David Thomas Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Hen Ddoctor Mynydd)
Neidio i: llywio, chwilio
Wynebddalen argraffiad cyntaf y Doctor Mynydd

Perlysieuydd meddygol oedd David Thomas Jones (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, Mynydd Llanllyfni, efo'i wraig Elizabeth lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888. Tyrrodd pobl y wald ato mewn oes pan oedd meddygaeth wyddonol ond yn dechrau datblygu.

Cyhoeddwyd llyfr o'i feddyginiaethau oedd, mewn gwirionedd, yn addasiad a thalfyriad o waith y perlysieuydd Seisnig enwog Nicholas Culpeper (1614-1654). Roedd hon yn gyfrol hynod boblogaidd mewn cartrefi Gogledd Cymru am flynyddoedd, ac aeth trwy nifer o argraffiadau hyd mor ddiweddar â 1883. Cynhwysodd luniau amrwd wedi'u lliwio, gyda'r bwriad o roi rhyw syniad o liwiau'r dail er mwyn osgoi camgymeriadau anffodus!

Ar lethrau de-orllewinol Garnedd Goch mae Ffynnon y Doctor - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.

Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.[1]

Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach, Llanllyfni. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:

Er meddu ar y moddion - a wellant
   Eraill o glefydon;
  Angau trwch i'r llwch gell hon
  Yma ddug y meddygon.
Dwy dudalen o lyfr y Dr Mynydd


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Nantlle.com, [1], cyrchwyd 9.9.2019