Tal-y-mignedd Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ni ddylid cymysgu rhwng Tal-y-mignedd Isaf a fferm cyfagos, Tal-y-mignedd Uchaf, a oedd yn rhan o Ystad y Faenol. Rhwng y ddau Dal-y-mignedd, yr oedd bythynnod lle'r oedd tair aelwyd o weithwyr yn y 19g., sef Tal-y-mignedd Ganol]].

Dyddiau cynnar[golygu]

Aeth Tal-y-mignedd Isaf i feddiant teulu Humphreys, Pant Du, trwy briodas Willoiam Humphrey, Pant Du, rywbryd o gwmpas 1600, i Catherine, merch Hugh ap Robert, Plas Nantlle a'i wraig, Catherine ferch Dafydd ap Ifan, Graeanog, plwyf Clynnog-fawr. Yr oedd y Catherine hon yn etifeddes Tal-y-mignedd.[1]

Mae dyddiad 1712 a'r ddwy lythyren R G, uwchben y drws ar un o adeiladau'r fferm. Credir mai RG oedd Richard Garnons y perchennog ar y pryd, ac a fu yn byw hefyd yn fferm Pant Du ger Penygroes. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons arall, fel rhan o Ystad Pant Du. Er bod prif waith copr ar dir Tal-y-mignedd Uchaf yr oedd copr i'w gael ar dir Tal-y-mignedd Isaf hefyd, ac yn 1832, bu i Richard Garnons roi prydles am 31 mlynedd i gonsortiwm yn cynnwys Joseph Jones, Caernarfon, bonwr; Edward Carreg, Tý Gwyn, ysw.; Y Parch. James Smedley, Glanydon, Ynys Mon; William Roberts, Caernarfon, llawfeddyg; John Morgan Caernarfon, ysw.; a Jonathan Roose, Lerpwl, masnachwr. Byddai wythfed ran o'r copr a gynhyrchwyd yn cael ei roi i Garnons, rhaid oedd gweithio'r gloddfa am o leiaf 6 wythnos bob blwyddyn a chyflogi 20 dyn (er mwyn i Garnons sicrhau incwm teilwng, mae'n debyg) a thalu am unrhyw ddifrod i'r tir amaethyddol.[2]

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Owen Jones a'i ddisgynyddion[golygu]

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[3]

Hugh Jones, "Panama"

Hanai Owen Jones o Dyddyn Engan, Treflys, Eifionydd, a'i wraig Ann Owen o Nyffryn ym Mhen Llŷn. Ganwyd mab, John, iddynt, ym 1827. Cafodd eu hail mab, Hugh Jones ei eni yn y Benarth Fawr, Chwilog ym 1829, y flwyddyn cyn i'r teulu symud i gymryd tenantiaeth Tal-y-mignedd Isaf. Trwy'r gŵr hwnnw, sef Hugh y mab, y mae perchnogion presennol Tal-y-mignedd yn ddisgynyddion o linach yr enwog Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon. Priododd Hugh Jones â chwaer Robert Hughes, sef Catherine neu Catrin Hughes, Moelfre Mawr, Llanaelhaearn, a honno'n bum mlynedd yn hŷn nag ef.[4] Pasiwyd fferm Tal-y-mignedd Isaf yn y man i ddwylo Hugh Jones. Roedd yr Hugh Jones yma, a elwid yn arferol yn y gymdogaeth yn "Hugh Jones, Panama", wedi gweithio ar reilffordd ym Mhanama yn ystod 1850-52, yn ogystal ag Awstralia, cyn ddod adref i ffarmio Tal-y-mignedd Isaf. Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded yn rhwydd i'r capel yn Nrws-y-coed, pellter o ryw filltir. Cerddai'n araf iawn wrth ddwy ffon wrth iddo fynd yn hŷn, ac ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel. Dioddefai Hugh Jones oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded yn rhwydd i'r capel yn Nrws-y-coed, pellter o ryw filltir. Cerddai'n araf iawn wrth ddwy ffon wrth iddo fynd yn hŷn, ac ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel.[5]

