Tyrpeg y Berth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Cafodd Tyrpeg y Berth ei enwi ar ôl fferm Berth. Safai lle cyfarfyddai'r ffordd dyrpeg gynt o gyfeiriad Clynnog Fawr trwy bentref Tai'n Lôn â'r hen ffordd fawr trwy bentref Llanllyfni i gyfeiriad Pant-glas, ychydig i'r de o dai Pont-y-Crychddwr. Roedd yn safle tollborth pur bwysig a phroffidiol yn ystod hanner cyntaf y 19g., ond edwinodd pwysigrwydd y giât, a hynny, mae'n debyg, oherwydd i Gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon agor ei lein ym 1866, gan leihau'r angen am deithio ar hyd y ffordd dyrpeg. Arferai Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod giâtiau tyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Rhwng 1840 a 1860, cododd rhent blynyddol y dollborth hon o £59 i £110, gan adlewyrchu twf yn y nwyddau a gludwyd ar hyd y lôn. Wedi hynny, gostyngodd y rhent i £33 ym 1874 a £42 ym 1881. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, ym 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69