William John Davies (Glan Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ganed William John Davies (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Tua 1872, bu'n ymaelodi â'r Temlwyr Da a chael ei denu i fynychu Capel Bethel (MC), Pen-y-groes. Canfyddwyd ei fod yn ddyn alluog, ac ar anogaeth aelodau'r capel, fe ddechreuodd bregethu ym 1876. Aeth yn y man yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau, yn cynnwys Tanrallt o 1883 hyd nes iddo briodi ym 1887.[1] Symudodd wedyn i ardal Brynaerau ac er na roddwyd galwad ffurfiol iddo, fe weithredodd i bob pwrpas fel gweinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni.[2]

Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [3] Serch hynny, bu i un o'i gyfoedion ei osod ar ben rhestr o ddeunaw o feirdd Dyffryn Nantlle yn ôl eu safon fel beirdd; dichon mai bardd ei gyfnod ydoedd.[4] Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[5]

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.301, 339
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.62
  3. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6.
  4. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  5. Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.