Roedd yn un oedd yn flaenllaw iawn yn achos Eglwys Annibynnol Drws-y-Coed, ac yn enwedig am ei sêl a'i gyfraniad brwdfrydig i ail adeiladu'r Capel presennol ar ôl i'r cyn gapel gael ei ddinistrio gan y maen mawr, a ddisgynodd arno o Fynydd Meredydd ym 1882. Mae'r teulu wedi rhoddi cofeb ar y maen i gofio'r digwyddiad ar ymyl y brif ffordd lle safai'r hen gapel a godwyd ym 1836. Gweithiodd Hugh Jones yn galed at godi capel newydd. Fo a drafododd gyda sgweier Ystad y Faenol am gael prydles mewn man mwy diogel i godi capel newydd - gan fod â Saesneg bur dda (oherwydd ei arhosiad ym mhanama yn ôl pob tebyg). Fe hefyd a gludodd llawer o'r deunyddiau yn ei drol, gan hyd yn oed deithio gyda'r drol a dau geffyl i Gaer i nôl coed i adeiladu'r capel newydd, ac am sicrhau llechi ar gyfer y to fel rhodd oddi wrth W.A. Darbishire, Plas Baladeulyn, goruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd. Byddai hyd yn oed yn cynnig pás i rai yn y trol am geiniog y tro, gyda'r elw'n mynd at gostau'r adeiladu.[6]

Cafodd Hugh a Catherine un mab, sef Hugh Owen Jones, a aned 31 Mawrth 1861, ac a weithiai ar fferm y teulu.

Erbyn 1871 pan wnaed y cyfrifiad, cyfrifid fod gan Hugh Jones 769 o erwau, ac yn cyflogi tri dyn ar y fferm. Erbyn 1891, roedd y pâr yn dal i fyw yn Nhal-y-mignedd Isaf, a Hugh Owen Jones, yn ddyn 30 oed erbyn hynny, yn gweithio fel bugail y fferm. Deng mlynedd wedyn, a'r hen bobl yn dal i ffermio, cofnodir Hugh Owen Jones yn weithiwr fferm gyda wraig, Ellen, yn naw mlynedd yn iau nag ef, a thri mab iddynt: Hugh Owen (ganed 1894), John Owen (ganed 22 Gorffennaf 1896) a Robert H., yn 7, 5 a 3 oed. Yr oedd y rhain i gyd yn byw yn y tŷ fferm, ynghyd â dau was a morwyn. Ymhen deng mlynedd wedyn, roedd tri phlentyn arall wedi cyrraedd, Evan, William C. a Kate E. ond roedd yr hen Hugh Jones wedi colli ei wraig, Catherine. Tybed ai tua 1904 y digwyddodd hynny, gan fod unig ferch y teulu, Kate E., wedi ei geni tua'r flwyddyn honno. Mae'r cyfrifiad yn nodi fod Hugh, yr hen ffarmwr, wedi ymddeol o ffarmio, a'i fod yn 82 oed. Diddorol yw nodi mai Cymraeg yn unig a siaredid gan bawb yn y tŷ, heblaw am y trydydd mab, Robert, oedd yn gallu'r Saesneg hefyd.

Er iddo fyw bywyd digon gwyllt ac alcoholaidd pan yn ifanc, fe drôdd yn erbyn y diod wedi iddo brofi troedigaeth grefyddol. O hynny ymlaen fe dyfodd Hugh Jones yn ffigwr o bwys a dylanwad yn y gymuned, yn flaenor ac yn ysgrifennydd Capel Drws-y-coed am 35 o flynyddoedd, ac yn lladmerydd dros ddirwest efo'i deulu. Fe ddioddefai oddi wrth y crydcymalau ac yn y diwedd bu'n rhy llesg i gerdded yn rhwydd i'r capel yn Nrws-y-coed, pellter o ryw filltir. Cerddai'n araf iawn wrth ddwy ffon wrth iddo fynd yn hŷn, ac ar adegau, powliai ei ddau fab yr hen ddyn mwn berfa i'r Capel. Dywedir mai oherwydd damwain a ddigwyddodd iddo oedd achos yr anabledd i gychwyn: cafodd ei daro gan gerbyd y meddyg lleol wrth iddo farchogaeth ei geffyl, a thorrwyd ei goes yn ddrwg.

