Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae rhestrau o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr a oedd yn gorfod talu trethi (a elwid yn ‘sybsidïau’) i gwrdd ag anghenion cyllidol brenin Lloegr ar gael yn yr Archifdy Gwladol. Yn eu mysg mae rhestrau ar gyfer y blynyddoedd 1641 a 1664, lle cawn weld pwy oedd yn gorfod talu’r cyfryw drethi yng nghwmwd Uwchgwyrfai.

Rhestr 1641[golygu]

Gan droi’n gyntaf at restr 1641[1], cawn gip ar rai mwyaf cefnog y cwmwd gwta blwyddyn cyn cychwyn cythrwfl mawr Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y cyfeirir ato fel y Rhyfel Cartref yn Saesneg). Rhestrwyd pedwar yswain (armiger) ymysg y tri ar hugain o drethdalwyr, ac o leiaf dri ar ddeg o fonheddwyr (generosus), tair gwraig weddw oedd â thir, ac un offeiriad. Dyma’r rhestr yn llawn:

Thomas Glynn, yswain, Glynllifon
Thomas Glynn, yswain, Plas Newydd
William Glynn, Lleuar
Hugh Gwynne, Pengwern
Henry Humphreys, bonwr, Pant Du
Richard Glynne, bonwr, Bryn Gwydion
David Lloyd ap William 
Hugh John ap Hugh, bonwr
William Lewis ap William, bonwr
David ap John ap William, Bodychen, bonwr
Edward Lloyd, Cwmgware, bonwr
Owen Meredydd
Griffith ap William, bonwr
Dorothy Griffith, gweddw, [ Llethr Ddu, Llanaelhaearn, o bosibl]
Elizabeth ferch Richard Rowland, gweddw
Morgan Lewis, clerc
Rowland Morgan, bonwr
Owen Griffith, bonwr
Evan Hughes, bonwr
Mary Lloyd, gweddw
John Owen a’i fam, [Tŷ’n-y-coed, Clynnog, o bosibl]
William Glynne, bonwr, [o blwyf Clynnog, o bosibl]
Evan ap John Thomas

Disgwylwyd i Thomas Glynn, Glynllifon, dyn cyfoethocaf y cwmwd yng ngolwg yr asesydd, dalu £3 fel ei randaliad cyntaf a phedwar swllt ar hugain fel ail ddaliad (ac roedd disgwyl iddo dalu dau randaliad arall nad ydynt yn cael eu rhestru. Roedd tri yswain arall y cwmwd yn gorfod talu £2 ac un swllt ar bymtheg, a’r bonheddwyr £1 ac wyth swllt fel eu dau rhandaliad cyntaf.

Rhaid oedd i Babyddion dalu’r dreth hefyd, os oedd modd ganddynt, ac yr oedd un gŵr yn Uwchgwyrfai, Robert ap Rees Wynne, ynghyd â’i wraig Catherine, yn glynu at y ffydd Babyddol, a rhaid oedd iddynt hwy dalu un geiniog ar bymtheg yr un yn y lle cyntaf, er pe na chydymffurfiant trwy fynychu eglwys y plwyf, ordeiniwyd fod rhaid iddynt dalu dau swllt ac wyth ceiniog y pen fel ail ddaliad. Dyna’r wladwriaeth yn mynnu lladd dau aderyn gydag un ergyd – sef cynyddu’r trethi a gasglwyd a rhoi pwysau ar Babyddion i roi gorau i’w ffydd.

Rhestr 1664[golygu]

Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 hefyd ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[2]

Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.

Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n annarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[3] Dyma'r enwau darllenadwy:

Thomas Glynn, yswain,
George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr
Richard Glynn, yswain, Elernion
Edmund Glynn, Bryn Gwydion
William Wynne, ?Pengwern
Richard ?Ellis, bon[heddwr]
[enw annarllenadwy]
Jane Glynn, gweddw Plas Newydd 
Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr
Hugh Lewis, bon
Owen Hughes, bon, o bosibl o Fodaden
John Williams, bon
Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard
Randulph ....
Henry Glynn, Plas Nantlle, bon
Hugh Roberts a'i fab
Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr]
Lewis Williams
[enw annarllenadwy]
Robert Griffith, Llethr Ddu, Llanaelhaearn

Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hynny gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Gwladol, E179/220/158
  2. Archifdy Gwladol, E179/220/161.
  3. Mae'r enwau wedi eu copïo o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), passim.