Ysgol Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ysgol Gynradd Trefor)
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgol gynradd pentref Trefor wrth droed Yr Eifl a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.

Perchnogion yr ysgol oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, Chwarel yr Eifl ar fynydd Garnfor, y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd John Evan Williams, brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, Winifred Williams, yn wreiddiol o'r un ardal.

Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.

Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd Benjamin Owen Jones, brodor o Fethesda oedd yn brifathro ysgol Dwyran ym Môn. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymmddeoliad yn haf 1913.

Prifathrawon ers hynny oedd Robert Lloyd Jones (1913-28), yr awdur enwog Morris William Jones (1928-46) Thomas Elias Parry (1946-67) Harold Parry Jones (1967-1978) Geraint Jones (1978-1997) Cai Larson (1997- 2016) Llion Huws (2017 -



Cyfeiriadau[golygu]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma