Warren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae’r Warren, neu Fferm y Warren, yn ffurfio'r rhan helaethaf o'r penrhyn lle saif Belan. Ar rai mapiau cynnar sillefir y lle’n “Waring”. Mae’r Warren bellach yn gorwedd o fewn ffiniau modern plwyf Llandwrog ond hyd y 1980au, pan adolygwyd y ffiniau, bu’r ardal honno’n rhan o blwyf Llanwnda. I wneud pethau’n fwy cymhleth, yn ôl y ddogfen gynharaf sydd wedi dod i’r fei ac sydd yn enwi’r Warren, honnir ei bod yn rhan o blwyf Llanfaglan. Ni allai hynny erioed fod wedi bod yn wir gan mai o fewn ffiniau Isgwyrfai y mae holl blwyf Llanfaglan. Bu’n eiddo i fferm Brynteg yn y plwyf hwnnw, ac yn rhan o ystad Plas Llanfaglan, sef un o’r darnau o Ystad Orielton a ddaeth i feddiant Ystad Glynllifon yn ôl pob tebyg ym 1818.[1]

Nid yw’n hysbys pryd y ystyrid y darn hwn o dir anial wedi ei orchuddio â thwyni tywod yn adnodd o werth i’r ystâd am y tro cyntaf. Ystyr “Warren” yw cwningar, neu fagwrfa i gwningod, a’r tro cyntaf i’r enw gael ei gofnodi oedd mor hwyr â 1815.[2] Nid yw’n hysbys, serch hynny, a oedd y twyni tywod wedi bod yn ffynhonnell cig a ffwr cwningod am gyfnod hir.

Erbyn 1822, fodd bynnag, roedd Ystad Glynllifon yn edrych ar y darn tywodlyd hwn, sy’n cynnwys o leiaf 450 o aceri, yn rhan ddigon pwysig o’r ystad i fynd i gyfraith dros yr hawl i ddal cwningod yno.[3] Nid oedd yr holl ardal o dwyni wedi ei phrynu gan Glynllifon, fodd bynnag, gan fod Rhestr Bennu’r Degwm yn nodi fferm Y Warren fel ardal gyda dau “barc” neu borfeydd mawr; Belan ei hun, a “waring” gyda 436 acer o dwyni, tra bod Griffith Parry, tenant fferm Bodryn, a oedd yn eiddo i Richard Garnons, yn rhentu parc 79 acer o ran maint a ddisgrifiwyd fel waring.

Roedd angen amddiffyn cwningar Glynllifon eto wrth i ddadlau godi ym 1843 rhwng yr Arglwydd Newborough a Griffith Parry. Ymddengys fod Parry, yn ôl yr honiad, yn lladd cwningod cyn i’r tymor hela cwningod ddechrau ar y darn o’r twyni nad oedd yn eiddo i Newborough a thrwy hynny’n achosi dirywiad yn nifer yr anifeiliaid y gellid eu dal ar draws yr holl dwyni yn ystod tymor dilys yr hela.[4] Am unwaith, nid trech gwlad nag arglwydd mohoni: flwyddyn yn ddiweddarach, ildiodd Parry ei denantiaeth i'w gyfran o’r gwningar. Dichon mai’r ffaith fod pris pâr o gwningod wedi gostwng i swllt a cheiniog, sef pris isel dros ben, oedd y rheswm dros i’r mater fynd i’r pen a Parry’n rhoi i mewn. Gofynnodd tenant gweithgar, ond cadarn, Arglwydd Newborough, sef Elizabeth Thomas, am gael y denantiaeth yn lle Parry.[5]

Mae peth amheuaeth pwy yn union oedd yr Elizabeth Thomas hon a ysgrifennodd at Arglwydd Newborough ym 1843. Yn nogfennau’r Cyfrifiad am 1841 ac 1851, nodir mai John Williams, yn enedigol o Bistyll, a ddisgrifir fel cwningwr (“warrenman”), oedd y penteulu; dynes o'r enw Elizabeth a aned tua 1791 ym Metws Garmon oedd ei wraig. Tybed mai glynu at hen arfer y Cymry o gadw enw morwynol oedd Elizabeth. Dichon felly mai dyna pwy oedd Elizabeth Thomas.

Mae’n bosibl y gwelwyd dirywiad yn y diwydiant cwningod erbyn 1861, er y byddai hynny'n syndod a Chaernarfon bellach wedi ei chysylltu â rhwydwaith rheilffyrdd a arweiniai i farchnadoedd cig Lloegr lle'r oedd galw mawr am gig cwningod fel protîn rhad. Fodd bynnag, erbyn 1861, nodir yn y Cyfrifiad mai ffarmwr oedd John Williams, yn amaethu 40 erw, swm nid sylweddol o erwau ar gyfer fferm ar y pryd. Tybed a edrychid bellach ar y twyni fel adnodd llai pwysig na phorfeydd Morfa Dinlle. Diddorol yw sylwi hefyd fod gan John Williams forwyn 20 oed o Niwbwrch a ddisgrifir fel gwneuthurwraig matiau - tystiolaeth brin fod y grefft hon yn cael ei harddel yn llawn amser yn Uwchgwyrfai.

Erbyn 1871, roedd John Williams wedi marw, a chymerodd ei fab, William Williams (g.1839), denantiaeth y fferm – er ei fod wedi ei gymhwyso’n bensaer coed. Ym 1881, roedd William Williams wedi gadael, a’r tenant oedd David Jones, a ddisgrifiwyd fel ffarmwr; roedd ganddo wraig, Mary, a dau o blant. Nodir yn y Cyfrifiad am y flwyddyn honno ei fod yn ffermio 35 erw ynghyd â chwningar a ymestynnai dros 450 o erwau. Ym 1891, nodir tenant newydd eto, sef William Williams arall, gŵr gweddw 44 oed gyda thri mab a dwy ferch. Roedd o’n dal yno ym 1901 a 1911.[6]

Caiff yr enw “Warren Farm”, fel sy’n ymddangos ar fapiau Ordnans, ei gofnodi am y tro cyntaf ym 1882, pan nodir fod David Jones o Warren Farm yn trosglwyddo ei eiddo Caeau bach Pen-cob neu Barciau Bach (clytiau o ryw 5 erw i gyd) i feddiant Arglwydd Newborough, a hynny am £150.[7] Ceir sôn eto am Warren Farm mewn dogfen ddyddiedig 1918. [8]

Erbyn 1879, ymddengys mai darn o dir a ystyrid yn ddeiliadaeth ar wahân oedd y gwningar, neu’r “rabbit warren”, gan ei bod wedi ei rhentu am £79 y flwyddyn – er mai David Jones, Fferm y Warren a gymerodd y denantiaeth. Roedd y gwningar yn dal i gael ei gosod, a hynny fel cwningar weithredol, ym 1894.[9] Daliai mapiau Ordnans graddfa fawr i ddisgrifio’r twyni ger y môr fel “rabbit warren” mor ddiweddar â 1949.

Un ffaith ddiddorol am y Warren yw bod rhan fach ohoni ar Benrhyn Mulfran wedi ei gosod i gwmni ffrwydron Nobel ym 1885 er mwyn iddynt godi storfa ffrwydron yno, a hynny mewn lle diogel ymhell o dai ac ati.[10]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7682-6
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, tt.263-4
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/5928
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/20559
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/21010
  6. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841-1911
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/6906
  8. Archifdy Caernarfon, XD2A/1120
  9. Archifdy Caernarfon, XD2/10189; 8642
  10. Archifdy Caernarfon, XD2/6909