Treth Aelwyd 1662

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Rhan o Asesiad Treth Aelwyd Sir Gaernarfon 1662

Gwnaed asesiad o'r rhai oedd yn gorfod talu'r Dreth Aelwyd (neu Dreth Simnai) ym 1662 pan gyflwynwyd y dreth newydd hon am y tro cyntaf.

Y Dreth Aelwyd

Pasiwyd deddf i sefydlu’r dreth aelwyd gan y Senedd ym 1662, a hynny’n barhaol, er mwyn diwallu anghenion gwariant cyffredinol y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn ei lyfr ar drethi (1662) amddiffynnodd Syr William Petty (1623-1687) y dreth aelwyd fel toll gronedig i gwrdd â’r angen gwleidyddol i ddileu’r diffyg o £300,000 yn y gwariant cyffredinol blynyddol o £1.2 miliwn, a bu hyn yn ddigon i ddarbwyllo'r Senedd i ganiatáu'r dreth. Caniataodd Senedd Iwerddon hefyd dreth aelwyd ym 1662, ond ni chafodd ei chyflwyno i'r Alban yn dilyn yr Adferiad. Ym 1689 diddymodd y Senedd y dreth aelwyd yng Nghymru a Lloegr, ac fe’i dilynwyd gan y dreth dir (1692), y dreth stamp (1694) a’r dreth ffenestri (1697), a oedd, fel y dreth aelwyd, yn cael ei chodi ar eiddo trethadwy ar sail eu maint a'u cyfoeth, ond gyda'r fantais nad oedd angen gwneud archwiliad mewnol o gartrefi fel y bu gyda'r dreth aelwyd.

Treth eiddo a godwyd yn ôl nifer y lleoedd tân oedd y dreth aelwyd. Roedd Deddf 1662 a gyflwynodd y dreth yn nodi y bydd ‘pob annedd a thŷ ac adeiladau eraill … yn gorfod talu ….am bob aelwyd, tân a stof….y swm o ddau swllt bob blwyddyn’. Yr oedd yr arian i'w dalu mewn dau randaliad cyfartal ar adeg Gŵyl Fihangel (29 Medi) a Gŵyl ein Harglwyddes (25 Mawrth) gan y deiliad neu, os oedd yr eiddo yn wag, gan y perchennog yn unol â rhestr a luniwyd ar sail sirol ac a ardystiwyd gan yr ynadon heddwch yn eu cyfarfodydd chwarterol (h.y. y Sesiynau Chwarter). Ar y dechrau, penteuluoedd oedd yn gyfrifol am ddatgan nifer yr aelwydydd yn eu heiddo, gyda rheolau i'w rhoi ar waith ar gyfer eithrio. Roedd y rhestrau o ddeiliaid tai yn rhan hanfodol o weinyddu’r dreth er mwyn gallu gwirio’r dogfennau, ac am ddau gyfnod, 1662-1666 a 1669-1674, dychwelwyd copi o’r rhestr berthnasol i’r Trysorlys a chadwyd un arall yn lleol gan glerc yr heddwch (sef clerc yr ynadon) a weinyddai’r Llys Chwarter.

Roedd penteuluoedd rhai aelwydydd yn cael eu hesgusodi rhag talu’r dreth, sef y rhai mewn tai a oedd eisoes wedi’u heithrio rhag talu trethi lleol i’r eglwys a’r tlodion oherwydd tlodi neu ddiffyg modd, a’r rhai a oedd yn byw mewn anheddau yr oedd gwerth rhent yr eiddo’n bunt neu lai y flwyddyn. Cyfyngodd Deddf 1664 yr eithriad ymhellach drwy ei gyfyngu i anheddau heb fwy na dwy aelwyd. Hynny yw, os oedd gan yr eiddo dair aelwyd yr oedd yn rhaid i’r preswylydd dalu hyd yn oed pe gallai hawlio eithriad ar sail arall. At hynny, ni ellid eithrio unrhyw aelwyd a oedd wedi bod yn drethadwy yn flaenorol oni bai ei bod yn mynd yn adfail. Roedd trydydd categori o aelwydydd, sef y rhai mewn ffwrneisi ac odynau a rhai mewn ysbytai neu elusendai (gyda refeniw blynyddol o dan £100) hefyd wedi'u heithrio.

