Teulu Meredydd, Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Teulu'r Meredyddiaid, Mynachdy Gwyn yn deulu o gryn statws a dylanwad yn yr 16g., ond ni lwyddai aelodau’r teulu i gadw eu lle yng nghymdeithas y sir fel yr aeth y ganrif nesaf yn ei blaen. Dichon mai’r rheswm am hynny oedd nifer y plant a gafodd y penteulu a’i wraig ar adeg pan ddisgwylid i sgweier roi peth o’i gyfoeth neu ei dir fel gwaddol wrth i’w ferched briodi, a phan geisiwyd rhoi peth tir neu addysg dda i’w feibion iau.

Roedd y teulu’n honni eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol trwy’r llinach wryw o Llywarch ap Brân. Mae’n debycach, fodd bynnag, fod eu llinach gywir yn mynd yn ôl i deulu Coedyrhygyn, Trawsfynydd. Ceir sôn am Thomas ap Gruffydd ap Jenkin fel y cyntaf o’r teulu i fyw ym mhlwyf Clynnog Fawr ar ôl symud o Goedyrhygyn. Priododd hwnnw â Marsli ferch Meredydd o Gwm Penamnen, Dolwyddelan, tad John Wyn ap Meredydd o Wedir, Llanrwst. Roedd ei theulu hi’n ddisgynyddion uniongyrchol o’r Tywysog Owain Gwynedd, ac ymysg y ddau neu dri theulu mwyaf dylanwadol yn y sir.

Prynodd Thomas ap Gruffydd ap Jenkin brydles ar drefgordd Cwm oddi wrth Syr John Puleston yng nghanol yr 16g., ac aeth y teulu i fyw, mae’n bur debyg, i Fynachdy Gwyn wedi hynny. Fe’i dilynwyd gan ei fab Meredydd ap Thomas, ynghyd â Rowland, a gafodd diroedd Coedyrhygyn, dwy ferch, Catherine a Margaret, a bach y nyth, Humphrey, a briododd â Lowri ferch Morris ap Hywel o’r Graeanog.

Mab Meredydd ap Thomas oedd Humphrey Meredydd, y cyntaf o’r teulu i fabwysiadu cyfenw yn ôl y ffasiwn Seisnig. Priododd ag Elizabeth Madryn o Fadryn yn Llŷn yn gyntaf ac, ar ôl ei marwolaeth hi, ail-briododd â Mary, merch Huw Gwyn, Penarth, Abererch, gan gryfhau ei gysylltiadau teuluol a fyddai wedi esgor ar fwy o ddylanwad mewn materion sirol. Ym 1614 gwasanaethodd fel Uchel Siryf y sir, ond bu farw ar ddechrau 1628. Ail fab Meredydd ap Thomas oedd Owen Meredydd, B.D., ficer Clynnog Fawr, a gladdwyd yn Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda ym 1612. Cafodd y ddau frawd hyn deuluoedd mawr; cafodd Owen a’i wraig, Margaret Holland, bedwar o feibion a dwy ferch a chafodd Humphrey chwe merch gyda’i wraig gyntaf, a phedwar mab a thair merch gyda’i ail wraig, Mary. Byddai costau priodi’r holl ferched i deuluoedd o safon fel y gwnaeth wedi rhoi straen rhyfeddol ar gyfoeth Humphrey Meredydd.

Daeth Pengwern â chyfran o diroedd y plasty hwnnw, a oedd gynt yn rhan o eiddo Plas Llanwnda, i un o frodyr iau Meredydd wrth i Owen Meredydd, y ficer ac ail fab Meredydd ap Thomas, briodi â Margaret Holland, gweddw Plas Llanwnda. Yn y man, etifeddodd trydydd mab Humphrey Meredydd ac Elizabeth Madryn yr eiddo hwn, a hynny ar ôl i’w ewyrth farw ym 1612.[1]

Hugh Meredydd, a fu farw ym 1670, oedd cynrychiolydd cenhedlaeth nesaf y teulu i fyw yn yr hen gartref; ei wraig gyntaf oedd Cordelia, un o ferched Syr William Glynn sgweier Glynllifon, a’i ail wraig oedd Gaynor, merch Syr John Wynn, Boduan. Priododd ei frawd, Humphrey Meredydd, â Grace, un arall o ferched teulu Glynllifon. Ni chafodd Hugh a Cordelia blant ond bendithiwyd yr ail briodas â chymaint â phedwar o feibion a chwech o ferched. Dichon fod y straen ariannol o sicrhau priodasau derbyniol i gymaint o ferched yn dechrau dweud ar olud bydol y teulu, ac nid yw’n syndod bod y dynion a briododd y merched hyn, er yn barchus a chyda pheth tir, yn is o ran eu statws a hynny mewn oes pan oedd statws a dylanwad ym materion cyhoeddus yn bwysig - ac yn ffordd o sicrhau swyddogaethau a fyddai’n esgor ar incwm ychwanegol, trwy ddylanwad perthnasau a noddwyr pwerus.

Ganwyd mab hynaf Hugh Meredydd, sef John, ym 1646, a daeth yntau hefyd yn berchennog Pengwern, Llanwnda, ar ôl ei ewyrth Owen Meredydd. Priododd â Mary Evans, Tan-y-bwlch, Maentwrog. Cafodd y ddau fab, Humphrey (marw 1747) a merch, Lowri (a briododd berchennog Llwyngwanadl, fferm gyfagos). Bu farw John ym 1694. Bu Humphrey felly yn sgweier Mynachdy Gwyn am ryw 53 o flynyddoedd, ac roedd yn dad i saith o feibion i gyd, a phump o ferched.

A’r teulu’n dal i fyw ym Mynachdy Gwyn, fe ddilynwyd yr Humphrey Meredydd hwnnw a fu farw ym 1747 gan ei fab hynaf, Humphrey arall, (1703-1766). Priododd hwnnw ag Ann Meyrick o’r Berthlwyd a Than-y-bwlch ym 1726. Fel yn rhan fwyaf o genedlaethau’r teulu, bu’n briodas ffrwythlon, gyda mab (Meyrick Meredydd) a thair o ferched, Ann, Jonet a Margaret. Meyrick, fodd bynnag, oedd Meredydd olaf y teulu. Ni chafodd ef a’i wraig ond un plentyn, Anna Maria, a fu farw ym 1828. Ei gŵr hi oedd John Mostyn, Segrwyd, Sir Ddinbych. Priododd ei hunig fab hi, John Meredydd Mostyn, â merch Mrs Thrale, cyfaill yr enwog Dr Johnson.[2]

Etifeddodd Anna Maria ystad Mynachdy Gwyn fel ag yr oedd erbyn canol y ddeunawfed ganrif, gydag ychwanegiadau a oedd wedi dod trwy briodas dros y cenedlaethau. Ceir erthygl ar wahân am yr eiddo a gynhwyswyd yn yr ystad ym 1778.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Llanwnda: I. Y Pengwern (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.4 (1942-3)), tt.22-3
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.206
  3. LlGC, Gweithredod Plas Tregayan 182-3