Tafarn y Stag, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Robert Hughes, Tafarn y Stag, Pen-y-groes gan Evan Williams; Artuk.org.

Roedd Tafarn y Stag's Head ar brif stryd Pen-y-groes, wrth yr hen groesffordd lle'r oedd Banc y Midland. Daeth y dafarn wedyn yn siop nwyddau haearn, sef Siop Griffiths. Roedd adeilad Rheilffordd Nantlle gerllaw, a chredir i deithwyr ddefnyddio'r dafarn wrth ddisgwyl am drên. Mae sôn am i Samuel Holland, perchennog chwareli o Flaenau Ffestiniog, wneud hynny tua 1830.[1]

Yn ôl y sôn yr oedd naw tafarn ym Mhen-y-groes ar un adeg yn y 19g.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Samuel Holland, Memoirs, (Dolgellau, 1952).
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], adalwyd 10.9.2018