Sychnant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ffermdy ar gyrion pentref Trefor yw Sychnant.

Mae Sychnant yn sefyll ar lethrau isaf y Garnfor, neu Mynydd y Gwaith, ar fin y ffordd sy'n mynd o ganol y pentref draw i'r gorllewin i'r Gorllwyn ac i'r traeth a elwir yn "West End" yn lleol. Mae mewn safle trawiadol yn edrych i lawr dros y pentref a thros Fae Caernarfon. Mae Sychnant yn ffermdy solet wedi ei adeiladu o gerrig tir ac fe'i hadeiladwyd oddeutu diwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Un nodwedd arbennig sy'n perthyn iddo, fel i ffermdy Fferm Y Morfa gerllaw, yw'r grisiau carreg ar dro sy'n mynd i fyny tu ôl i'r lle tân i'r llofftydd uwchben. Er nad oes ond ychydig o dir yn gysylltiedig â Sychnant bellach, roedd yn fferm bur sylweddol ar un adeg fel mae'r adeiladau niferus sydd wrth ochr a thu ôl i'r tŷ yn tystio. Trowyd un o'r adeiladau'n weithdy saer a bu'r diweddar Robert Williams (Bob Sychnant) yn ymarfer crefft saer yno am flynyddoedd - gwaith sy'n dal i gael ei gyflawni yno o hyd gan Alan, ei ŵyr.[1]

Clywir sôn am Sychnant ym 1541. Y pryd hynny etifeddwyd Sychnant gan Robert Glynn, ail fab Edmund Llwyd, Glynllifon a'i wraig oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan. Etifeddodd ei frawd hŷn, William Glynn y rhan fwyaf o diroedd Glynllifon. [2] Cyn 1541, felly, mae'n amlwg mai rhan o diroedd eang Teulu Glynllifon oedd y fferm.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172