Syr William Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Syr William Glynn (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon (m. 1607) a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd, a dichon iddo fyw ym Mhlasyng Nglyn nes i'w dad farw ac yntau a'i deulu'n symud i Glynllifon. Wedi hynny, aeth ati i foderneiddio a helaethu'r plasty yno.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus, meibion Thomas Glynn, John Glynn, Richard, William a Threfor Glynn (na wyddys fawr amdanynt), Edmund Glynn, a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Alice, gweddw Rowland Bulkeley, Porthamel, Môn a merch John Conway, Bodrhyddan, Sir y Fflint oedd ei ail wraig, ond ni chawsant hwy blant gyda'u gilydd.

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal, a Môn yn arbennig. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597 ac eto ym 1618. Roedd ar feinciau ynadol Môn a Sir Gaernarfon, ac arolygydd coed brenhinol Sir Gaernarfon..Ym 1606, oherwydd ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon fe gafodd ei wneud yn farchog yn Nulyn.[3] O ran cymryd ochrau yn yr ymrafael cyfreithiol a gwleidyddol a oedd yn gyffredin ymysg teuluoedd y sir, bu'n cefnogi (ac yn derbyn cefnogaeth) ysweiniaid Llŷn ac Eifionydd yn arbennig, er iddo a theulu Cefnamwlch, Tudweiliog fod yn wrthwynebwyr cyson.[4]

Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen 1578 ymlaen; ac wedyn yn Ysbytai'r Frawdlys (Inns of Court) yn 1586. Yn wir, fo oedd y cyntaf i gael ei addysg yn Lloegr, a'r cyntaf i gael ei ethol i Senedd San Steffan.[5] Serch hyn, roedd yn ddyn diwylliedig, ac yn barddoni yn y mesurau caeth.[6] Fo, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd crwydrol; erys nifer o gywyddau moliant iddo a'i wraig, "Dâm Siân", gan feirdd megis Huw Machno, Rhisiart Phylip, Siôn Phylip a Rhisiart Cynwal. Ar ei farwolaeth, fe ganodd o leiaf 5 bardd farwnad iddo, yn eu mysg Cadwaladr Cesail o Eifionydd, Gruffudd Hafren, Huw Machno, Robert Dyfi a Rhisiart Phylip. Fe'i gladdwyd, yn ôl Robert Dyfi, yn Llandwrog.[7]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3
  3. ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.262
  4. P.B. Hasler, The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603 (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [1], cyrchwyd 18.10.2019
  5. P.B. Hasler, The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603 (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [2], cyrchwyd 18.10.2019
  6. Glyn Roberts, "The Glynnes and the Wynns of Glynllifon", (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.9), t.28
  7. Iwan Llwyd, Noddwyr y beirdd yn Sir Gaernarfon, traethawd MA (Aberystwyth), 1986, anghyhoedd, tt.96-115