Stent Uwchgwyrfai 1352

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Stent Uwchgwyrfai yn dyddio o 1352 ac yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.

Y ddogfen wreiddiol[golygu]

Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgwyrfai yn ystod y 14g.

Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.

Ar ôl manylu ar ddyddiad yr arolwg ac enwau'r rheithwyr, mae'r stent yn mynd yn ei flaen o drefgordd i drefgordd, yn rhestru'r prif denantiaid a deiliaid tir, a'r gofynion ar bob gwely (sef prif raniad y drefgordd neu'r dreflan), nodi presenoldeb melinau a ffeithiau perthnasol eraill.

Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw The Record of Caernarvon[1]. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)[2], ni wnaed erioed gyfieithiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan Gof y Cwmwd yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.

Cynnwys y ddogfen[golygu]

Mae'r ddogfen yn cynnwys manylion am y trefgorddi hynny oedd â dyletswydd i dalu ardrethau neu gyflawni gwasanaethau o ryw fath i'r "arglwydd" - sef, erbyn 1352, tywysog Seisnig Gogledd Cymru, y Tywysog Du. Yr oedd hyn yn cynnwys y trefgorddi a oedd o dan reolaeth sefydliad eglwysig Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr a oedd, yn ôl pob golwg, yn talu'r rhan fwyaf o'r hyn oedd yn ofynnol ganddynt i'r eglwys honno. Yr oedd hefyd bedair trefgordd yn Uwchgwyrfai nad oes sôn o gwbl amdanynt yn y Stent, sef Llanwnda, Rhedynog Felen, Cwm a Nancall. Roedd trefgordd Llanwnda yn un o'r trefgorddi oedd ag Esgob Bangor yn arglwydd drosti, ac felly roedd y tu allan i faes perthnasedd y Stent. Eiddo, neu luestai, Abaty Aberconwy oedd y tiroedd eraill ac felly heb eu cynnwys ymysg tiroedd yr arglwydd. Mae'n ymddangos nad oedd gan y tywysog hawl ar incwm na gwasanaethau gan ddeiliaid y tiroedd hyn, a oedd yn talu ardrethau a chyflwyno gwasanaethau i'r abaty.

Deall y ddogfen[golygu]

Fel y dywedwyd uchod, mewn Lladin yr ysgrifennwyd y ddogfen, ond er mwyn arbed amser a deunyddiau ysgrifennu, arferid cwtogi neu dalfyrru geiriau yn unol â system o gollnodau amrywiol. Roedd hyn yn arferol yn y Canol Oesoedd ac ni fyddai pobl addysgiadol y pryd hynny'n cael trafferth i ddehongli'r hyn sydd ar y memrwn ond i ni mae'n anodd ambell i waith ddeall beth yn unig a fwriadwyd. Mae enwau personol yn arbennig o anodd - a rhaid cofio nad oedd y clercod yn ôl pob golwg yn gyfarwydd â'r Gymraeg - gan fod talfyriadau megis Cad' yn gallu, o bosibl, gynrychioli nifer o enwau bedydd, Cadwaladr, Cadog, Cadfarch ayb. Gwneir ymdrech yn y cyfieithiad isod i ymestyn enwau personol, ond lle nad oes sicrwydd go lew am yr hyn a fwriadwyd, gadewir yn enw fel mae'n ymddangos, gyda chollnod. Yn yr un modd, diweddarir enwau lle os yw'r fersiwn gyfoes yn wybyddus - e.e. Eithinog yn lle Ethinok. Fel arall, cedwir at sillafiad y ddogfen ei hun.

