Thomas Bulkeley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Aelod Seneddol ac aelod uchel o’r fonedd yng Ngwynedd oedd Thomas Bulkeley o’r Dinas, Llanwnda.

Ganwyd yn fab i’r Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill, Biwmares. Cyn symud tua’r Dinas i fyw, roedd yn byw ym Maes y Castell yn Nyffryn Conwy. Priododd gyda gweddw Thomas Williams, y Dinas sef Jane Griffith o Gastellmarch. Trwy ei briodas a gweddw Thomas Williams, etifeddodd ystâd y Dinas ac ymestynnodd ei ddylanwad dros yr ardal yma o gwmwd Uwchgwyrfai.

Roedd wedi cynrychioli Sir Gaernarfon yn y senedd yn 1679, 1680 a 1681. Dadleuai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod gan Thomas Bulkeley y gallu i weinyddu fel Aelod Seneddol mewn cyfnod anwastad yn Llundain rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr, ac ei fod wedi gwneud peth call o gadw allan o ymgyrch ffyrnig wleidyddol. Roedd wedi cadw ei sedd dros y sir, ac wedi cynrychioli’r bwrdeistref ac hefyd ei sir enedigol o Ynys Môn.

Collodd ei wraig yn 1687, a buodd yntau farw yn 1708. Roedd ei nai, Thomas Bulkeley wedyn yn byw ym Mlas Dinas am rhai blynyddoedd. Ymadroddodd y bardd gwerin, Owen Gruffudd farwnadau caredig iawn Thomas a Jane Bulkeley, ac adlewyrchai hyn ar natur y ddau aelod yma o fonedd Gwynedd yn y bymthegfed ganrif.

Ffynonellau[golygu]

W. Gilbert Williams Thomas Bwcle o'r Dinas Cymru (1912)

W. Gilbert Williams Moel Tryfan i'r Traeth (Cyhoeddiadau Mei, 1983)