Drwy gydol hanes y dreth cyfrifoldeb swyddogion y plwyf yn bennaf oedd adnabod y rhai nad oeddent yn atebol, ac yn bur fynych câi'r casglwyr trethi proffesiynol eu herio gan achosi gwrthdaro rhwng y ddwy set o weinyddwyr. Diwygiwyd y ffyrdd y casglwyd y dreth aelwyd, yn rhannol er mwyn cynyddu’r elw i’r targed o £300,000 y flwyddyn ac yn rhannol o ganlyniad i newidiadau gwleidyddol. I ddechrau ym 1662 ymddiriedwyd asesu a chasglu i swyddogion llywodraeth leol - mân gwnstabliaid neu ddynion y degwm dan oruchwyliaeth yr uchel gwnstabliaid a'r siryfion. Aeth y dreth yn llai a llai llwyddiannus fel ffordd o drethu eiddo, fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith fod ei gweinyddu wedi ei ganoli trwy werthu'r hawl i gasglu’r dreth i asiantwyr a elwid yn “ffermwyr treth”. Ym 1684 bu newid pellach, pan roddwyd y cyfrifoldeb i swyddogion y Llywodraeth, sef y swyddogion tollau. Daeth y dreth i ben ym 1689.[1]

Treth Aelwyd Uwchgwyrfai 1662

Dyma'r rhestr o'r rhai yn Uwchgwyrfai a aseswyd fel rhai yr oedd yn orfodol iddynt dalu'r Dreth Aelwyd. Credir mai 1662 yw dyddiad tebygol y ddogfen, er y gallai ddyddio o 1663 - nid oes dyddiad ar y ddogfen ei hun a rhaid ei dyddio ar sail rhai o'r manylion sydd ynddi. Fe'i cadwyd ymysg papurau'r Llys Chwarter.[2] Dyma unig restr gyflawn o drethdalwr y dreth hon ar gyfer Sir Gaernarfon sydd wedi goroesi.

Adysgrifiwyd y ddogfen yn wreiddiol gan y diweddar Leonard Owen tua saith deg mlynedd yn ôl.[3] Cadwyd sillafiad y ddogfen wreiddiol yn achos enwau personol. Newidiwyd rhai pethau eraill isod, trwy gyfieithu yr ychydig eiriau Lladin a Saesneg i'r Gymraeg, a hynny ar gyfer darllenwyr y Cof - yn bennaf rhai yn dynodi gweddwon a chrefftwyr. Serch hynny, gadawyd y disgrifiadau o statws, sef Esqr (yswain) a gent (bonwr), gan fod ystyr penodol i'r rhain o ran rhengoedd statws y gymdeithas.

Mae'r rhif mewn cromfachau ar ôl ambell enw yn dynodi nifer yr aelwydydd yn nhŷ'r unigolyn dan sylw. Os nad oes rhif, gellir cymryd mai un aelwyd yn unig oedd yn y tŷ dan sylw.

Plwyf Clynnog

  • Thomas Bulkeley, Esqr (9)
  • Edmund Glynne, Esqr (6)
  • William Wynne Esqr (3)
  • George Twistleton, Esqr (3)
  • Jane Glynne, gweddw (6)
  • Beniamin Lloyd, gent (2)
  • Harry John William
  • Gruffith Prees
  • John Parry
  • Robert Owen
  • Thomas Evans
  • John Gruffith John (2)
  • Alice verch Rees
  • Evan John dd Lloyd
  • Grace Morgan
  • John Griffith, melinydd
  • William Thomas Powell
  • William Owen, melinydd
  • Abraham Williams (2)
  • John Evans
  • Francis Robert
  • Richard Hughes
  • Katherine verch Hugh
  • Robert Cadwalader
  • Agnes verch Richard
  • John Hughes
  • Moris David
  • Thomas ap Willm Prichard
  • William John ap Moris
  • John Wynne
  • Thomas ap Willm Thomas
  • David ap Rich: Evan
  • Robert John Willms
  • John Owen (2)
  • Daniell John ap Morgan
  • William Probert ap Morgan
  • John Moris (2)
  • Harry Ellis
  • Lowrie Hughes
  • Hugh Johnson, gent (3)
  • Humphrey Hughes
  • William Morgan, gwehydd
  • Gruffith Lloyd, gent
  • William John
  • Robert Davies
  • William Probert John
  • Richard Owen
  • David Hughes
  • Morgan ap Willm Morgan
  • Hugh Prichard
  • Owen John ap Richard
  • Cadwalader John Owen
  • Thomas Moris
  • Robert Branton
  • William Roberts
  • Gruffith ap Hugh
  • Gruffith ap Richard
  • Hugh Parry
  • Thomas Powell
  • Gruffith Thomas
  • Jonett Roberts
  • Owen Moris
  • Agnes verch Evan
  • Evan John Gruffith
  • Humphrey John ap Hugh
  • John William, melinydd
  • Katherine verch William
  • Hugh Dd ap Richard
  • Hugh Meredith, gent
  • Robert Thomas
  • John Prichard
  • Owen Gruffith
  • Hugh Gruffith
  • Owen Robert
  • Robert Thomas
  • Hugh Owen
  • Hugh David
  • Owen Moris
  • John Probert
  • John Thomas
  • William Probt
  • David John Eigian
  • John Gruffith ap Rich:
  • David Evans (3)
  • Evan John Thomas (2)