Mae nifer o dermau cyfreithiol a gweinyddol anghyfarwydd yn ymddangos. Tystia'r rhain i'r modd y bu i drefn weinyddol a thirdaliadol barhau'n weddol ddigyfnewid o gyfnod y Tywysogion Cymreig hyd at 1536, er i ambell i gysyniad a therm Seisnig dreiddio i mewn. Ymysg y termau mwyaf cyffredin, ceir:

* Amobr oedd y ddirwy a godwyd gan yr arglwydd, yn dechnegol, pan oedd merch yn colli ei gwyryfdod, sef wrth iddi briodi neu ar adegau eraill priodol. 
* Bufedd (bovate yn Saesneg) oedd yn fesur o dir oedd yn gyfateb yn fras i’r hen erw Gymreig, sef tua 4 acer heddiw. Bufedd oedd maint y tir y gellid ei aredig gydag ych mewn diwrnod.
* Crannog oedd yn fesur Cymreig o swmp neu faint a amrywiai’n fawr o le i le, rhwng pedair a deuddeg ‘’bushell’’.
* Cylch Rhaglaw oedd y ddyletswydd i roi llety a bwyd i’r Rhaglaw, prif swyddog brenhinol y cwmwd, a drowyd yn aml yn daliad ariannol.
* Ebediw oedd y ddirwy a dalwyd gan etifedd i’r arglwydd wrth iddo gymryd ei etifeddiaeth.
* Firgat (virgate yn Saesneg) oedd yn fesur tir Seisnig, yn cyfateb i'r hyn y gallai dau ych ei aredig mewn tymor, sef tua 30 acer.
* Gobrestyn oedd y ffi oedd yn daladwy am gael yr etifeddiaeth i dir lle nad oedd yr etifedd yn ddisgynnydd uniongyrchol.
* Hwndrwd yw'r term a ddefnyddir yn y cyfieithiad hwn i gyfle ystyr y gair Lladin hundredum er efallai y cyfeirir at gantref; fodd bynnag, nid yw’n hollol glir ai cwmwd yntau gantref a olygir, ac yn sicr fe ddefnyddir y gair comotus yn y ddogfen i olygu cwmwd. Roedd county a hundred yn gysyniadau Seisnig a gyflwynwyd ym 1284, ond yn ddiweddarach, erbyn y 1540au, y cymydau gwreiddiol oedd y rhaniadau gweinyddol a ddefnyddid o fewn y sir.
* Marc = 6s.8c.
* Y Rhaglaw (neu Siryf)oedd prif swyddog y sir.
* Rhingyll oedd yn un o is-swyddogion y cwmwd, yn negesydd dros y brenin ac yn gyfrifol am orfodi hawliau yntau yn y wlad.
* Staurum (neu staurum principis) oedd ardreth a godwyd ar daeogion a thenantiaid a ddaeth o’r tu allan i’r arglwyddiaeth yn lle’r gofyniad i roi bwyd a diod i’r Tywysog a’i osgordd wrth iddynt deithio o gwmpas ei deyrnas.
* Tir cyfrif oedd tir a ddelid gan gaethion, sef rhai yr oedd arnynt ddyletswyddau trymach o ran llafur ac nad oedd ganddynt yr hawl i symud oddi ar eu tir.
* Tir siêd oedd tir a oedd wedi cael ei fforffedu; (estreat yn Saesneg).
* Twnc oedd rhent ariannol a delir yn lle bwyd yr arferid gorfod cael ei roi i’r arglwydd.
* Y twrn mawr oedd llys rhaglaw y sir, sefydliad a gyflwynwyd o dan y drefn newydd Seisnig.[3]

Cyfieithiad o'r Testun[golygu]

D.S. Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Daeth y ddogfen wreiddiol i'r fei ym Maron Hill, plasty ger Biwmares tua chanrif wedi i'r fersiwn argraffedig gael ei chyhoeddi, ac mae hi ar gael yn Archifdy Prifysgol Bangor (cyf.: Baron Hill 6714). Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chymharwyd y gwahanol fersiynau. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiynau Lladin gwreiddiol lle bo'n ymarferol.

UWCHGWYRFAI

Stent o’r Cwmwd hwn a wnaed yng Nghaernarfon o flaen y dywededig ddirprwy [sef John de Delves, dirprwy Richard, Iarll Arundel, ustus yr arglwydd dywysog yng Ngogledd Cymru] ddydd Gwener, Gŵyl y Santes Margaret Forwyn yn y flwyddyn a ysgrifennwyd uchod [17 Gorffennaf 1352], ar lw, a thrwy holi, pob tenant o’r Cwmwd hwn, yn ddynion rhydd ac yn ddynion caeth fel ei gilydd; ac wedyn, wedi ei archwilio gan ddeuddeg dyn rhydd a chyfreithlon o’r Cwmwd hwn oedd ar eu llw, sef:
Llywelyn ap Ednyfed
Hywel ap Iorwerth
Cad’ ap Rhys
Tegwared Moel
Hywel ap Dafydd
Ieuan Teg
Madog ap Einion ap Philip
Tudur Goch
Dafydd ap Iorwerth Kenny
Ieuan Goch
Ednyfed ap Einion
Iorwerth ap Tegwared

