Thomas Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ysgolhaig ac arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg oedd Syr Thomas Parry (1904-1985), a hanodd o'r Gwyndy, Carmel. Roedd yn frawd hŷn i'r llenor ac athro ysgol, Gruffudd Parry. Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a aned i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel. Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry ; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams.

Mynychodd Thomas Parry Ysgol y Babanod, Carmel, Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon ac Ysgol Sir Pen-y-groes. Ym 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru. Ar ôl graddio gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg aeth ymlaen i wneud ymchwil a chafodd yrfa academaidd hynod ddisglair. Cyhoeddodd nifer sylweddol o gyfrolau ac ysgrifau ar wahanol feysydd yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Ymysg ei weithiau pwysicaf mae ei olygiad meistrolgar Gwaith Dafydd ap Gwilym, a fu'n gyfrwng i sefydlu'r canon swyddogol o waith y bardd; hefyd ei arweiniad safonol i hanes llenyddiaeth Gymraeg, sef Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900; a'r gyfrol The Oxford Book of Welsh Verse. Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr ac wedyn, bu'n barddoni'n gyson a hefyd yn gweithredu fel beirniad sawl tro ar gystadlaethau'r Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Er iddo droi fwyfwy at weinyddu ar ôl dilyn gyrfa academaidd bur hyd y 1950au, parhaodd i olygu ac ysgrifennu yn gyson weddill ei oes.

Llanwodd swyddi pwysig yn ystod ei yrfa, a ddechreuodd gyda swydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle darlithiai yn Adrannau'r Clasuron a'r Gymraeg. Bu wedyn yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol (1953-58), ac wedyn yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (1958-69). Bu hefyd yn Gadeirydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Fel cenedlaetholwr cadarn o'i genhedlaeth, wedi iddo ymddeol fe ddefnyddiodd ei ddylanwad fel aelod o sawl mudiad a chorff cenedlaethol i hyrwyddo datblygiadau manteisiol i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, a hynny'n aml yn wyneb gwrthwynebiad o sawl tu. Roedd yn un o'r "tri gŵr doeth" a bwysodd ar Lywodraeth San Steffan i newid ei meddwl a chaniatáu sianel Gymraeg.

Disgrifir ef gan Derec Llwyd Morgan fel "piwritan o Arfon" ac yn sicr roedd yn ddyn o egwyddorion cadarn a barn gref am bethau. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dywedir iddo wrthod cael ei urddo'n farchog yn y lle cyntaf, ond wedi gweld Syr Idris Foster (Athro'r Gymraeg yn Rhydychen) yn derbyn yr 'anrhydedd', cytunodd yntau i dderbyn y teitl, a dichon iddo ddefnyddio'r statws hwnnw ymysg rhai sy'n coleddu'r fath bethau i hyrwyddo Cymreictod.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler erthygl Derec Llwyd Morgan yn Y Bywgraffiadur ar-lein lle ceir manylion llawn am ei yrfa a'i gyhoeddiadau:[1]