Y Cryshar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd "'Y Cryshar"' yn anghenfil enfawr o adeilad yn Chwarel yr Eifl ac mae ei furiau concrid trwchus, a'r waliau cynnal a oedd y tu ôl iddo, i'w gweld yn amlwg o hyd fel gweddillion rhyw hen gastell ar wyneb y mynydd.

Wrth i'r galw am gerrig sets i balmantu ffyrdd yn y trefi a'r dinasoedd leihau yn dilyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf (er i sets barhau i gael eu cynhyrchu yn Chwarel yr Eifl am beth amser wedyn), penderfynodd y cwmni newid cyfeiriad yn sylweddol a dechrau cynhyrchu metlin (neu "chippings") a fyddai'n cael eu cymysgu â tharmacadam i wynebu ffyrdd. Canlyniad hynny oedd codi anferth o adeilad yn rhan isaf y gwaith ger top yr inclên a gysylltai'r gwaith â'r harbwr islaw. Daeth hwn, sef "Y Cryshar" fel y'i gelwid gan drigolion Trefor a'r cyffiniau, yn nodwedd amlwg iawn ar wyneb Mynydd y Gwaith, neu'r Garnfor. Mae ei enw'n egluro ei ddiben yn ddigon amlwg ac roedd y peirianwaith nerthol ynddo yn malu talpiau o'r ithfaen galed yn fetlin o wahanol faint. Cludid y cerrig i'w ran uchaf a'u gollwng i'r peiriannau malu ac roedd y metlin wedyn yn syrthio i finiau mawr o danynt. Yna, deuid â wagenni (ac yn ddiweddarach lorïau dympar) o dan y biniau a gollwng y metlin iddynt i'w cludo i lawr yr inclên i lan y môr. Mae muriau concrid trwchus Y Cryshar yn sefyll o hyd, ac yn debygol o fod yno am ganrifoedd mae'n debyg, ond pan oedd yn weithredol roedd ffrâm fawr o goed a sinc yn ei amgáu fel na ellid gweld y peirianwaith ei hun - roedd hynny hefyd yn lliniaru'r llwch dychrynllyd a oedd yn cael ei greu wrth falu'r cerrig. Tynnwyd y ffrâm hon i lawr ar ôl i'r gwaith gau ym 1971 ac roedd yn drugaredd ei gweld yn mynd gan mor hyll a rhydlyd oedd y sinc erbyn hynny.

Roedd Y Cryshar yn lle swnllyd, llychlyd a pheryglus i weithio ynddo a phrin a dweud y lleiaf y byddai'n cyflawni gofynion safonau iechyd a diogelwch presennol. Bu o leiaf un ddamwain angheuol ynddo, sef ar Ddydd Gwŷl Ddewi 1928 pan laddwyd Humphrey Jones, 57 Ffordd yr Eifl, yno yn 51 oed gan adael gweddw a nifer o blant ifanc.[1] (Ef oedd y cyntaf i gael ei gladdu ym Mynwent Gyhoeddus newydd Trefor, a agorwyd ym 1925.)

Ar adegau byddai tomennydd enfawr o fetlin yn cael eu cadw ar dir gwastad yng ngwaelod Weirglodd Morfa, ger yr Hen Efail, yn barod i gael eu hallforio. Byddai'r metlin wedyn yn cael eu cludo i hopar goncrid fawr ger y cei a'u cadw yno wedyn mewn biniau yn ôl eu maint, yn barod i'w cario ar feltiau cludo ar hyd y cei pren a'u harllwys i howldiau'r llongau.

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), t.29.