Tywysogaeth Gogledd Cymru

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ar ôl dymchweliad dinasti'r Tywysogion gan y brenin Iorwerth I ym 1284, cymerodd hwnnw diroedd a oedd gynt dan reolaeth Llywelyn a'u troi'n dywysogaeth dan ei reolaeth ei hun. Diddymwyd y gyfraith droseddol, ond yr hyn nad yw'n hysbys weithiau yw'r ffaith fod y gyfraith sifil, yn ymwneud â threthiant, eiddo a materion nad oeddent yn droseddol eu natur yn parhau fel yr oedd gynt, a'r un swyddogion i raddau yn ei gweinyddu. Ffurfiodd Iorwerth ei dir newydd ar batrwm Lloegr gyda siroedd Caernarfon, Môn a Meirionnydd yn uned newydd a elwid yn 'Dywysogaeth Gogledd Cymru, gyda'i chanolfan lle 'roedd Trysorlys a Siawnsri yng Nghaernarfon. Beth a ddigwyddodd yn ymarferol oedd bod Llys Aberffraw y Tywysogion Cymreig wedi ei feddiannu a'i symud i Gaernarfon. Dan lefel y siroedd, fodd bynnag, arhosai ffiniau a threfn yn debyg iawn i'r hyn a fu gynt, gyda'r patrwm o gantrefi, cymydau a threfgorddi, ynghynt â'r un patrwm o denantiaeth gaeth a rhydd.

Ceir darlun o'r drefn hon yn Stent 1352 (sy'n debyg i Lyfr Domesday Lloegr) a elwir yn aml yn Record of Caernarvon.