam a Bwlan, plwyf Llandwrog; Tai Hirion, plwyf Clynnog Fawr; Pen-y-bryn, Porthleidiog a Thŷ’n Rhos, plwyf Llanfaglan; tŷ yn Stryd Llyn, Caernarfon; Llwyn-y-brain, plwyf Llanrug; a Thŷ’n Lôn, Capel Curig. ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), t.47</ref>

Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf, yr ystâd ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o'r Llethr Ddu, Llanaelhaearn, a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystâd nes iddynt ei gwerthu ym 1819.[8]

Cynhwysai'r ystâd yr eiddo canlynol ym 1819, pan fu i Hugh Evans werthu'r eiddo: Plas-yn-Bont, Tŷ Cnap, Pen-y-clip, Cefn neu Cefn Hendre a'r Traean, plwyf Llanwnda; a'r Wern Uchaf neu Ysgubor Fawr ac amryw o leiniau neu quillets, plwyf Clynnog Fawr.[9] Mae'n bosibl fod Parsel a Chapas Llwyd ym mhlwyf Llanaelhaearn hefyd yn perthyn i'r ystâd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Gilbert Williams, ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), t.41
  2. W. Gilbert Williams, ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), tt.43-4
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256
  4. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I
  5. LLGC, Papurau Thorowgood, Tabor and Hardcastle (solicitors) 184
  6. Archifdy Caernarfon, XM479/17
  7. Archifdy Caernarfon, XM479/18
  8. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.123
  9. Archifdy Caernarfon, XM479/43-45