Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurfiwyd Undeb Gwarcheidaid Pwllheli yn sgil Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion (the Poor Law Amendment Act, 1834). Cyn hynny, y plwyfi unigol (dan arolygaeth yr ynadon yn y Llys Chwarter) oedd wedi bod yn gyfrifol am gynnal eu tlodion eu hunain, ond oherwydd symudiadau yn y boblogaeth a phwysau ar ambell i blwyf, ffurfiwyd undebau, sef cynghreiriau o blwyfi i ofalu ar y cyd am dlodion yr ardal, gyda thloty, neu "wyrcws", ym mhos undeb.

Yr oedd Uwchgwyrfai yn cael ei rannu rhwng ddwy undeb: Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon ac Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli. Llanaelhaearn oedd unig blwyf Uwchgwyrfai i syrthio o fewn ffiniau Undeb Pwllheli.ym 1837, penodwyd John Lloyd, Trallwyn, yn gadeirydd. Etholwyd gwarcheidwad ar gyfer pob plwyf. Yn achos Llanaelhaearn, etholwyd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon. Gwerth trethiannol Llanaelhaearn ar gyfer ardreth y tlodion oedd £195.

Gweler hanes yr Undeb yn llawnach ar wefan Rhiw.com[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]