Tollborth Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Safai tollborth Dolydd ar y ffordd dyrpeg rhwng Ffingar, Llanwnda a Phen-y-groes, yn ardal Dolydd, plwyf Llanwnda. Gyferbyn â'r dollborth yr oedd Efail Dolydd, gyda'r giât neu lidiart rhwng y ddau adeilad. Mae'n debyg y codwyd y tŷ toll yn unswydd ar gyfer y gwaith. Ar ôl i'r ffyrdd tyrpeg gael eu rhyddhau, a dim angen bellach am godi toll ar deithwyr, symudodd ffermwr Hendre, y codwyd y tŷ ar gornel tir y fferm, i mewn i'r tŷ, gan fod hen blas yr Hendre'n dadfeilio. Pan symudodd teulu'r fferm oddi yno i dŷ newydd pwrpasol ym 1919, rhoddwyd yr enw "Y Bwthyn" ar y tŷ. Fe'i chwalwyd ym mlynyddoedd olaf yr 20g, er mwyn codi tŷ modern (gyda'r un enw) ymhellach o'r ffordd.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth bersonol