Trwyn Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Trwyn Dinlle yn benrhyn tua dwy filltir ohyd rhwng y môr a'r Foryd. Yr oedd yn ardal dywodlyd gyda thwyni tywod yn gorchuddio llawer ohono, a thir pori a adferwyd o'r môr yn ystod y 19g trwy godi'r Cob, sef morglawdd ar yr ochr ddwyreiniol. Ar ddechrau'r ail Ryfel Byd, gwastadawyd ardal eang ac adeiladu Maes Awyr Caernarfon, a elwid i ddechrau'n RAF Llandwrog. Yma hefyd mae Fferm y Warren, gyda'r enw'n tystio i ddefnydd y trwyn tywodlyd hwn fel cwningar (man magu cwningod ar gyfer bwyd). Ym 1775, cododd Thomas Wynn, Arglwydd Newborough wedyn, amddiffynfa Caer Belan rhag ymosodiadau trwy Abermenai ar adeg Rhyfel Annibyniaeth America. Adeiladwyd harbwr bychan tua 1824 i hwyluso difyrrwch y teulu o hwylio cychod a iotiau.

O ben draw'r trwyn, cychwynnai Fferi Abermenai am Ynys Môn.

Arferai pendraw'r trwyn fod yn ddarn digyswllt o blwyf Llanwnda ond ers ail hanner y 20g, trosglwyddwyd y darn hwnnw i Landwrog, fel mae'r trwyn erbyn hyn yn gyfangwbl o fewn ffiniau plwyf a chymuned Llandwrog.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma