Ysgol Eben Fardd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgol Eben Fardd oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yng Nghapel Beuno, Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Yn 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn a gododd yng nghefn ei dŷ yn 1841.[1] Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844. Cafodd Eben Fardd ganiatâd i gadw ei ysgol yn y Capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.

Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.

Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Agorwyd yr “Ysgol Frytanaidd newydd” yn y Capel ar Hydref 21 1850. Yr oedd dros 100 yn yr ysgol (ond yn y fersiwn Cymraeg nodir dros 120). Codwyd adeilad newydd ar ei chyfer erbyn 1863, yn cynnwys ysgoldy yn ogystal â thŷ i’r prifathro. Ond bu farw Eben Fardd yn Chwefror ychydig fisoedd cyn yr agoriad swyddogol. Yr Ysgoldy hwn yw ystafell ymgynnull Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Codwyd Ty'r Capel yn 1861.

Ymysg rhai hŷn a ddaeth i'r ysgol frytanaidd dan ofal Eben Fardd oedd y Parch David Jones (Dewi Arfon) er i Eben fethu adeall pam y byddai dyn mor amlwg am fod yn ysgolor iddo. Wrth i Eben waelu, cymerodd Dewi Arfon at yr awennau, ac fe fagwyd enw iddo'i hun fel athro mwy bywiog nag Eben ei hun. Codwyd ysgoldy newydd a thŷ ar gyfer Dewi Arfon, ond bu farw,n ddyn ifanc yn 36 oed cyn gallu symud i'r adeiladau newydd.[2]

Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llanerchymedd), ac yn fugail ar yr eglwys (Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr). Fe'i ddilynwyd yn y swydd ddyblig gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.[3]

Yn 1863 agorwyd Ysgol Ragbaratoawl Clynnog gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dyma lle mae Cefn.
  2. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.93
  3. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94