William Turner, Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd William Turner (1766-1853) yn Sais a hanai o Broughton-in-Furness, gogledd swydd Caerhirfryn lle roedd ei deulu â diddordebau mewn chwareli llechi. Symudodd i Ogledd Cymru, i Lanrwst yn wreiddiol, i fanteisio ar y cyfle yno i agor a gweithio chwareli llechi. Bu'n weithgar yn ardal Ffestiniog lle bu'n bartner efo teulu Casson (ffrindiau i'w deulu) ac wedyn yn un o'r rhai a reolai chwarel Dinorwig mewn partneriaeth â pherchennog y chwarel, Thomas Assheton Smith. Pan ddaeth yn gysylltiedig â chwarel Dinorwig roedd amod bod rhaid iddo symud i fyw i Gaernarfon, yr hyn a wnaeth gan symud i Blas Brereton, sydd ar gyrion y dref ar lan y Fenai i gyfeiriad Bangor.

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, agorwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ganddo ym 1816. Tua 1829 cymerodd Turner a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, ddiddordeb yn un o chwareli Dyffryn Nantlle ar dir Pant Du, chwarel a elwid ar y dechrau yn Gloddfa Turner ond a ddaeth ymhen amser yn Chwarel Dorothea.

Chwaraeodd ei ran ym materion y Sir, gan wasanaethu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1823-4, a Sir Feirionnydd 1832-3.

Mab iddo oedd Syr Llewelyn Turner a chwaraeodd ran helaeth yn natblygiad a gwelliant tref Caernarfon yn ail hanner y 19g.[1]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), tt.929-30