Mae’r ddogfen wreiddiol wedi ei rhwygo yn fan hyn, a gall fod hyd at 8 neu 10 o enwau ar goll. Mae’n bur sicr mai dyma hefyd ddechrau'r rhestr o drethdalwyr ym mhlwyf Llanaelhaearn (gan ystyried y gyd-destun).

Plwyf Llanaelhaearn

  • Hugh Roberts
  • William John Dd
  • Hugh Gruffith
  • Ellis ap Charles
  • Thomas 0wen
  • Hugh ap Elliza
  • Robert Gruffith
  • Hugh ap Robert
  • Ffrauncis Gruffith
  • Hugh Probt Thomas
  • John Williams
  • Eliin Owen, gweddw
  • Robert Owen (2)
  • Gruffith Prichard (2)
  • David Gruffith
  • Hugh ap Evan
  • Owen Thomas
  • Thomas Prichard
  • John Gruff: Lewis
  • Edmund Pugh
  • Ellin Michaell
  • Richard Glynne, Esqr (2)
  • Edward Parry
  • John Pue Parry
  • Robert Tho: Lewis
  • Tho: Robert Owen
  • Richard Pue
  • Ellis Jones
  • Edmund Owen
  • Edward ap Edward
  • Hugh Jones
  • Robert Williams
  • Edward Phillipp
  • Edward Nicholas
  • Thomas Jon Thomas
  • William Wynne (2)
  • William Morris
  • Cadd Thomas
  • Hugh Frauncis
  • John Roberts
  • Jane verch John, gweddw
  • Owen John David
  • Owen Pue Probert
  • Katherine verch Hugh
  • Thomas Ievan
  • William John ap William
  • Evan Symon
  • William John Probert
  • Thomas Pue Probert
  • Gruffith ap William
  • Humphrey Prichard
Tho: Jon Thomas a Hugh Gruff: constabliaid y plwyf

Plwyf Llanwnda

  • Owen Hughes, gent (5)
  • Edward Madrin, gent (2)
  • Owen Mredith, gent
  • Gruffith Johnes
  • Robert Gruffith
  • Richard Brewton (2)
  • Hugh ap Rich: Gadlis
  • Owen Brewton
  • Thomas Lloyd
  • Symon Lloyd
  • Richard Thomas
  • Richard ap Robert, gwehydd
  • Thomas Lewis
  • John Gabriell
  • Thomas Arthur
  • David Lloyd
  • Margaret Parry
  • William Willms, teiliwr
  • Cadwald Willm Gruffith
  • William David John
  • John ap Richard Morgan
  • Katherine Morgan
  • Hugh ap Rich: ap Willm
  • William Powell
  • John Owen
  • Gruffith Williams
  • Marmaduke Roberts
  • Richard ap Hugh
  • Mary Meredith (2)
  • Harry ap William Parry
  • Hugh Jon Humffrey
  • Richard David, Llanfaglan
  • Thomas ap Evan
  • Richard Thomas (3)
  • Willm Prichard Jon (3)
  • Hugh Rowland
  • Gruffith Morris Owen
  • William Lawrence
  • William ap Ellis
  • Morgan Rowland
  • Richard Hughes
  • Owen Rowland
  • Morgan Williams
  • Rowland Parry (2)
  • Ellin John, gweddw
  • Ellis Gruffith
  • Moris ap Richard
  • Gwen John Mredith
  • Rowland Morgan
  • Agnes verch Richard
  • John ap Richard
  • Hugh ap Richard (2)
  • John Meredith
  • Hugh Owen
  • Richard Hill (2)
  • Gruffith ap Willm Probert
  • Rowland John
  • John Thomas
  • Willm Jon Piers
  • William ap Hugh
  • Evan Gruffith ap Hugh
  • Evan ap Willm John
  • Evan David
  • Jane Owen
  • Owen William
  • John Hughes
  • Robert Owen
  • John ap Hugh, melinydd
  • William Lloyd
  • Robert Willm, gwehydd
  • Fardin Andrew
  • William Gruffith (2)

