Stabal Goch, Hengwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Stabal goch 1.jpg
Stabal goch 3.jpg
Stabal goch 2.jpg

Mae Stabal Goch yn furddun ar dir fferm Hengwm ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr, rhwng Hengwm ei hun a Mynachdy Gwyn. Symudodd teulu Stabal Goch o'r tŷ rywbryd cyn 1841 i dŷ arall cyfagos, Maes Du. Yn ôl cofnodion yng Nghofrestr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[1], roedd un Hugh Jones a'i wraig Elin yn byw yno ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bedyddiwyd eu plant, Hugh ym 1803, Catherine (1805), Elin (1807) a William (1809) yn yr eglwys. Mae Cyfrifiad 1841 yn dangos eu bod wedi symud i Maes Du, ac erbyn hynny, roedd Hugh Jones o gwmpas 70 oed ac Elin yn 65. Nodwyd mai gogrwr, sef gwneuthurwr gograu neu sieves, oedd Hugh. Roedd John a Jane Jones, 20 oed, yn byw yno hefyd, ynghyd â phlant, Morris Jones (10 oed) ac Ellin Jones (2 fis).[2]

Nid oes sôn am Maes Du yn y Cyfrifiadau wedi 1841, ac felly rhaid ystyried fod y tŷ hwnnw wedi ei adael yn wag cyn 1851.[3]

Ym mhennod ‘Lloffion’ llyfr O. Roger Owen, mae’r awdur yn sôn am enwau lleoedd, gan gynnwys tyddynnod a fu’n adfeilion ers amser maith, yn eu plith ‘Stabl Goch’ a ‘Maes Du’, sy’n cael eu gosod wrth ymyl ei gilydd:

Braw i mi, wrth ddarllen cofnodion o eiddo fy nhad, oedd sylwi cymaint o dyddynnod yn yr ardal oedd wedi dadfeilio a mynd yn furddunod. Mae’n debyg fod hyn yn wir am ardaloedd eraill yng Nghymru. Wele enwau rhai: Felog Bach, Yr Ochr, Tan-y-chwarel, Y Foel, Cae’r Bwlch, Foel Fechan, Mur Forwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa’r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[4] 

Tad O. Roger Owen oedd Owen Roger Owen a fu farw ar y 1af o Fedi 1952 yn 85 oed, ac felly mae'r cof am yr enw'n ymestyn yn ôl gant a hanner o flynyddoedd.

Mae’r enw Stabal Goch wedi’i gadw yn enwau caeau Hengwm:

a) Map Degwm tua 1839 2670 Werglodd Stabal Goch yn y Rhestr Bennu; 2671 Cae Stabal Goch yn y Rhestr Bennu – ond nid oes cae 2671 ar y map. Mae cae 2672 ar y map (yn ffinio â Stabal Goch) ond nid yn y Rhestr Bennu. Mae’n debyg y dylai 2672 Hengwm fod yn 2671, gan fod caeau 2672 a 2672a dros y ffin ar dir ‘Monachdy’.

b) Map gwerthiant 10, 11, 12 Rhagfyr 1907 A30 Werglodd Stabl Goch [yn cyfateb i 2670 uchod] A26 Cae wrth Cefn Beudy and Building [yn cyfateb i 2672 [= 2671?] uchod]

Mae Stabal Goch mewn cyflwr eithaf da o hyd, yn enwedig talcen y simdde fawr. Mae rhan uchaf y talcen arall wedi dymchwel, ac mae llechi’r to ar y llawr. Codwyd gwahanfur o lechfeini a cherrig rhwng ardal y simdde fawr a gweddill yr annedd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Yn Archifdy Caernarfon
  2. Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1841
  3. Cafwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ganlynol gan Robert Williams, Waunfawr yn Haf 2020. Roedd rhai o’i hynafiaid wedi byw yn Stabal Goch. Elin, a aned ym 1809, oedd ei hen hen nain.
  4. O. Roger Owen, O Ben Moel Derwin, (Penygroes, 1981), t.80