Tramffordd Chwarel Craig y Farchas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yn erthyglau Cof y Cwmwd ar ddechreuadau'r gwaith ithfaen yn Nhrefor (gweler yr Hen Ffolt a Chwarel Craig y Farchas) soniwyd fel y llwythid y cerrig sets i ddechrau ar gychod ar draeth Y Gorllwyn i'w cludo i longau wedi eu hangori ymhellach allan. Roedd hwn yn ddull trafferthus ac aneffeithiol ac roedd Y Gorllwyn yn agored i stormydd o'r gorllewin. Felly, penderfynodd y Cwmni Ithfaen Cymreig ddechrau'r 1850au sefydlu harbwr a chei newydd mewn lle mwy cysgodol ar draeth Gwydir yr ochr arall i Glogwyn y Morfa (neu Trwyn y Tâl) ac adeiladu tramffordd yno o Chwarel Craig y Farchas.

Aethpwyd ati ym 1853 i adeiladu'r dramffordd a gychwynnai yn Y Gorllwyn a mynd ymlaen heibio i hen Swyddfa'r Chwarel ac yna ar hyd Nant Mawr a Llawr Sychnant i'r Weirglodd Fawr (lle mae'r "Offis" a Cherbydau Berwyn heddiw). Oddi yno ai ymlaen yn syth heibio i fferm Y Morfa a thros bont a godwyd dros geg Afon Tâl ac ymlaen i'r harbwr a'r cei newydd (gweler yr erthygl ar Doc Bach). Erbyn Nadolig 1854 roedd cledrau wedi'u gosod ar y dramffordd ac roedd yn barod i'w defnyddio. Tynnid y wagenni ar ei hyd gan geffylau (dau fel rheol yn tynnu rhai llawn ac un yn mynd â'r rhai gwag yn ôl i'r Gorllwyn). Roedd stablau i'r ceffylau ger y Weirglodd Fawr ac yno hefyd y newidid ceffylau i dynnu'r wagenni weddill y daith i'r Cei. Yn y Weirglodd Fawr hefyd byddai llwythi mawr o gerrig sets yn cael eu stacio pan fyddai stoc ddigonol ohonynt ar y cei yn disgwyl llongau i'w llwytho.

Golygodd adeiladu'r dramffordd waith a llafur mawr. Ym mhen Y Gorllwyn i'r dramffordd bu'n rhaid adeiladu cob sylweddol i'w chludo o waelod ponciau Craig y Farchas ymlaen heibio i lôn Nant Bach a draw i Nant Mawr. Yn y pen arall wedyn i gludo'r dramffordd at y Cei bu'n rhaid cario miloedd o dunelli o wâst i godi'r cob anferth o'r Hen Efail (sydd bron wedi diflannu'n llwyr bellach) wrth odre'r Clogwyn dros geg llydan yr Afon Tâl ac ar hyd tir corsiog morfa'r aber hyd at y Cei. Defnyddiwyd y dramffordd hyd nes datblygwyd "Y Gwaith Mawr" ar Graig Cae'r Foty yn uwch i fyny'r mynydd ac a ddisodlodd Chwarel Craig y Farchas. Ym 1867 adeiladwyd yr Inclên Fawr fel y'i gelwir at "Y Gwaith Mawr" ac a oedd yn defnyddio llwybr yr hen dramffordd o'r Cei hyd at y Weirglodd Fawr a'r Offis cyn mynd ymlaen yn syth i fyny wyneb y mynydd. Mae hon yn parhau'n nodwedd gwbl amlwg o bentref Trefor o hyd ac yn parhau i gael ei defnyddio gan lorïau.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. I gael yr hanes yn llawn, gweler: Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor, (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai 2006), tt. 18-24.