Tai Lôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Treflan fach yw Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr, ar lan Afon Desach. Mae i'r de o fryn Y Foel, ar lôn groes rhwng y lôn gefn rhwng Clynnog Fawr a Llanllyfni; a'r lôn o Glynnog Fawr trwy Capel Uchaf i gyfeiriad Bwlch Derwin. Roedd yno ffatri wlân ar un adeg: Ffatri Wlân Clynnog a gerllaw roedd Melin Faesog, a fu am gyfnod yn y 1980au yn agored fel amgueddfa; roedd yno efail y gof ; roedd yno weithdy crydd; a busnes saer coed ac ymgymerwyr angladdau.

Cau fu hanes rhai o’r busnesion hyn erbyn dauddegau’r ugeinfed ganrif ac eithrio gweithdy saer coed Pantafon. ond parhaodd y gymdeithas glos, gytun, fel un teulu mawr. Tua 1946 daeth ychydig o’r trigolion ynghyd a phenderfynu rhentu Tŷ Croes, hen dŷ yng nghanol y pentref am swm bychan a’i addasu yn fan cyfarfod. Lampau paraffîn oedd yn ei oleuo, tân glo oedd yn y grât a thegell wrth law. Cyfarfu’r Clwb unwaith yr wythnos yn rheolaidd ac yn ôl y galw, gan estyn croeso i bawb, yn hen ac ifanc,

Yn 1966 roedd yno 30 o aelodau, nifer o’r ffermydd cyfagos, a Catherine Jones, Brynhafod, yn Ysgrifennydd.. Yr aelod ieuengaf oedd Roland Wyn Owen, 12 oed, a’r hynaf oedd Kate Williams, 81 oed. Pan holwyd hi gan ohebydd y Daily Post, “Does dim byd gwell gen i,” meddai, “na chydganu o gwmpas y piano, a chael panad o de a sgwrs o flaen y tân.” Ac meddai Brenda Jones, 22 oed, “Onibai am yr oedolion fuasai gennym ni ddim Clwb o gwbl. Mae’n dyled ni’n fawr iddyn nhw,” Nid oedd prinder gweithgareddau – o chwarae drafftiau, cyd-ganu, cynnal eisteddfodau ffug, nosweithiau llawen, canu emynau ar nos Sul, ac ati. Bu yno Gwmni Drama ar un adeg, darlithiau a dosbarthiadau nos fel gwaith gwnio, gwaith lledr, gwaith llaw, gwaith coed a gwaith gwiail.[1]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Liverpool Daily Post, Hydref 15, 1966, tud.3