Bu farw Hugh Jones ym mis Ebrill 1915, yn 86 oed.[7] Ymddangosodd englynion coffa iddo yn yr Herald Cymreig:

"Mae egni "Talymignedd" - a'i fawr sel
Efo'r saint i'r diwedd,
Wedi magu edmygedd
Holl ffyddlon genhadon hedd."


"Ar Iesu cu, yn Nrws y Coed, - hoff wr,
Rhoes ei ffydd hyd henoed
Na pheidied gael hoff adeg
A gwynt teg, hyd yn gant oed!"

Ar ddyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf, chwalwyd y teulu i raddau, gan fod rhai o feibion y fferm yn gorfod ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd John Owen Jones, yr ail fab, wedi ymuno â'r llynges ym 1914 a gwasanaethodd ar hyd y rhyfel, yn rhannol ar HMS Albemarle. Ym 1916-17, cafodd Robert, y trydydd mab, ei alw i'r fyddin. Nid oedd meibion y ffermydd yn awyddus i ymuno gan gymaint eu hangen adref, ond yr oedd yn argyfwng hefyd ar y fyddin ac anfonwyd swyddogion allan i geisio dod o hyd i rai y gellid eu recriwtio trwy orfodaeth. Cawn y stori ganlynol mewn papur newydd ym 1917:

"Daeth y Preifat Robert Hughes, Talmignedd Isaf, adref i edrych am ei deulu. Erys ar hyn o bryd yn y Prysgoed. Ychydig sydd er pan alwyd ef i fyny, mewn siop ym Mettws-y-coed. Golwg dda oedd arno, a chafodd groeso calon gan bawb."[8]

Wedi colli ei dad, cymerodd Hugh Owen Jones y fferm drosodd. Cynhelid arolwg o'r boblogaeth ym 1939, a'r pryd hynny, dim ond Hugh Owen Jones a'i wraig Ellen (ganed 13 Hydref 1869) o'r teulu oedd yn byw yn y ffermdy ac yn dal i ffermio, a'r plant wedi hen symud oddi yno; roedd Gwilym Ll. Parry, gwas fferm a ddisgrifid fel "cowman", hefyd yn byw yn y tŷ.[9] Dichon nad oedd gwaith digonol ar y fferm i gadw'r pum mab adref beth bynnag. Wedi dychwelyd o'r rhyfel, cadwai Robert H. Siop y Felin, Nantlle gyda'i frawd iau, Evan, ac wedi i Robert briodi aeth Evan i weithio yn Chwarel Pen-yr-orsedd.[10]

John Owen Jones ym 1917
Evan Jones, y pedwerydd brawd tua diwedd y 1920au
Hela llwynogod ar diroedd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd. John Owen Jones, Tal-y-mignedd ar y dde; Goronwy Roberts, ewyrth Kevin Roberts ar y chwith

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.157
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Henry Rumsey Williams, 2676-7
  3. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]
  4. Cyfrifiad Plwyf Llanllyfni, 1871
  5. Gwybodaeth gan y teulu; David Hugh Pike, The Chapel that Got Crushed ar wefan The Welldigger, 2019 [2]
  6. Thomas Alun Williams, "Talymignedd Isaf", yn Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [3]; gwybodaeth gan aelodau o'r teulu
  7. David Hugh Pike, The Chapel that Got Crushed ar wefan The Welldigger, 2019 [4]
  8. Y Dinesydd Cymreig, 16 Mai 1917.
  9. Cyfrifiad Llanllyfni, 1871, 1891, 1901, 1911; Cofrestr 1939
  10. Gwybodaeth gan y teulu