Tafarn y Sportsman, Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Bu tafarn o'r enw'r Sportsman ym mhentref Gurn Goch am ran helaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1830, pan oedd Thomas Williams, Cae'r Pwsan, tad-yng-nghyfraith Eben Fardd, yn cadw'r dafarn.[1]

Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac wedi ei droi'n dŷ ers blynyddoedd maith. Wrth ei ochr mae rhes o fythynnod a elwir yn Sportsman Row o hyd. Roedd y dafarn fel y gwelir mewn lle hwylus ar ochr y briffordd o Bwllheli i Gaernarfon ac mae'n sicr ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn pasio am ei chwsmeriaid, naill ai ar droed, ar gefn ceffylau neu yn y goits fawr, gan ei bod yn anodd credu y gallai lle mor fach â Gurn Goch ei hun gynnal tafarn. Hefyd, wrth gwrs, roedd tafarn fwy a llawer pwysicach ym mhentref Clynnog Fawr gerllaw, sef Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach).

Un a fu'n cadw'r Sportsman am rai blynyddoedd ddiwedd y 1850au a dechrau'r 1860au oedd Robert Evans. Roedd yn enedigol o ardal Dwygyfylchi ac ar ôl gadael y Sportsman symudodd i Glanllyn, Llanaelhaearn, gan ffermio y tyddyn yno a phorthmona cryn dipyn. Er iddo weithredu am gyfnod fel tafarnwr roedd yn grefyddwr ac yn Fethodist pybyr hefyd ac roedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu Capel Babell (MC), Llanaelhaearn. Bu farw ym 1915 ac roedd yn hen hen daid i awdur hyn o lith.

Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai Eben Fardd ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref Bod Gybi), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.[2]

Erbyn Cyfrifiad 1871, Sais o'r enw James Perry, dyn 67 oed yn enedigol o Prescott, Swydd Caerhirfryn oedd y tafarnwr; roedd ei wraig Ann, fodd bynnag, yn hanu o Langristiolus ac yn 25 mlynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt fab, William Perry, 11 oed, a oedd, erbyn 1881 (a'r teulu'n dal yn y Sportsman) yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn - sy'n tueddu i awgrymu fod y Sportsman yn fusnes gweddol lewyrchus! Ymddengys James Perry yng nghyfrifiad Clynnog am y tro cyntaf ym 1861 fel "marsiandwr wyau a chywion ieir".[3] Ym 1851 roedd o ag Ann ei wraig o Gymru'n cynnal busnes gwerthu llysiau a ffrwythau yn West Derby, Lerpwl.[4] Bu farw James tua diwedd 1882[5] ac erbyn 1891 fe nodwyd yn y cyfrifiad mai ei weddw'n unig oedd yn byw yn y Sportsman, a hithau erbyn hyn tua 70 oed. Mae'n ymddangos hefyd bod y dafarn ei hun wedi cau ac wedi ei throi'n dŷ i Ann. Roedd hi'n dal yno'n hen wraig 80 oed ym 1901[6], a bu farw naill ai ym 1905 neu 1908[7]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 2.12.1830, t.3
  2. Gwybodaeth bersonol
  3. Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1861, 1871, 1881
  4. Cyfrifiad West Derby, 1851
  5. Rhestr o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr Hyd-Rhag 1882
  6. Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1891, 1901
  7. Rhestr o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr Gorff-Medi 1905 a Ion-Mawrth 1908; mae dwy Ann Perry wedi eu nodi yn y rhestrau hyn fel rhai a fu farw yn ardal gofrestru Caernarfon, ac ni ellir dweud o'u hoedran pa un oedd Ann Perry, Gurn Goch