Sir Gwynedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurfiwyd Sir Gwynedd ym 1974 pan ad-drefnwyd 13 sir Cymru yn wyth o siroedd mwy, gan greu cyngor newydd, Cyngor Sir Gwynedd i redeg yr uned newydd, gyda'r un pwysau, yn fwy neu lai, â'r hen gyngor, sef Cyngor Sir Gaernarfon. Roedd y sir newydd yn cynnwys Ynys Môn a Sir Gaernarfon i gyd, Sir Feirionnydd i gyd heblaw am Edeirnion, a llain o Sir Ddinbych o gyffiniau Fochdre i Bandy Tudur a Nebo ger Llanrwst.

Dwy flynedd ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, ail-ad-drefnwyd ffiniau siroedd Cymru, gan droi'r wyth sir Cymru'n 22 o siroedd llai. Yn y broses tynnwyd rhannau dwyreiniol yr hen Wynedd ac Ynys Môn, gan adael Arfon, Pen Llŷn a Sir Feirionnydd yn uned lai. Diddymwyd hen ddosbarthau gweinyddol Arfon a Dwyfor gan drosglwyddo eu cyfrifoldebau a'u heiddo i'r cyngor sir newydd.

Mae hen ffiniau y Gwynedd 1974 wedi eu cadw at ddibenion seremonïol - er enghraifft mae Arglwydd Raglaw ac Uchel Siryf Gwynedd yn ymwneud â'r sir yn ôl ffiniau 1974.

Rhag creu unrhyw amryfusedd rhwng ffiniau a phwerau y cyngor sir cyn ac ar ôl 1996, penderfynwyd gollwng y gair Sir o enw'r sir.

Am fanylion hen dywysogaeth Gwynedd, gweler Gwynedd.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma