Tal-y-mignedd Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Tal-y-mignedd Uchaf yn fferm ym mhlwyf Llanllyfni ar ochr ddeuheuol rhan uchaf Dyffryn Nantlle ar lethrau Mynydd Tal-y-mignedd. Yr oedd yn rhan o Ystad y Faenol, ac ar ei thir fe ddatblygwyd Gwaith Copr Simdde'r Dylluan yn y 18-19g.

Tua 1800, Evan David oedd y prydlesai, ac yn ffermio'r tir. Cododd hwnnw ddau feudy newydd at y tri oedd yno eisoes, ynghyd â stabl ger y tŷ fferm. Yn ôl adroddiad arolygwr yr ystad, roedd popeth wedi ei gadw mewn cyflwr da gan Evan David. Tir pori oedd bron y cwbl, dim ond ychydig dros ddwy acer yn cael eu haredig. Roedd llawer iawn o goed derw ar y tir, peth coed ynn ac ychydig o goed bedw. Nodai'r asiant yr adeg hynny fod y tenant yn defnyddio coed ar y tir mewn dull braidd yn rhy barod.[1] Tybed ai cael gorchymyn gan y landlord i ail-blannu coed arweiniodd Walter Davies (Gwallter Mechain) i gyfeirio at blannu 2,000 o goed derw ‘mewn lleoliad uchel iawn' ar fferm Tal-y-mignedd ym 1810.[2]

Erbyn 1841, Anne Williams, dynes 35 oed gyda thri o blant oedd yn ffermio yno.[3] Tua'r flwyddyn honno, pan wnaed y rhestr ddegwm, yr oedd o aceri yn rhan o'r fferm, Thomas Assheton Smith, Ystad y Faenol oedd y perchennog ac Anne Evans oedd y ffermwr - mae'n debyg mai Anne Williams oedd honno ac wedi priodi -gan fod ei ddau fab â chyfenw Evans, a'r ferch ifanc yn Williams. Roedd y fferm yn cynnwys rhyw 670 o aceri, er bod 588 o'r rheiny'n ffridd agored a thir creigiog y mynydd uwchben y fferm. Roedd gweddill y tir wedi ei rannu'n nifer o gaeau: Cae Bach,Weirglodd y tŷ, Weirglodd y Mafod, ?Gwern y Glyder, Cae'r Tŷ Coch, Ffridd y Wengoch, Y Wern Goch, Cae bach (sef "Cae Bach" arall) a Ffridd y Cochion.[4] Erbyn 1851, roedd Anne Williams yn cael ei nodi yn y Cyfrifiad fel gwraig weddw mwynwr copr, a'i dau fab, 16 ac 13 oed yn fwynwyr copr. Roedd hi a'r plant wedi symud i dŷ ar dir Tal-y-mignedd Isaf, ac yr oedd ffermwr newydd yn Nhal-y-mignedd Uchaf, sef Henry Jones, 51 oed. Roedd 6 o blant ifanc ganddo, ac er cymaint oedd maint y fferm, dim ond un gwas, Richard Williams, oedd yn cael ei gyflogi ganddo. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ac yntau'n 70 ac yn ŵr gweddw, roedd un o'i feibion yn gweithio ar y fferm gyda fo, yn ogystal â dau was.[5] Erbyn 1891, Griffith Jones, 50 oed oedd y ffarmwr a'i fab hynaf, Griffith Owen Jones, 17 oed, yn fugail y fferm. Un gwas oedd yno, ac yn ddigon diddorol, John Wilson o Gaer, oedd hwnnw - er nad oedd gweddill y teulu ond yn siarad Cymraeg![6] Yr oedd Griffith Jones yn dal yno ym 1911, a'i fab Henry yn gweithio ar y fferm hefyd - er nad oedd y mab hynaf, Griffith Owen, yno,[7] ac roedd o'n dal yno'n ffarmwr ym 1939.[8]

Dylid cofio bod Tal-y-mignedd Isaf yn fferm ar wahân ar waelod Dyffryn Nantlle oedd yn rhan o Ystad Pant Du yn y cyfnod modern, er bod y ddau ansoddair Isaf ac Uchaf yn tueddu awgrymu mai un eiddo oeddynt ar un adeg, efallai cyn i arferiad gadael tir i'r mab hynaf yn unig ddod i rym yn gynnar yn y 16g.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800 (Caernarfon, 1973), t.54
  2. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Caernarfon/ Nantlle – Ardal 42 Llethrau uchaf Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 15.01.2021
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1841
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhestr Bennu'r Degwm, plwyf Llanllyfni [2], cyrchwyd 15.01.2021
  5. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851 a 1871
  6. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  7. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1911
  8. Cofrestr Cyngor Dosbarth Gwyrfai, 1939