Ysgol Ynys-yr-arch

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ysgol Ynys yr Arch)
Jump to navigation Jump to search

Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.

Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd o wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlchderwin yn gallu cyrraedd Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim. Yr adeiladydd oedd saer maen o ardal Capel Uchaf. William Williams.

Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.

Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.

Yr athro cyntaf yn yr ysgol oedd un Mr Williams o ardal Nefyn, ac fe'i ddilynwyd gan John Powell o ardal Y Bontnewydd. Aeth John Powell yno'n syth o'r coleg, ac yn athro neilltuol o gydwybodol, gydag ysgrifen gain a phwyslais ar foesau a chrefydd yn ogystal â phynciau arferol yn rhan o'r hyn a ddysgai i'r plant. Fo oedd yr unig athro; yr oedd rhwng 80 a 100 o blant yn mynychu'r ysgol, ac arferai roi dyletswydd ar un o'r disgyblion hynaf i ddysgu'r rhai lleiaf. Ceiniog yr wythnos oedd y tâl, ynghyd â dimai (sef hanner ceiniog yn yr hen bres) am inc a chwe cheiniog y chwarter at gost tanwydd; ac ychwanegwyd at incwm yr ysgol trwy godi treth o geiniog yn y bunt ar drigolion y gymdogaeth.

Bu John Powell yn athro am amser hir, ond wedi iddo farw, cymerwyd yr ysgol drosodd gan y Cyngor Sir ym 1908, pan helaethwyd yr adeilad, trwy ychwanegu dwy ystafell ymolchi a thoiledau, a rhannu'r ystafell ddosbarth fawr yn dair trwy godi paredau symudol o bren a gwydr. Y tu allan ychwanegwyd dwy sied lle gallai'r plant chwarae pan fyddai hi'n dywydd drwg.[3]

Gadawodd Owen Roger Owen, Graeanog, ddisgrifiad ardderchog o'r chwaraeon yr arferai plant Ysgol Ynys-yr-arch eu chwarae pan oedd o'n blentyn:

"Byddai chwaraeon y plant yn newid gyda’r tymhorau. Byddem yn ‘sbondio gyda botymau, ac os byddid wedi colli’r cwbl, tynnem rai oddi ar ein dillad. Byddem yn neidio’r afon, yn chwarae cylch — ugeiniau o gylchau yn gweu trwy’i gilydd— ac yn hela llwynog — un neu ddau o’r plant yn llwynog a’r gweddill yn gŵn. Amser cnau colbio, byddem yn torri twll trwy’r gneuen a rhoi llinyn drwyddo a thorri twll bach yn y ddaear a rhoi’r llinyn a’r gneuen ynddo a cheisio ei thorri ag un arall. Cedwid cyfrif manwl pa faint fyddai’r gneuen wedi’i dorri. Chwarae mulod — neidio dros gefnau’n gilydd. Yn y gaeaf, sglefrio. Roedd digon o hen byllau mawn yng nghors Ynys-yr-arch, a byddai yno le campus i sglefrio. Byddem yn methu gweld amser cinio'n dod yn ddigon buan pan fyddai rhywun yn dweud fod Llyn Mawr yn dal yn ddiogel i sglefrio arno. Ni welais ffwtbol ond unwaith tra bûm yno, a honno gan Huw Roberts, Ffridd Dderwig, Garn. Hogyn annwyl, caredig oedd Huw. Rhannai ei damaid gyda chwi, ond yr oedd chwarae triwant wedi mynd i’w waed. Methwyd ei drin yn ysgol y Garn a danfonwyd ef i Ynys-yr-arch. Rhoddodd ei rieni ferlyn iddo a ffwtbol er ceisio ei gael i ddilyn yr ysgol. Rhoddai’r athrawon ffafr iddo i wneud rhyw fân swyddi yn yr ysgol — rhannu’r llyfrau i’r plant ac yn y blaen, ond nid oedd dim yn tycio — yn ôl i chwarae triwant yr âi Huw. Gofid yw meddwl iddo golli ei fywyd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.”[4]

Mae'r diweddar O. Roger Owen, mab yr Owen Roger Owen uchod, wedi gadael darlun gwych o fywyd yr ysgol yn negawd cyntaf yr 20g. - fe adawodd yr ysgol am Ysgol Ganol Pen-y-groes ym 1912:

