W. Gilbert Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).

Teulu a gyrfa[golygu]

Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr, a Catherine Jones. Brawd iddo oedd John Williams (J.W.), Llundain, a gyhoeddodd ei hunangofiant sydd yn rhoi manylion cartref a blynyddoedd cynnar Gilbert Williams.

Buodd yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, ac wedyn i’r Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Brifathro Ysgol Felinwnda, Llanwnda o ddyddiad ei hagor ym 1895 ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Bu'n flaenor yn Horeb (MC), Rhostryfan am flynyddoedd lawer, ac yn gynghorydd dosbarth a sirol rhwng 1951 a 1961.

Yr hanesydd a'r llenor[golygu]

Bu'n un o brif ysgogwyr sefydlu Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ym 1939. Buodd hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd gradd M.A. er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru. Dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau lleol yn seiliedig ar ymchwil manwl ymysg papurau hanesyddol y sir o ddechrau'r 20g ymlaen, gan gyhoeddi erthyglau eraill ar ffurf pamffledi bach a argraffwyd ar ei beiriant argraffu bach ei hun. Arbenigai yn hanes y 17g., er bod llawer o'i ysgrifau hefyd yn ymwneud â hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog a'r mân foneddigion a drigai yno dros y canrifoedd. Fe'i gyfrifir ymysg y goreuon o haneswyr lleol 'gwyddonol' cynnar, yn seilio ei gasgliadau ar ffeithiau profedig yn hytrach na straeon gwlad.

Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama hanesyddol a pheth barddoniaeth hefyd. Weithiau arddelai'r enw barddol Gilbart.

Ceir casgliadau o'i waith ymchwil, yn nodiadau, traethodau, a dogfennau a gasglodd yn y dyddiau cyn bod archifdai, yn Archifdy Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Is-etholiad 1943[golygu]

Ym 1943, cynhaliwyd is-etholiad ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, a'r ddau brif ymgeisydd oedd yr Athro W.J. Gruffydd, (Rhyddfrydwr) a Saunders Lewis (Plaid Genedlaethol Cymru). Gruffydd enilloedd yr etholiad, ar ôl hir a chwerw ddadlu a ranodd byd academaidd a deallusol y genedl. Diddorol yw nodi fod Gilbert Williams wedi ymuno â'i ffrind, y Dr Thomas Richards (llyfrgellydd Coleg Bangor) wrth gefnogi Gruffydd mewn llythyr agored i'r Wasg (ynghyd â rhai degau o acedymyddion eraill), lle 'roedd ei gyd-hanesydd a gohebydd, Bob Owen (Croesor) wedi cefnogi Lewis mewn llythyr arall a gafodd lawn gymaint o lofnodion. Er i Gruffydd sdefyll fel Rhyddfrydwr, fodd bynnag, roedd yn gyn-is-lywydd y Blaid a llawer o'i gefnogwyr yn bleidwyr hefyd ond iddynt weld y perygl o ethol Catholig fel Saunders Lewis iafael anghydffurfiaeth ar y wlad. Perygl felly fyddai priodoli safbwynt gwleidyddol penodol i Gilbert fwy nag i unrhyw un arall o gefnogwyr Gruffydd.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Tegwyn Jones, Ambell Air ac Ati, (Llanrwst, 2013), tt.174-5