Plwyf Llanllyfni

  • Rhytherch Edmund
  • Evan ap Willm ap Hugh
  • Rees Thomas
  • Robert Parry
  • Edmund Robt Parry
  • Hugh ap Robert
  • Evan John
  • Harry ap Hugh Gwynne
  • John ap Robt Wynne
  • John Thomas
  • William ap Humffrey (2)
  • Robert ap( Hugh Morgan
  • Hum: ap Evan Gruff:
  • Margerie vz Willm Jon
  • Wìlliam Roberts (2)
  • Jane verch Richard
  • Hugh ap Robert, crydd
  • William John
  • Richard ap David
  • Edward ap Robt ap Ievan
  • Ellin Thomas gweddw
  • Gruffith Vaughan, gent (5)
  • Thomas Wynne, gent (3)
  • John Evans, gent (2)
  • Humphrey Evans
  • Ellis John Gruffith
  • William ap Edward
  • Edward ap Owen
  • Evan John
  • John Ellis (2)
  • Hugh Dd a Rich: Robt
  • Gruffith ap Willm Gruff
  • Thomas ap Richard
  • Thomas ap Richard Owen (2)
  • Owen ap Richard
  • Edmund Thomas
  • Edmund Glynne (3)
  • Evan Gruffith
  • Robert Evans
  • Richard Williams
  • William Prytherch, clerc (4)
  • Richard Arthur
  • Richard Gruffith
  • David Lloyd
  • Evan John
  • Owen dd Lloyd
  • Lowrie vch Richard a Cadwalader John Willm
  • Owen ap Hugh Thomas
  • Morris Johnes
  • Cadd Jones (2)
  • Owen Jones
  • Rowland ap Hugh a’i fam (2)
  • Mary Lloyd, gweddw
  • Richard Williams
  • Abraham Gruffith
  • Gruffith Thomas
  • ..... Hughes
  • .....
  • .....
  • William Jones
  • Richard Jones
  • Cadd John Cadd
  • Robert Williams
  • Owen ap Evan (2)
  • Ievan ap Willm Pugh
  • Gwen(?) verch Willm a'i mab (2)
  • Katherine verch Evan, gweddw

Plwyf Llandwrog

  • William Lloyd, Esqr (3)
  • Robert Jones, clerc
  • David ap Richard
  • William ap Richard
  • Ellin Gruffith
  • Marry John
  • Morgan ap Hugh (2)
  • Edward Piers
  • Robert Humphrey (2)
  • John Thomas
  • Harry Glynne (2)
  • William Morgan (2)
  • John Lewis
  • Owen Edwards
  • John Edwards
  • Thomas Symon
  • William Owen (2)
  • Richard Owen
  • William Prichard
  • Ellizabeth Morgan
  • Hugh Lewis
  • Willm ap Richard, teiliwr
  • Grace vch Edward
  • Robert Morris
  • Joshua Willms
  • Robert Jon ap Hugh
  • Erasmus David
  • Roger ap Ellis
  • Lewis ap Richard
  • Robt John
  • John ap Willm Lewis
  • Edward Evans
  • Margaret Richard
  • Rowland Owen
  • Morris Owen
  • Ellizabeth verch Willm (2)
  • Richard David
  • Thomas Jones
  • William Arthur
  • David Thomas (2)
  • Lawrence Smith
  • Hugh Jones
  • William Rowland
  • Will iam Prichard
  • Edmund ap Hugh
  • Richard Williams
  • Jane verch Robert
  • Jon Willms a Hugh ap Willm
  • Willm Jon ap Hugh
  • Richard Willm Llowarth
  • Harry Williams
  • Harry Glynn, gent
  • Owen Morgan
  • Margaret Gruffith
  • John Edward
  • Morris David
  • Ellis David
  • John ap Hugh (2)
  • Owen Hugh a Mr Rich: Kyffin (4)
  • John Powell (4)
  • Harry ap Richard (2)
  • David ap Harry
  • Jane verch Richard
  • Dorothy Gruffith
  • John Gruffith
  • Thomas Rowland
  • Thomas ap Ievan Lloyd
  • Ffoulke William
  • Hugh Jones
  • Robert ap Willm ap Humphrey
  • Owen Roberts William ap Richard
  • David John Thomas
  • Jonett verch Harry
  • Morris Parry
  • Robert Owen
  • Thomas ap Richard
  • Hugh ap Rees Wynne
  • Thomas ap Morris
  • Nicholas Evan
  • Edmund Robert
  • Hugh Jon ap Rees
  • Lewis Pilton
  • Owen Williams
  • Edward David
  • David ap Robert
  • Thomas Lloyd
  • Edward Powell
  • Rowland John
  • Trevor Jones
  • Dd ap Hugh Morgan
  • Gruffith John ap Morgan
  • William ap Probert ap Humphrey
  • Thomas Owen
  • Agnes verch Ievan
  • Rowland Morgan
  • Ellin verch Hugh Gwynne (2)
  • Evan John
  • Mrs Ellin Glynne, gweddw (14)
  • Mrs Jane Glynne gweddw (7)