Yn yr ysgol fechan hon y bûm innau nes daeth yn amser i mi symud i Ysgol Penygroes. ...
Carwn... dalu teyrnged i Mr Morris Williams, y prifathro, a’r athrawon i gyd. Ni welais neb erioed mwy diddiogi a diarbed ohono’i hun na’r prifathro hwn. Roedd yn awyddus iawn i ni ddysgu, ac os byddai’n meddwl nad oeddem yn gwneud ein gorau, nid oedd dim ond cosb i’w disgwyl. Byddai’n darparu papurau ar ddaearyddiaeth, hanes, gramadeg a llysieuaeth, a’u dyblygu i bob un ohonom. Disgwyliai i ni eu dysgu ar ein cof, a byddai’n ein profi’n ofalus ar ddechrau’r wers. Gwae ni os byddem heb eu dysgu! Roedd yn feistr caled hefyd ar yr athrawon, ond roedd ganddo galon garedig iawn at bawb a wnai ei orau — yn blant ac athrawon.
Byddai’n cadw cyfrif manwl o waith pob plentyn trwy’r flwyddyn. Pedwar fyddai’r marc llawn a byddai mor fanwl â rhoi 2½, 23/4, 33/4 fel marciau. Meddyliwch amdano’n cyfrif y rhain i gyd i bob plentyn am flwyddyn — gwaith digalon iawn i bawb oni bai ei fod wedi ymgysegru i ddysgu plant. Byddai yno Ddydd Gwobrwyo a'r gwobrwyon i gyd yn dod o’i boced ei hun. Rhoddai oriawr aur i’r cyntaf, medalau canol aur a chanol arian i’r goreuon, a llond bwrdd mawr o lyfrau i’r gweddill. Byddai un o aelodau’r Cyngor Sir yno i’w cyflwyno. Cofiaf Mr H. Owen, Pennarth, a Mr J.R. Pritchard, Caernarfon, yno. Gwahoddai’r rhieni i’r cyfarfod, a byddai wedi trefnu rhaglen amrywiol o ganu ac adrodd ac arddangosfa o’n gwaith yn yr ysgol — mental arithmetic a chodi seiniau wrth y glust ac yn y blaen. Cofiaf un cwestiwn: “Faint fuasai mochyn deuddeg ugain yn ei gostio yn ôl grôt a dimau’r pwys?” Roedd yn gwestiwn digon pwrpasol, gan mai plant ffermydd oeddem i gyd.
Byddai’n dechrau’r ysgol i’r funud am naw o’r gloch ac yn diweddu am hanner awr wedi tri. Pan fyddai’r injian ddyrnu yn ein cartrefi, byddem yn cael caniatâd yr ysgolfeistr i fynd adref hanner awr ynghynt...
Braint fawr i ddau ohonom fyddai bod yn yr ysgol am chwarter i naw, i gael canu’r gloch. Byddai i’w chlywed o bell gyda dau hogyn cryf yn tynnu eu gorau, ac ambell dro byddai’r rhaff yn torri! Dechreuai a diweddai’r ysgol gyda Gweddi’r Arglwydd, a byddai raid cael perffaith ddistawrwydd i’r gwaith.
Dôi pawb â’i fwyd gydag ef, wedi’i lapio’n ofalus mewn cadach glân, rhai’n dod â phiseraid o de, eraill biseraid o fara llefrith neu fara llaeth. Roedd amrywiaeth mawr yn arlwy’r plant a chofiaf un yn dod â phwdin reis mewn piser; a thu cefn i’r amrywiaeth i gyd, roedd cariad a  gofal rhieni’n amlwg iawn. Byddem yn ei fwyta allan ar wal yr iard chwarae, neu yn sied yr ysgol os byddai’n bwrw glaw. Caniatâi’r prifathro i ni fwyta yn yr ystafell ddosbarth os byddai’n wlyb. Byddai rhai plant heb fawr archwaeth ganddynt yn mynd â’r bwyd gartref heb ei gyffwrdd.
Daeth trefniant hefyd o ddarparu hosannau sychion i blant fyddai wedi gwlychu wrth ddod i’r ysgol. Cyn hyn byddai raid mynd adref, neu aros gyda thraed gwlybion trwy’r dydd a chael annwyd. Byddai ambell i wàg yn gwlychu ei draed yn fwriadol er mwyn cael newid ei hosannau.
