Syr Ifor Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Syr Ifor Williams[golygu]

Roedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 1881 - 4 Tachwedd 1965) yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru. "Gwnaeth ein hiaith yn un o ieithoedd ysgolheictod Ewrop. Ni fedr ysgolheigion astudio llenyddiaeth Gymraeg mwy - heb ddysgu Cymraeg." [1]

Ganed ym Mhendinas, Tre-garth, Arfon, 16 Ebrill 1881, yn bedwerydd o chwech o blant. Bu yn Ysgol Friars ym Mangor am flwyddyn yn unig gan iddo anafu ei gefn. Bu yn ei wely mewn siaced blaster am ddwy flynedd. Gorfu iddo gael triniaeth yn ysbyty'r Royal yn Lerpwl am gyfnod. Yn orweddiog yn y gwely nesaf yr oedd hogyn arall oddeutu'r un oed ag ef, sef R.T. Jenkins. Daeth y ddau yn gyfeillion oes ac yn gydweithwyr, y naill yn Athro Cymraeg a'r llall yn Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Wedi gwella aeth i Ysgol Clynnog yn 1901 fel ymgeisydd am y weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Bangor yn 1902 a graddio mewn Groeg yn 1905 ac yna yn y Gymraeg yn 1906. Yn ystod y sesiwn 1906-7 bu’n gynorthwywr i John Morris-Jones yn yr Adran Gymraeg ac yn gweithio ar radd MA. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yn 1907, a chafodd Gadair bersonol yn 1920. Ymddeolodd yn 1947, a derbyniodd y teitl Syr yr un flwyddyn; bu farw 4 Tachwedd 1965.

Ei brif faes ymchwil oedd yr Hengerdd, sef y farddoniaeth gynharaf yn Gymraeg, a gysylltir ag enwau Aneirin, Taliesin a Llywarch Hen, a rhai cerddi eraill dienw. Gweithiodd yn ddi-fwlch ar gerdd Aneirin, Y Gododdin, rhwng 1906 a 1938. Ystyrir ei lyfrau yn orchestwaith: Canu Aneirin (1938),[2] Canu Llywarch Hen (1953), a Chanu Taliesin (1960).

Cyhoeddodd gannoedd o nodiadau ar ystyron geiriau yn ei lyfrau ac ym Mwletin y Bwrdd Celtaidd ac yn fynych byddai’n tynnu sylw at eiriau cyfatebol yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Y mae’r nodiadau hyn yn amhrisiadwy, nid yn unig i bawb sy’n gweithio ar hen destun ond i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol. Ymddiddorai yn fawr mewn enwau lleoedd. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau ar enwau lleoedd ardal Bethesda yn y papur lleol, Y Gwyliwr, yn 1907 a chyhoeddodd y gyfrol Enwau Lleoedd (1945).

Gwaith arall amhrisiadwy a wnaeth oedd cynhyrchu defnydd darllen i ysgolion a cholegau, e.e. Breuddwyd Maxen (1908), Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo (1926), Pedair Cainc y Mabinogi (1930). Yn 1914 cyhoeddodd ddetholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr ar y cyd â Thomas Roberts.[3]

Yr oedd yn siaradwr cyhoeddus rhagorol a ddarlledwr poblogaidd ar y radio a chyhoeddwyd rhai o’i sgyrsiau : Meddwn i (1946), I ddifyrru’r Amser (1959) a Meddai Syr Ifor (1968).

Priododd â Myfanwy Jones, Cae-glas,Pontlyfni,[4] yn 1913. Ar ôl byw ym Mhorthaethwy tra'n gweithio, fe ymgartrefodd yn Hafod Lwyd, Pontlyfni wedi iddo ymddeol. Roedd ganddynt ferch a mab; y ferch oedd Gwenno Caffell, arbenigwraig ar gelf chwarelwyr Dyffryn Ogwen. Y mab oedd Gwynn ab Ifor a fu'n gyfreithiwr i Gyngor Sir Wiltshire.

Bu farw 4 Tachwedd 1965 a chladdwyd ef ym mynwent Brynaerau. Bu farw ei wraig yn sydyn yn ystod Nadolig 1964.



Ffynhonellau[golygu]

  1. Geiriau D. Alun Lloyd, Y Cymro, Chwefror 4 1965.
  2. Yn 1952 cyhoeddwyd argraffiad newydd dan olygyddiaeth Thomas Parry.
  3. Am ragor o fanylion am ei gyhoeddiadau ayb gweler Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
  4. Pontlyfni yw'r ffordd gywir o ysgrifennu'r enw hwn yn ôl Ifor Williams yn hytrach na Phontllyfni. Ond cas gan Myfanwy Williams oedd yr enw Pontlyfni am yr ardal yn hytrach na Brynaerau, yn ôl D. Alun Lloyd yn Y Cymro uchod.