Trefor Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Trefor Jones (1808-1860) oedd y gŵr y rhoddwyd ei enw ar bentref newydd Trefor ym 1856.

Chwarelwr profiadol a deallus ydoedd ac yn 42 mlwydd oed pan ddaeth i Drefor ym 1850 wedi cyfnod fel fforman i Samuel Holland yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn. Yn fuan gwerthodd Holland ei lês yn y Gwylwyr i John Hutton a'i bartner (cwsg), William Caldwell Roscoe o Lerpwl.

Dyma fel yr edrydd Holland yn ei Memoirs (y gwreiddiol yn Saesneg).

  ... am flynyddoedd bu'r chwarel hon (Y Gwylwyr) yn llwyddiant; nid yn unig hon, ond hefyd bu iddynt ganfod carreg gyffelyb yn Llanaelhaearn, ar ochr ogleddol yr Eifl, ac agor chwarel yno ac adeiladu pentref a enwyd yn Bentref Trefor er anrhydeddu'r fforman, Trefor Jones ...

Ganwyd Trefor Jones ym 1808 yng Nghlwt-y-ffolt, Nebo, ym mhlwyf Llanllyfni, a daeth i'r Hendref (cyn sefydlu ac enwi'r pentref newydd) tua dechrau 1850, a chael llety am gyfnod ar aelwyd Gwydir Bach. Fe'i disgrifir fel gŵr duwiol a chadarn yn yr Ysgrythurau. Fe'i codwyd yn ddiacon yng nghapel Bethlehem (A), capel Maesyneuadd fel y'i gelwid ar lafar. Dywedid i aelodaeth yr achos ym Methlehem gynyddu'n sylweddol yn ystod blynyddoedd 1850-60 gan i nifer dda o'r chwarelwyr ymaelodi yno er ceisio ennyn ffafr y Fforman. Ond nid gŵr felly oedd Trefor Jones, ond yn Gristion onest ac unplyg, a heb dderbyn wyneb.

Ar y 12fed o Ebrill, 1856, cynhaliwyd seremoni fawr yn yr Hendref yng ngwaelod plwyf Llanaelhaearn pryd y gosodwyd carreg sylfaen pentref newydd i'w adeiladu gan[Y Cwmni Ithfaen Cymreig (Hutton & Roscoe). Enwyd y pentref yn Pentref Trefor, a Threfor Jones ei hun gafodd y fraint o osod y garreg sylfaen, gyda sofrenni mewn potel mewn ceudod o dani. Yno'n bresennol ar y diwrnod roedd Ebenezer Thomas (Eben Fardd) o Glynnog gerllaw, ac fe ddarllennodd wyth o englynion a gyfansoddodd ar gyfer yr achlysur. Mae'n rhagweld pethau mawrion i'r pentref newydd. Dyma ddau ohonynt sy'n cyfeirio'n benodol at Trefor Jones.

 Didor yw Trefor trwy ofal - i roi
     Ar waith yr holl ardal;
   Yn ddiatreg, teg y tâl
   Y ddime yn ddiwamal.
 I'ch meistriaid, gyda chymhwystra - rhoddwch
     Yr addas barch blaena';
   Ameniwch chi a minna
   Oll iddynt doed llwyddiant da.

Yn ystod y 1850au adeiladwyd swyddfa'r Cwmni Ithfaen Cymreig yn y Gorllwyn, ynghyd â thŷ bychan i'r Fforman (Prif Oruchwyliwr y chwarel bryd hynny), ac yn y tŷ hwn y treuliodd Trefor Jones weddill ei ddyddiau. Ar Fehefin 17, 1860, yn frawychus o sydyn yn dilyn salwch o ychydig ddyddiau'n unig, wedi deng mlynedd a hanner fel Goruchwyliwr 'Y Gwaith', bu farw Trefor Jones, yn 52 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Capel Helyg (A), Llangybi yn Eifionydd, yn y gornel bellaf o'r capel. Dyma'r geiriau dorrwyd ar garreg ei fedd.

Er Coffadwriaeth am 
TREVOR JONES 
O Chwareli Rival
Yr hwn a fu farw Mehefin 17eg, 1860
Yn 52 oed
This stone is erected by his grateful and
affectionate master JOHN HUTTON in whose 
services the last ten years of his life were spent 
'There are last shall be first' 
O'm hanwyl frawd ai yma'r wyt yn dawel heddyw'n cysgu, 
Mae bore yn dod cei godi'n harddach wedd ar ddelw Iesu.

Ar ei dystysgrif marwolaeth cofnodir y canlynol - disease of the heart and bronchitis - certified.

Yn Yr Herald Cymraeg fe'i disgrifiwyd fel gŵr cyfiawn, yn ofni Duw, ac yn rhyngu bodd meistr a gweithiwr, mewn bob cydwybod dda. Onid gwell un linell lawn / Er cof am y gŵr cyfiawn?