Wrth ddysgu’r tablau, byddem yn gweiddi hynny a allem. Byddent yn ein clywed o’r Caerau, oedd tua milltir i ffwrdd pan fyddai’r ffenestri’n agored. Tua deg ar hugain o blant yn gweiddi nerth esgyrn eu pennau, a phan ddôi’r ysgolfeistr heibio, byddai’n ein cymell i weiddi rhagor— “Go on, out with it!”. Byddem yn newid y mydr yn awr ac yn y man o ”twice-one-two, twice-two-four, ” i ”twice-one two, twice-two four” ac yn y blaen.
Heddiw, mae athro ar bob pwnc, pob un yn arbenigwr ar ei faes ei hun. Roedd Mr Williams yn arbenigwr ar bob pwnc! Roedd wedi meistroli ei destun yn llwyr, ac yn ddiarbed yn ei gyflwyno i ni. Gwnaeth gystal gwaith arnom fel pan aethom i’r Ysgol Ganolraddol (fel yr adwaenid hi yr adeg honno) ni fu raid i mi drafferthu gyda’r gwaith am rai blynyddoedd. Roedd hefyd yn gredwr cryf mewn cadw'n iach, a byddai’r ffenestri’n agored led y pen pan fyddai’r tywydd yn ffafriol. Roedd yn grefyddol iawn ei ysbryd. Byddai yn y seiat ym Mwlchderwin bob nos Iau, a byddem ‘ar y carped’ fore trannoeth os byddem wedi anghofio ein hadnod. Daeth yn drwm dan ddylanwad diwygiad 1904-05, a threfnai gyfarfodydd gweddi yn yr ysgol gyda’r plant. Roedd yno ddau bulpud yn yr ysgol a byddai’r plant yn mynd i un o’r rhain i ymyl Mr Williams i weddïo. Roedd y plant hynaf hefyd dan ddylanwad y diwygiad. Cofiaf eneth yn gweddïo â’r dagrau yn rhedeg i lawr ei gruddiau.
Roedd gennyf ryw dipyn o duedd at gerddoriaeth a byddai Mr Williams yn mynd â mi i’r tŷ ar ôl yr ysgol am de, ac yna i’r parlwr am wers ar elfennau cerddoriaeth. Byddai’r un mor drwyadl gyda hyn â phob peth arall, a rhaid oedd ei feistroli’n llwyr. Euthum trwy second degree y Tonic Sol-ffa, ac nid oedd dim a roddai fwy o fwynhad iddo na chlywed yr arholwr yn canmol, ddydd y Gymanfa....
Cwynir heddiw fod llawer o blant, er yr holl wario sydd ar addysg, yn methu ysgrifennu na darllen. Nid aeth neb o ysgol Ynys-yr-arch  heb fedru’r ddau, a gwybodaeth bur dda o’r holl destunau eraill, tra bu Mr Williams yn brifathro yno.
Byddem yn cael gwersi ar ganu, gyda lle amlwg i’r modulator. Roedd yno lyfr canu ar gyfer yr ysgol hefyd a llawer o donau dymunol i blant ynddo. Byddem hefyd yn canu rhai o’r tonau o Cymru’r Plant a Trysorfa’r Plant. Cofiaf un oedd yn ffefryn gan y plant.
Mae'r ceiliog coch yn canu
Yng nghwr yr ydlan draw,
A hen gloc mawr y pen
Sydd newydd daro naw.
Tuedd Mr Williams oedd ein cael i ganu'n debyg i fel y byddem yn dweud y tablau — gweiddi yn hytrach na chanu — ond trwy’r cwbl, cawsom ein dysgu i ddarllen cerddoriaeth yn bur dda.
Cofìaf Mr L.J. Roberts, arolygydd ysgolion ac awdur llawer o donau plant, yn dod yno ac yn ein harwain i ganu. Cofiaf hefyd y prif arolygydd, Syr O.M. Edwards yno, ac yn ei ddull dihafal ei hun yn ein tynnu allan trwy ymryson â ni i enwi pobl enwog Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd. Dau ddyn nodedig iawn oedd y ddau yma, ac ’rwyf yn falch fy mod wedi cael cyfle, er yn ieuanc, i'w gweld a'u cyfarfod. ’Doedd ryfedd yn y byd i’r ddau gyrraedd y safleoedd anrhydeddus a ddaeth i’w rhan.
