Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio


Mae pentref Trefor yn bentref chwarelyddol yng nghymuned Llanaelhaearn. Saif ar lan y môr, ac allforiwyd llawer o wenithfaen o'r harbwr.

Hanes yr Ardal[golygu]

Doedd dim pentref per se cyn dyfodiad y Chwarel yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tai gwasgaredig, ffermydd, oedd yn ardal yr Hendra, gan gynnwys y plasty hynafol Elernion. Cafodd y pentref ei enwi ar ôl enw Stiward y chwarel, Trefor Jones, gan berchnogion y chwarel yn 1856.