ELERNION

Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn Gwely Hoedelew ap Llywarch. Ac etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c.
Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c.
Ac mae ganddynt ddwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd  lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn  ac amobr  fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd  o dir siêd  a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig  sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 16s.8c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c.
Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c.
Cyfanswm blynyddol: 20c.
Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod.
Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.

DINLLE

Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion a Gwely Bowynied.
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion Gwely Wyrion Einion uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Morgeneu uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Rhawd uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Ystrwyth uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Wisgiaid. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]

A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Hebogothion. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b. 
Ac yn y gwely uchod a elwir Gwely [Wyrion] Ystrwyth y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Bodwyniod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir Gwely Wyrion Iorwerth sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.

Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn Gwely Cynwrig ap Tregir yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn. 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn Gwely Pyll ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.

Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir Gwely Ednowain ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c. 
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c. 
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir Gwely Cyfnerth ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.

Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.

Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.
Cyfanswm tir siêd, twnc a chynhaliaeth y Faenor 10s.3c.

PENNARTH

Mae yn y drefgordd hon pedwar gwely o dir rhydd, sef Gwely Wyrion Roppert, Gwely Wyrion Dafydd, Gwely Wyrion Carwir a Gwely Wyrion Itgwil. 
Ac etifeddion Gwely Wyrion Roppert yw Madog ap Llywarch, Ieuan ap Heilin ap Griffri ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 8s. 10c.
Cyfanswm blynyddol: 35s.4c.
Ac etifeddion Gwely Wyrion Dafydd yw Dafydd ap Iorwerth, Madog ap Adda ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 9½c..
Cyfanswm blynyddol: 27s.2c
Ac etifeddion Gwely Wyrion Cargwir yw Dafydd ap Tegwared, Iorwerth ap Tegwared ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 8s. 4¼c.
Cyfanswm blynyddol: 33s.5c.
Ac etifeddion Gwely Wyrion Itgwil yw Einion ap Iorwerth ap Ednowain ac Einion ap Adda ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 11c.
Ac mae ar y pedwar gwely uchod ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r hwndrwd a Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
Ac y mae yn y drefgordd hon un gwely o dir caeth o’r enw Gwely Cradog. A Tegwared ap Hollyn a Ieuan ei frawd ac eraill yw tenantiaid hwnnw. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9s. 2c.
Cyfanswm blynyddol: 36s.8c.
Ac yn unol â’r stent diwethaf adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, [talent] yn flynyddol 8½c.
Cyfanswm blynyddol: 8½c.
Ac y mae yn y gwely hwnnw un fufedd o dir a fu gan Madog Crec sydd yn awr yn nwylo Iorwerth Cam. A thelir 4c. bob blwyddyn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dwy ran gyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn cludo [nwyddau] ar ran yr arglwydd o Gaernarfon cyn belled â Chricieth, Nefyn neu Bwllheli, gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd, ac o fewn eu cwmwd eu hunain gyda dyn a cheffyl a logir am 1c. y dydd. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg y Pasg 9c. tuag at waith y rhai sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r   arglwydd (sef y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion”).
Cyfanswm blynyddol: 9c.
Ac mae tenant y gwely hwnnw, oherwydd fod ganddo un fesur o dir âr, yn darparu bwyd a diod ar gyfer heliwr y tir o gwmpas ac un o’i fechgyn a siambr am un diwrnod. Ac yr un modd ar gyfer  gweilchyddion, a elwir hebogyddion. Ac mae o’n talu Cylch Rhaglaw.  Ac [mae’n talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae o, a phawb arall caeth neu sydd ag achos cyfreithiol yn y cwmwd hwn, boed yn daeogion rhydd y cwmwd neu dynion caeth eraill yr Arglwydd Dywysog yn y cwmwd, yn talu dirwy o £8 i’r ddau dwrn mawr  bob blwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: £8
Ac yng Ngwely Wyrion Itgwil uchod y mae tair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Iorwerth ap Hywel sydd yn awr yn nwylo Einion ap Iorwerth. A mae’n talu am dir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel bob blwyddyn  4s.4c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.4c.
Ac nid ydynt yn talu dim o’r hen drethi yr arferid eu talu trwy ganiatâd y diweddar Dywysog Cymru, heb unrhyw daliadau eraill.
Cyfanswm y Drefgordd hon yn flynyddol: £7 7s. 10½c.

