Trefgorddi Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Cyffredinol[golygu]

Yn ystod y Canol Oesodd dan y Tywysogion ac wedyn o dan reolaeth Seisnig hyd at 1536 rhannwyd y wlad at ddibenion gweinyddu a threthu'n gantrefi (megis Arfon), cymydau (megis Uwchgwyrfai) ac wedyn trefgorddi, unedau oedd rhywfaint yn llai na'r plwyfi a chymunedau yr ydym yn gyfarwydd â nhw.

Fel arfer, yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n dod o dan reolaeth uniongyrchol y Tywysog. Iddo fo, trwy ei swyddogion y Rhaglaw a'r Rhingyll, y telid pob rhent a 'dirwy', sef taliadau ar achlysuron penodol megis etifeddu'r hawl i fod yn denant, ac iddo fo yr oedd angen cyflawni ambell i wasanaeth megis atgyweirio melin yr arglwydd, cludo ei nwyddau a chynnal yr arglwydd neu ei swyddogion pan oeddynt ar eu taith trwy'r cwmwd.

Bu i'r tywysogion weithiau drosglwyddo eu hawliau i sefydliadau eglwysig fel modd i sicrhau gwaddol iddynt - ac, yn ôl pob ymddangosiad, i geisio maddeuant am eu pechodau mewn cyfnod pan oedd yr Eglwys Babyddol yn honni bod modd prynu iachawdwriaeth yn y byd a ddaw. Yr mwy o hanner trefgorddi Uwchgwyrfai wedi eu neilltuo i ddarparu cynhaliaeth i'r Eglwys a'i sefydliadau yn y modd yna, a hynny'n rywbeth o eithriad i'r sefyllfa arferol mewn cwmwd - er bod y trefgorddi a neilltuwyd, at ei gilydd, yn llai o ran arwynebedd na threfgorddi a arhosai o dan y Tywysog. Beth bynnag am hynny, mae'n debyg fod gofyniad ar bob tenant yn ddiwahân cyflwyno degwm o'u cynnyrch i'r offeiriaid lleol, wedi'r Goresgyniad ym 1284 beth bynnag - bu'n gyfraith yn Lloegr ers yr 8g. ac unwaith y daeth dylanwad y Normaniaid yn gynyddol amlwg yng Nghymru ar ôl 1066 bu cynnydd yn yr arfer o fynnu degwm, ac yn sicr erbyn tua 1400 yr oedd yr arfer yn gyffredin iawn - mae Siôn Cent y bardd yn annog i bobl eu talu heb gwyno, fel rhan o fywyd rhinweddol.[1]

Rhestr o'r trefgorddi[golygu]

Mae erthygl ar bob un o'r trefgorddi ar gael yn unigol, lle nodir ffiniau neu leoliad, tenantiaid yn ystod y 14g., rhenti, ac ati, yn ôl y manylion sydd bellach ar gael i ni heddiw. Lle cafwyd hyd i ddogfen Ladin yn ymdrin â hyn ac sydd ar gael ar ffurf argraffedig neu'n electronig, ceisir rhoi cyfieithiad rhydd yng nghorff yr erthygfl berthnasol, y rhan fwyaf yn llyfr The Record of Caernarvon[2] neu erthygl gan Dr Colin Gresham ar siartr Aberconwy[3]

Tregorddi'r Tywysog[golygu]

* Bodellog - i'r de o'r Bontnewydd
* Dinlle - yn fras, rhan uchaf plwyf Llanwnda a'r rhan fwyaf o blwyf Llandwrog 
* Elernion - ardal Trefor
* Pennarth - ardal Aberdesach

Trefgorddi wedi eu neilltuo i roi cynhaliaeth i glâs ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[golygu]

Roedd gan denantiaid y terfgorddi hyn ddyletswydd i ddefnyddio melin y tywysog a thalu rhai ddirwyon i'r tywysog

* Clynnog yng ngwaelodion plwyf Clynnog Fawr
* Bryncynan yn ardal Pontlyfni
* Llanllyfni, sef rhan uchaf plwyf Llanllyfni

Trefgorddi a roddwyd i Abaty Aberconwy fel lluestai[golygu]

Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r abaty er nad oedd hyn yn atal swyddogion y Tywysog lleyg geisio codi trethi arnynt weithiau.[4]

* Cwm, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau Mynydd Bwlch Mawr
* Nancall, yr ardal o gwmpas Pant-glas
* Rhedynog Felen, sef rhan o blwyf presennol Llanwnda, rhwng y Dolydd a'r môr

Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni[golygu]

Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r esgob

* Llanwnda - sef y tir rhwng Bodellog a Rhedynog Felen, yn fras ardal Dinas a Saron heddiw.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation, (Caerdydd, 1962), tt.17, 238-9.
  2. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838
  3. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939)
  4. Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation, (Caerdydd, 1962), t.58