Y Curnau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Pentref Trefor a mynyddoedd y Curnau - o'r chwith, Y Gurn Goch, Y Gurn Ddu a Moel Penllechog.

Y Curnau yw'r rhes fer o fynyddoedd sydd yn ffurfio math o ragfur sydd yn gwarchod cwmwd Eifionydd rhag ystormydd Bae Caernarfon. Yn y gogledd-ddwyrain, ceir Mynydd Bwlch Mawr, ac wedyn Y Gurn Goch (uwchben Clynnog Fawr), wedyn Y Gurn Ddu ac wedyn, uwchben Trefor a Llanaelhaearn, Moel Penllechog neu Mynydd Tan-y-graig. Mae'r tri cyntaf hyn oddeutu 500 metr uwchben lefel y môr. Ar y llethrau deheuol ceir dau fynydd llai eu maint, sef Moel Bronmiod (416 metr) a mynydd Pen-y-gaer (389 metr).

At ei gilydd, y mae tir y Curnau'n weddol anial, yn gorsiog mewn mannau, a chyda nifer o safleoedd cynhanesyddol ar ei draws. Mae llethrau gorllewinol y Gurn Ddu wedi bod yn safle chwarelu am ithfaen, ac mae sawl gwaith manganîs bach ar hyd llethrau'r mynyddoedd hyn i gyd. Er bod un fraich o Lwybr yr Arfordir yn croesi'r mynyddoedd hyn, prin yw'r cerdded ar yr anialdir hwn fel arall.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans; Gwybodaeth bersonol