John Robinson

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Thomas Robinson)
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd John Robinson yn un o'r ddau neu dri phrif berchennog chwareli yn Nyffryn Nantlle. Fe'i aned yn Lerpwl ym 1830. Mae'n bosibl ei fod wedi ei gofnodi yng nghyfrifiad 1851 yn byw yn 126, Brownlow Hill, Lerpwl, gyda'i fam weddw a gweddill y teulu, ac yn gweithio fel saer marmor.[1] Fe briododd yn Lerpwl gan gychwyn ei deulu yno, er ei fod wedi symud i Lundain tua 1861.

Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu. Fe nodir yng nghyfrifiad 1871 fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Roedd ei wraig Eliza'n ferch i ryw Cadben Sullivan o Gorc; bu farw'n ifanc ac ail-briododd Robinson â Josephine Cooper o Lundain.[2] Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.[3].

Dywedir iddo fod yn un o gyfarwyddwyr Banc Challis yn Llundain, er nad oedd o fawr hŷn na 30 oed. Banc Challis oedd bancwyr cwmni British Slate Co. Ltd., cwmni a ffurfiwyd o fuddsoddwyr o Lundain i geisio adfywio Chwarel Fron. Ymddengys iddo gael ei ddanfon o Lundain i Ddyffryn Nantlle ym 1864 (er. mae'n ymddangos o adroddiadau yn y papurau lleol amdano fo a'i deulu fel ymwelwyr o Lundain neu Lerpwl hyd 1867, na symudodd i Ddyffryn Nantlle i fyw tan 1866-7). Ei rol oedd i gymryd reolaeth ar Chwarel y Fron a diddordebau eraill y cwmni mewn mannau mor bell â Chorris; tynnwyd allan o Gorris a sawl chwarel arall, gan ail-strwythuro'r cwmni ac ychwanegu Chwarel Cwm Eigiau yn Nyffryn Conwy. Yn y man symudodd i fod yn un o dri partner yn Chwarel Tal-y-sarn, a phan aeth cwmni'r chwarel honno i'r wal ym 1874, cymerodd y chwarel drosodd.[4]

Tra'n gyfrifol am Chwarel Fron, sylweddolodd fod y chwarel dan anfantais oherwydd nad oedd cysylltiad ar hyd rheilffordd neu dramffordd ac achosodd i dramffordd gael ei godi ym 1867 trwy Chwarel Tal-y-sarn oedd bellach dan ei reolaeth, i gysylltu â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y dramffordd hon yn Dramffordd John Robinson.[5]

Ym 1871, talodd am gael codi Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[6]

Dichon iddo ennill iddo fo ei hun yr enw o fod yn deg ac yn elusengar i'r rhai nad oeddynt mor ffodus ag o: er enghraifft, fo oedd prif gyfrannwr plwyfi [[Llandwrog] a Llanllyfni i gronfa i gynnal te parti i blant ysgol y fro a'r henafgwyr tlawd, i ddathlu Jiwbili'r Frenhines.[7] Beth bynnag am rinweddau'r Jiwbili ei hun, roedd achlysuron o'r fath yn fodd o roi ychydig fwyd a gorffwys i anffodusion y gymdeithas, a disgwylid i dirfeddianwyr chwarae eu rhan - y peth diddorol yma yw mai nid teulu Glynllifon oedd ar ben rhestr y rhoddwyr. Mae'r coffád iddo yn y papur lleol yn nodi ei fod yn weithgar iawn yn ddyngarol. Roedd yn arfer mynd i bob rhan o'r chwarel a gallai wneud gwaith y chwarelwyr yn ogystal â rheoli'r cwmni a honnir iddo ennill iddo fo ei hun barch a theyrngawrch ei weithlu.[8]

Parhaodd i fyw i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn hyd ei farwolaeth o glefyd y galon. Daeth yn gynyddol ddylanwadol yn y sir, gan wasanaethu ar sawl bwyllgor o'r Blaid Geidwadol (er y dywedwyd ei fod yn cadw ei fusnes a'i wleidyddiaeth yn hollol ar wahân) ac yn y man roedd wedi ei godi'n warcheidwaid Undeb Deddf Dlodion Caernarfon, yn un o ymddiriedolwyr harbwr Caernarfon ac yn ynad heddwch.[9][10] Fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1899 a hyd ei farwolaeth yn nechrau 1900.[11] Bu farw Ionawr 1900.[12][13] Gadawodd ystad gwerth bron i £51000 yn ei ewyllys.[14]

Fe'i olynwyd gan ei fab Thomas. Cariwyd ymlaen â gwaith y tad, gan ehangu Chwarel Braich yn ystod prinder llechi adeg Streic y Penrhyn, 1900-03. Cyfunodd chwareli'r teulu (sef Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt) o dan un cwmni ym 1904 dan enw The Talysarn Slate Quarries Co Ltd. Bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, o'r diciau, gan adael yr eiddo i'w tair merch dan reoilaeth ymddiriedolwyr.[15] Mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio i rinweddau'r tad a'r mab: [16]:

"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nanlile, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adfe dy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd LIun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar an adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei fercoh hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eag o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedlgaeth le prydnawn dydd Gwener." 

Ni ddylid cymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a fedyddiwyd ym 1777 ac oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ôl y llyfr cyfrif.[17] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad â'r rhain.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiad 1851, HO 107/2183.
  2. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  3. Archifdy Gwladol, RG10/5714.
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.243-53.
  5. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.248
  6. Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [1] cyrchwyd 29.10.201
  7. North Wales Chronicle, 26 Mehefin 1897
  8. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  9. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  10. Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru, 1895, t.537.
  11. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [2], cyrchwyd 29.10.2018
  12. Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371
  13. North Wales Express, 19 Ionawr 1900
  14. Caernarvon &Denbigh Herald, 23 Mawrth 1900.
  15. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.231-3
  16. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905
  17. Archifdy Gwladol, RG9/4338.