Thomas Assheton Smith II

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Fe wnaeth 'Thomas Assheton Smith II (1776-1858) etifeddu ystadau'r Faenol a Tedworth (Swydd Hampshire) ar farwolaeth ei dad, o'r un enw, ar 12 Mai 1828.

Ganed ef yn Llundain 2 Awst 1776, a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. Am ddegawd o 1821-31 cynrychiolodd Andover yn y Senedd fel Ceidwadwr, ac yna bu'n aelod dros Sir Gaernarfon o 1832-41. Fel y rhelyw o'i ddosbarth breintiedig ar y pryd, roedd yn treulio llawer o'i amser yn hela - llwynogod yn arbennig - a gelwid ef gan ei gyfoedion the British Nimrod. Bu'n amlwg hefyd ar un adeg fel chwaraewr criced, a phan ymwelai â'r Faenol ei brif ddiddordeb oedd hwylio'i gychod ar y Fenai. Fel ei dad o'i flaen, rhannai ei amser rhwng Y Faenol a Tedworth. Fodd bynnag, datblygodd gryn dipyn ar ei stad a chwarel Dinorwig, a oedd erbyn diwedd ei oes wedi tyfu i fod yn un o chwareli llechi mwya'r byd (ynghyd â Chwarel y Penrhyn yn Nyffryn Ogwen). Roedd ei dad eisoes wedi sefydlu porthladd Y Felinheli (neu Port Dinorwic i roi eu henw hwy arno) i allforio'r llechi ac fe wnaeth y mab ddatblygu porthladd Y Felinheli ymhellach. Hefyd rhwng 1834 a 1848 bu'n gyfrifol am adeiladu'r rheilffordd sy'n rhedeg o'r Gilfach Ddu ar hyd glannau Llyn Padarn (lle mae trên bach Llyn Padarn bellach). Bu farw yn Y Faenol 9 Medi 1858, a chladdwyd ef yn Tedworth. Priododd Matilda, merch William Webber, Binfield Lodge, Sir Berks, ond ni chawsant blant. Yn dilyn marwolaeth ei weddw aeth stad Y Faenol i feddiant George William Duff, mab hynaf ei nith. Trwy'r cysylltiad hwnnw y mabwysiadwyd y cyfenw Duff Assheton Smith gan y teulu'n ddiweddarach. [1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Erthygl gan Emyr Gwynne Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein.