Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon ym 1768 trwy ddeddf seneddol. Gan fod y cyfrifoldeb am gynnal ffyrdd y sir wedi cael ei ysgwyddo gan blwyfi unigol dan arolygaeth yr ynadon heddwch, roedd wedi profi'n amhosibl i sicrhau cysondeb neu gydgordio o ran cynnal a chadw'r ffyrdd mewn cyflwr derbyniol. O dipyn i beth, sefydlwyd ymddiriedolaethau ar draws Cymru - a Lloegr - a fyddai'n creu system fodern ac effeithlon o ran ffyrdd. Telid am y gwaith hwn trwy godi tollau ar y sawl a ddefnyddiai'r ffyrdd, a gosodwyd giatiau ar draws y lôn bob hyn a hyn lle byddai'n rhaid talu'r doll. Gan fod rhai ymddiriedolaethau'n farus, cododd gwrthwynebiad ffyrnig a esgorodd yn y diwedd ar Derfysgoedd Rebeca - er nad oes cofnod o drwbl mawr yn Sir Gaernarfon.

Cychwynnodd yr Ymddiriedolaeth ar ei gwaith trwy greu ffordd fawr o Gonwy trwy Fangor a Chaernarfon ac ymlaen am Bwllheli. Ar ôl sicrhau ail ddeddf a ganiataodd i'r Ymddiriedpolaeth adeiladu ffordd o Gonwy i Lanrwst ym 1777, bu'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n galed i orffen y gwaith. Symudodd ymlaen wedyn, gan sicrhau deddf arall eto, hynny ym 1810, i gysylltu eu ffyrdd nhw gyda ffordd dyrpeg Ymddiriedolaeth Dyrpeg Porthdinlläen, a oedd wedi ei hawdurdodi i adeiladu ffordd o Borthdinlläen trwy Bwllheli, Tremadog a Beddgelert i Gapel Curig. Yn ogystal â ffyrdd o Gaernarfon i Ben-y-gwryd a Beddgelert (gyda rhannau o'r ffordd olaf hon yn pasio trwy Uwchgwyrfai rhwng Cwellyn a Rhyd-ddu), cafwyd awdurdod i adeiladu ffordd o Glan-rhyd trwy Ben-y-groes i Dremadog,ynghyd â ffordd groes o Glynnog i Berth ger Llanllyfni ac o Ben-y-groes heibio Pant Du a Gelli-ffrydiau i Ryd-ddu. Erbyn yr 1820au felly roedd gan Uwchgwyrfai ddwy lôn bost o safon, ynghyd â lôn o Glynnog ar hyd Dyffryn Nantlle.

Er mwyn talu am y gwaith, rhaid oedd codi tollbyrth. Lleolwyd nifer o fewn ffinau'r cwmwd, er y giatiau mwyaf cynhyrchiol oedd giatiau Pont Seiont a Maes Mawr (ychydig uwchben tref Pwllheli, ger Tyddyn Iocws). Wrth basio'r giatiau hyn a thalu'r doll, gellid teithio cryn bellter gan fod y tocyn yn "rhyddhau" giatiau yn nes ymlaen ar y siwrne. Os oedd rhywun yn cychwyn ar daith o fewn y cwmwd, roedd rhaid cofio fod tollborth cyn cyrraedd y dref agosaf. Serch hynny, roedd yna nifer o dollbyrth o fewn ffiniau'r cwmwd i ddal y traffig mwy lleol:

* Tollborth Dolydd
* Tollborth Y Berth
* Tollborth Clynnog-fawr
* Tollborth Llanaelhaearn - caewyd pan agorwyd Tollborth Clynnog-fawr.
* Tollborth Pant Du
* Tollborth Gelli-ffrydiau
* Tollborth Rhyd-ddu

Nid oedd y rhai a gadwai'r tollbyrth yn weision i'r Ymddiriedolaeth. Yn hytrach, gofynnid am dendrau bob blwyddyn am redeg y giatiau hyn a chodi'r tollau. Byddai'r sawl a enillai'r tendr yn cael ei elw trwy sicrhau bod pob ceiniog ddyledus yn cael ei thalu.

Trwy ganol y 19g. ceisiodd yr Ymddiriedolaeth leihau'r dyledion oedd ganddi. O swm nid ansylweddol o £18,636 ym 1846, llwyddwyd i ostwng y ffigwr i ddim ond £726 ym 1881.[1]

Ym 1882, diddymwyd yr Ymddiriedolaeth, gan ryddhau ei ffyrdd o dollau. Unig olion y system erbyn hyn yw'r tollbyrth - mae'r rhan fwyaf ac eithrio Dolydd, Llanaelhaearn a Rhyd-ddu i'w gweld hyd heddiw.

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, The Caernarvonshire Turnpike Trust, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), tt.62-74