Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, (3 Ebrill 1802 - 15 Tachwedd 1832) yn ail fab i Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, a'r mab cyntaf i gael ei eni i ail wraig hwnnw, sef Maria Stella. Bu farw mab hynaf yr Arglwydd 1af, sef John Wynn ym 1800, cyn geni Thomas John.

Fe'i addysgwyd gan diwtor preifat dan oruchwyliaeth David Hughes, Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen o 1810, pan ail-briododd ei fam a cholli ei gafael ar ei meibion. Aeth i Ysgol Rygbi ym 1816, a choleg Eglwys Crist, Rhydychen, ym 1818. Daeth i'w etifeddiaeth ym 1823, pan oedd ei gyfoeth, yn ôl un amcangyfrif, werth £113,000 i gyd, gydag incwm o renti o bron i £14000 y flwyddyn, er bod llawer o ddyledion ac achosion mewn Siawnsri yn creu trafferthion. Er ei ymdrechion i wella cyflwr yr ystâd trwy amgáu tiroedd comin Llandwrog a Llanwnda ar ôl cael ei ethol i'r Senedd, fe wynebodd wrthwynebiad ffyrnig y werin yn lleol a chan rai mwy aristocrataidd yn y sir, a rhaid oedd gollwng y bil a'i obeithion am gau tir comin. Yn hyn o beth, roedd Griffith Davies yn ddylanwadol iawn, fel mab i dyddynwr ar y comin a chyfrifydd gyda ffrindiau trwy ei fusnes yn y Senedd ac mewn uchel swyddi yn Llundain.[1]

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1826, a daliodd y sedd tan 1830 pan wrthododd ail-sefyll. Bu'n weddol weithgar yn y Senedd, yn arbennig ar faterion lleol a gwrth-Babyddol. Bu farw o'r diciáu, yn ddi-blant a heb briodi ym 1832 , gan adael ei deitl i'w frawd, Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Wynn, Thomas John 2nd Baron Newborough (I), (1802-1832), of Glynllifon, Caern.", (The History of Parliament: the House of Commons 1820-18332, gol.D.R. Fisher, 2009) ar gael ar lein:[1]
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3.