Byddai’r plant hynaf yn cael dau neu dri thrip bob haf. Cofiaf fynd gyda’r prifathro i ben y Bwlch Mawr sydd tua 1,700 o droedfeddi uwchlaw’r môr, a chael gwersi ar y blodau y byddem yn eu casglu. Roedd corn carw yn tyfu yn ffridd ’Rallt Felen oedd yn perthyn i fferm Maesog, a byddem yn ei gasglu a’i binio ar ein capiau. Dro arall, i ben caer Tyddyn Mawr, a gweld olion hen gaer y Brythoniaid a oedd yn gylch mawr ar ei chopa, a chael golygfa ardderchog dros Lŷn ac Eifionydd. Buom hefyd ar ben y Graig Goch a oedd yn uwch na'r un o’r lleill, ac yn fwy creigiog ac anodd ei dringo. Mynd heibio i fferm Pant Glas Ucha a thrwy Ffridd Marsli, lle’r oedd toreth o lus mawr. Ni fuasech yn hir yn casglu llond piser yno. Mae crib y Graig Goch yn greigiog iawn, ond ceir golygfa ddiguro o Fôn, Arfon ac Eifionydd, ac i gyfeiriad Aberystwyth. Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai’n Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a’r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi’r peiriannau. Mae’r hen ffatri, fel melin Trefîn, “wedi rhoi ei holaf dro” ac wedi tewi ers llawer dydd, a bywyd cefn gwlad yn dlotach a mwy diramant o’r herwydd. Cofìaf un daith arall a gawsom i Bennarth, Clynnog i weld bedd yr oeddynt wedi dod ar ei draws wrth chwalu hen glawdd pridd. Credaf ei fod ryw lathen o hyd wrth oddeutu dwy droedfedd o led. Roedd wedi’i lunio — ei ochrau a’i dalcenni — o bedair carreg fynydd lefn, ac ynddo caed cawg pridd. Cedwid ef yn y tŷ ym Mhennarth. Daeth Mr Owen ag ef allan i’w ddangos i ni. Roedd y gaib wedi torri bwlch bach yn ei ymyl. Mae heddiw mewn amgueddfa yn Llundain.
Er ein bod eisoes wedi cerdded dwy neu dair milltir i’r ysgol a phob un o’r teithiau yma’n golygu rhyw chwe milltir yn ychwanegol, nid oedd neb yn cwyno ei fod wedi blino, a byddem i gyd yn yr ysgol fore trannoeth.
Efallai y buasai rhestr o enwau’r athrawon a fu yn ysgol Ynys-yr-arch tra bûm yn ddisgybl yno o ddiddordeb i rywrai: Miss Jones (Caernarfon, wedi hynny), Mrs Picton Davies, Miss Davies, Hir, Penmorfa, Miss Ann Olwen Hughes, Bee Hive, Penygroes a Mr Parry, Penygroes. (Roedd Mr Parry, a briododd â Miss A. Olwen Hughes, yn gerddor da.) Mrs Williams o Dalysarn, Miss Williams, Llwynbedw, a hefyd Miss Jones o Ddinas, Llŷn. Roedd hi’n ferch i’r hynod Barchedig Moses Jones. Daeth yn drwm iawn o dan ddylanwad diwygiad 1904-05, ac arferai gymryd rhan mewn cyfarfodydd gweddi ym Mwlchderwin. Un arall a ddaeth yno yn athrawes oedd Miss Jones o Lanengan, athrawes dda ac yn meddu ar synnwyr cyffredin cryf. Daeth hi yn Mrs Williams trwy briodi’r prifathro. Un arall oedd Miss W. Jane Pritchard, Cwm, wedi hynny Mis L.O. Evans, Talysarn. Penodwyd hi’n brifathrawes ysgol Brynengan yn ddiweddarach. Un o hen ddisgyblion Mr Williams ydoedd, a’r un mor drwyadl yn ei gwaith. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr i ardal Talysarn a bu’n flaenor ymroddgar ynghyd â’i phriod, Mr L.O. Evans yn eglwys Hyfrydle.[5]

Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/26163.
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/26170.
  3. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), tt.17-21
  4. O. Roger Owen, O Ben Moel Derwin (Pen-y-groes, 1981), tt.19-20
  5. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), tt.20-5