Tai Elen Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Tai Elen Glynn yn elusendai yn Llandwrog, nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.

Fe'u sefydlwyd gan ewyllys Ellen Glynn, Bryn Gwydion. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddi-briod, ym 1733. Yn ei hewyllys, dyddiedig 31 Mawrth 1727, bu iddi adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "ferched bonheddig di-briod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaenoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2] Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.[3]

Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwthyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.[4]

Tua 1890, yr oedd yr elusendai mewn cyflwr gwael, a chodwyd adeilad newydd ar yr un safle, eto i roi cartref i ddeuddeg o ferched tlawd y plwyf, ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cartref i hen bobl. Mae'r elusendai ar ffurf sy'n atgoffa rhywun o fynachdy yn ardal Môr y Canoldir, wedi eu hadeiladu o gwmpas iard ganolog. Cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i addasu ym 1960, ac mae'n cael ei weinyddu bellach gan gorff cartrefi lleol.[5]

Erbyn 1974, yr unig ymddiriedolwr oedd Grŵp Cynefin a'i ragflaenwyr. Nid yw'r elusen yn ceisio codi arian o'r newydd, gan fod incwm sylweddol blynyddol ganddi: tua £40,000 yn flynyddol ar gyfartaledd.[6]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
  2. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767
  4. LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [2]
  5. Gwefan Coflein, [3], cyrchwyd 2.1.2021
  6. Cofrestr y Comisiwn Elusennau, [4], cyrchwyd 2.1.2021