W.T. Williams, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ym Mron Seinai, Llangybi, Eifionydd, y magwyd William Thomas Williams, ac fel "Wil Llangybi" yr adwaenid ef yn Nhrefor. Daeth i'r pentref yn bur ieuanc i weithio yn Chwarel yr Eifl. Fe'i cofir fel bardd medrus a enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Roedd yn aelod yng nghapel Maesyneuadd.

Fel hyn y dywedodd Cybi amdano yn ei Golofn Awen mewn papur lleol ym Mhwllheli, 21 Chwefror 1917. Roedd Cybi a W.T. Williams yn gyfeillion bore oes.

Dewch ynte i hedd bore bywyd yn Ardal y Cewri i wrando ar un o'i phrydyddion ieuainc tra gobeithiol yn canu i'w hen ysgol, sef:

          HEN YSGOL HOFF LLANGYBI
 Hen ysgol hoff Llangybi - wrth edrych arnat ti
 Bydd tristwch yn fy mynwes, daw hiraeth arnaf fi ;
 Mae'r oll o'm hen gyfeillion ar draws a lled y byd,
 Ac nis oes lais adwaenaf o fewn dy furiau clyd. 
 Dychmygaf weld wynebau rhai o'm cyfeillion cu,
 A chlywed lleisiau'n galw fel byddai amser fu ;
 Os cweryl bach ddigwyddai, ni fyddai hwnnw'n hir ;
 Ac ni chai'r haul fachludo heb lawn faddeuant gwir.
 Diddichell y calonnau, diniwed ddwylaw glân,
 A phurach y meddyliau na'r awr ddaeth trwy y tân ;
 Cenfigen nid oedd yno, na bron yn llunio brad,
 Trysorau mwy ardderchog nag aur a chyfoeth gwlad.
 Pa le mae'r egin tyner fu'n tyfu yna gynt ?
 Ddifäwyd rhai o'r blodau gan fin y deifiol wynt ?
 Do, torrwyd rhai yn gynnar, daeth cennad nef i lawr,
 Ac aeth â rhai o'r blodau i ardd y Wynfa Fawr.
 Tra eraill a adawyd dros ennyd yn y byd ;
 Ac nid yw'n bosib dyfod am unwaith eto 'nghyd ;
 Mae rhai tu draw i foroedd, ac eraill ar y don,
 Fu'n blant yr ysgol unwaith yn ddifyr chwarae'n llon.
 Mae'r ysgol eto'n aros mor gadarn ag erioed,
 Ac enwau rhai fu yno a dorrwyd yn ei choed ;
 Ond llaw yr un a'u torrodd sydd heddiw'n wael ei wedd
 Yn gorffwys yn y fynwent, a'r ywen uwch ei fedd.
 Yr adgof ddaw yn felys pan fydd yn amser cnau, -
 Fe gofiaf am yr helynt pan fyddai un neu ddau
 Ar ôl heb ddod i'r ysgol - melysed fyddai'r Allt !
 A'r ysgolfeistr, yntau, yn dweud y drefn yn hallt.
 Hen lwybrau fy ieuenctid, anwyled yw y rhain ;
 Fe gofiaf yr adwyon, a'r holl dwmpathau drain ;
 Wrth gerdded heibio'r ysgol rwy'n hoffi syllu'n syn ;
 A charaf feini'r muriau, a llwybrau Coed-cae-gwyn.

Digon syml, medd rhywun. Ie, ond dyna gamp cerdd o'r dosbarth hwn. Disgwyliwn bethau amgen gan y cyfaill hwn. Pe bai ei fedr gan rai â mwy o feddwl ohonynt eu hunain nag ef, gwnelent wrhydri. Cymered yntau yr hynt, er mai 'milwr mewn lifrai melyn ydyw'.

Yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor, 1927, fe enillodd W.T. Williams y gadair. Y beirniad oedd neb llai na Bardd yr Haf ei hun, R.Williams Parry. 'Y Lloer' oedd y testun a ffugenw'r bardd arobryn oedd Y Macwy Prudd.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]