BODELLOG

Mae’r drefgordd hon yn “dref gyfrif” o ran ei natur, hynny yw os nad oes ond un tenant yn y drefgordd hon, mae hwnnw’n gorfod bod yn gyfrifol am holl daliadau’r drefgordd. Ac Adda Moel, Heilin ap Madog ac eraill, taeogion yr Arglwydd Dywysog, yw’r tenantiaid. Ac maent yn talu ym mhob tymor, 19s.11½c.
Cyfanswm blynyddol: 79s.10c.
yn lle’r holl wasanaethau [sy’n ddyledus] heblaw am ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd a elwir Melin y Groes ac heblaw am dalu hanner marc  o ran unrhyw ebediw ac amobr pan fo’n ofynnol. Ac hefyd y maen nhw’n talu eu cyfran o ‘’staurum’’  yr arglwydd Dywysog adeg Gŵyl Sant Martin bob blwyddyn, hynny yw eu bod nhw a’r holl daeogion eraill a’r rhai y rhoddwyd tenantiaeth iddynt  yn y cwmwd hwn yn cyflwyno tri ych neu dair buwch yn unol â dewis yr arglwydd a thri chrannog  o borthiant gwartheg fel ‘’staurum’’ yr arglwydd hwnnw a gymerwyd fel 5s. yr ych, 40c. y fuwch a 6c. y crannog. Ac maent yn cludo [nwyddau] ar ran yr arglwydd gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd mewn cymydau [eraill] ac am 1c. y dydd o fewn eu cwmwd eu hunain. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg y Pasg 18c. tuag at waith y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion” sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 18c.

LLANLLYFNI

Delir y drefgordd hon o dan Sant Beuno. Ac mae yn cael ei dal gan Dafydd ap Einion, Dafydd ap Gronw ac eraill sydd yn daeogion i ddynion rhydd Clynnog. Ac nid oes arnynt ardreth bob blwyddyn i’r Arglwydd Dywysog ar wahân i ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac heblaw am dalu eu cyfran o ddirwyon y tyrnau mawr.


CLYNNOG

Mae hon yn drefgordd rydd ac fe’i delir o dan Sant Beuno. Ac mae Madog ap Einion ap Phylip, Dafydd ap Adda ap Eneas ac eraill yw’r tenantiaid ohoni. Ac nid ydynt yn gwneud dim taliadau i’r arglwydd Dywysog yn flynyddol ond mae ganddynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] Sir a Hwndrwd yr arglwydd. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b. Ac maent yn mynd gyda’r Arglwydd Dywysog i’w ryfeloedd. Ac y mae yn y drefgordd hon dwy fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Cocyn Annon. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 2s. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Cyfnerth Fychan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 4c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac yn y drefgordd hon mae bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Gwynellgu. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn taliadau cyfartal 2s. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Gwion Fychan ap Wion. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw ar y wyliau uchod mewn taliadau cyfartal 6c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 6c.
Ac yn y drefgordd hon mae hanner bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Ddu ap Cadog. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir am y tir newydd hwnnw ar y ddwy ŵyl uchod mewn taliadau cyfartal 3c. y flwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: 3c.
Ac mae’r tir siêd hwnnw’n aros yn nwylo’r Arglwydd. Mae o ei hun yn ei oruchwylio. Ac mae gan denantiaid y drefgordd hon daeogion yn yr un drefgordd sydd yn talu eu cyfran o ddirwyon y tyrnau mawr. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw a Chylch Stalwyn . Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn ymbresenoli o flaen y Siryf ddwywaith y flwyddyn yn ei ddau dwrn mawr. Ac os telir camlwrw yn [llys] yr Hwndrwd neu’r tyrnau [y gwneir hynny]. Yr Arglwydd Dywysog sydd yn derbyn y taliadau camlwrw. Ac mae’r taeogion hyn yn darparu bwyd a diod ar gyfer heliwr y tir ymylol a gweilchyddion yn yr un modd â thaeogion Pennarth. Ac mae un ddôl ger Bryncynan sydd yn talu ardreth o 40c. bob blwyddyn adeg gŵyl y Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 40c.
Ac y mae yn y drefgordd hon tri firgat o dir a ddaeth oddi wrth Gronw ap Madog Droyngreth, tenant Sant Beuno na thalai ddim bob blwyddyn ac a oedd wedi ei geni y tu allan i briodas. Ac fe delir ardreth +adeg Gŵyl y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel trwy weithred J.de Delves 3c.
Cyfanswm blynyddol: 3c.
Cyfanswm blynyddol: 8s. 8c.