Y Dreth Aelwyd fel sail i ancangyfrif maint y boblogaeth

Ceir cofnod o ryw 370 o benteuluoedd yn Uwchgwyrfai, a gellir defnyddio’r swm yma i amcangyfrif (yn fras iawn) boblogaeth Uwchgwyrfai ym 1662. Trwy gychwyn gyda’r ffigwr o 370, rhaid wedyn amcangyfrif nifer y rhai oedd yn rhy dlawd i gael eu hasesu. Mae hyn yn anodd yn niffyg unrhyw gofnod o faint o gartrefi tlawd oedd yn bod, ond mae sawl academydd wedi awgrymu fod 50% yn ffigwr posibl. Wrth wneud y swm hwn, gwelir mai tua 740 o dai oedd yn Uwchgwyrfai tua 1662. Wedyn, rhaid defnyddio lluosogydd (sef y nifer tebygol oedd yn byw mewn tŷ ar gyfartaledd) i ganfod maint y boblogaeth. Y lluosogydd arferol a dderbynnir yw 3.9.

Gwelir o’r uchod mai bras iawn yw’r amcangyfrifon, ond a bwrw bod iddynt rywfaint o sail, gellir yn betrusgar gynnig cyfanswm o ryw 2900 fel nifer trigolion Uwchgwyrfai ar adeg y ddogfen uchod o 1662.

Nid yn unig dlodion a ddibynnai ar help gan y plwyf oedd yn cael eu hesgusodi, ond tenantiaid a rhai nad oeddynt yn berchen ond ar ddarn bach o dir, ac felly yn crafu byw heb unrhyw fodd i dalu trethi. Serch hyn, mae’n arwyddocaol nad oedd ond 39 o’r cyfanswm o 370 o benteuluoedd oedd yn ferched (gyda 9 yn cael eu disgrifio’n benodol fel gweddwon).

Gwelir fod crefft neu alwedigaeth ambell un yn cael ei gofnodi wrth ei enw, ond rhaid amau a yw hyn yn rhoi darlun clir o’r sefyllfa. Mewn cymdeithas lle'r oedd pawb yn ceisio cynhyrchu eu bwyd eu hunain, sef cymdeithas hunangynhaliol, byddai gan y rhan fwyaf rywfaint o dir, bod hynny’n eiddo iddynt neu’n ynghlwm wrth dŷ ar rent. Dichon felly mai ffordd o wahaniaethu rhwng dau berson gyda’r un enw yn yr un plwyf yw’r rheswm dros nodi crefft dyn. Ni ddylid felly cymryd mai dyna'r cwbl o grefftwyr a gweithwyr eraill oedd yn y cwmwd - er enghraifft, mae'n hysbys fod Abraham Williams yn borthmon.Serch hynny, difyr yw nodi ambell i felinydd, a gwehydd, ac un crydd.

Cyfeiriadau

  1. Addaswyd o nodiadau gwefan Hearth Tax Digital [1], (CC-SA-BY), cyrchwyd 22.6.2024
  2. Archifdy Caernarfon, Treth Aelwyd
  3. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Bangor 13495