William Griffith (Hu Gadarn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd William Griffith (marw 1876) yn ffermwr Tŷ Mawr, sydd gyferbyn â gwaelod yr Allt Goch, gerllaw Pontlyfni. Mabwysiadodd yr enw barddol Hu Gadarn ar ôl y ffigwr mytholegol a dywysodd y Cymry gwreiddiol i Gymru. Roedd yn ddyn o barch a phwys yn lleol, fel un diwylliedig ac fel ffarmwr llewyrchus, i'r graddau y bu cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1877 oedd yn gofyn am englynion coffa iddo.[1]

Ychydig sydd ar gof a chadw amdano, mae'n debyg, ond fe'i rhestrir fel un o brif roddwyr arian tuag at gofeb Eben Fardd ym 1866. Yn wir, gyda'i rodd o £1, (gwerth efallai £50 ym mhres heddiw) ef oedd y rhoddwr lleol mwyaf hael a restrwyd yn y papur lleol. [2]

Ceir darlun o'r dyn a'i wraig yn llyfr W.R. Ambrose, Nant Nantlle. Fe ddywed:

"...Gadawsom ar ein chwith [wrth deithio o gyfeiriad Clynnog Fawr] y Tymawr, preswylfod Hu Gadarn, a'i wraig Gwenhonwy. Y mae Hu Gadarn yn enwog, nid yn unig ar gyfrif ei ychain banog, eithr hefyd ar gyfrif ei chwaeth lenyddol; a medr ei wraig Gwenhonwy, nid yn unig i feirniadu gweithiau ein prif awduron yn Gymraeg a Saesonaeg, eithr hefyd ymostwng i ymdrechu am gamp o wneud pâr o hosanau mewn Eisteddfod Genedlaethol, a gorchfygu, a thrwy hyny roddi esiampl i'w chydryw o deuluyddiaeth dda. Anhawdd fyddai treulio nawnddydd difyrach nag yng ngwmni y pâr dedwydd a deallgar hyn." [3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Gwyliedydd, 24 Awst 1877, t.8
  2. North Wales Chronicle, 17 Chwef. 1866, t.1
  3. op.cit., t.97