EITHINOG

Yn y drefgordd hon mae un Gwely a elwir Gwely Gweheleth. Ac etifeddion hon yw Ieuan ap Griffith a Gwilym ap Cuhelin ar eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 40c.
Cyfanswm blynyddol: 13s. 4c.
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd Dywysog yn yr un drefgordd. Ac mae ar y pedwar gwely uchod ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r hwndrwd os a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae yn yr un Gwely dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Bleddyn. Ac arferai dalu ym mhob tymor o’r pedwar tymor uchod 6½c. a gynhwysir yn y 40c. uchod. Ac y tir hwnnw sydd newydd gychwyn cael ei amaethu [telir] adeg gwyliau’r Pasg a Sant Mihangel 4s. 8c.
Cyfanswm blynyddol:4s. 8c.
Mae’r tir siêd hwnnw’n dal yn nwylo’r arglwydd oherwydd diffyg tenant. Ac yn yr un drefgordd y mae taeogion yr Arglwydd Dywysog, sef Dafydd ap Einion, Adda ap Gronw, Meredydd ap Cynddelw, Iorwerth Ager, Adda Ddu ap Adda, Einion Was Da ac Adda ap Dafydd ap Adda, yn byw yn y drefgordd hon. Ac maent [yn dal eu tir] dan amodau tref gyfrif. Ac maent yn talu yn mhob un o’r pedwar tymor 55s. 4c.
Cyfanswm blynyddol: £11.16c. 
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu melin yr arglwydd yn yr un drefgordd. Ac maent yn talu Cylch Rhaglaw. Dywedwyd y bu [dyletswydd ar y tenantaiaid] i wneud gwaith ar y felin uchod yn amser y Tywysogion Cymreig. Ac fe ddywedwyd fod hwn yn cael ei brisio yn awr o fewn y 55s. 4c., fel mae’n cael ei ddangos yn yr hen stent. Gwelir hyn o’r stent. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg Gŵyl Sant Mihangel 2s. tuag at waith y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion” sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 2s.
Ac maent yn cario nwyddau’r arglwydd Dywysog gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd. Ac maent yn talu hanner marc o ebediw ac amobr fel y bo’n ofynnol.
Cyfanswm blynyddol: £11 19s. 4c.

BRYNCYNAN

Delir y drefgordd hon o dan Sant Beuno. Ac mae hi’n cael ei dal gan Madog Cewerent, Einion ap Cyfnerth ac eraill sydd yn daeogion i denantiaid rhydd Clynnog. Ac nid oes arnynt ardreth bob blwyddyn i’r Arglwydd Dywysog ond ar wahân i’r taliadau a’r dyletswyddau a ddangosir uchod yn y drefgordd uchod o Glynnog.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272
  3. Mae'r diffiniadau wedi eu cymryd yn bennaf o Geiriadur Prifysgol Cymru, troednodiadau yn A.D. Carr, The Extent of Anglesey 1352, Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1969, tt.150-272., neu o T. Jones Pierce, Medieval Welsh Society, (Caerdydd, 1972)