Siopau yn Nhrefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mor ddiweddar â'r 1960au a'r 1970au roedd cymaint â saith o siopau yn Nhrefor; erbyn hyn (2021) dim ond un sydd ar ôl, ynghyd â swyddfa'r post.

Dyma beth gwybodaeth am rai a gofiaf. Yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, o fewn dau dŷ i'r bont a'r afon ceir y swyddfa bost. Lleolwyd y swyddfa bost mewn gwahanol adeiladau yn Nhrefor dros y blynyddoedd ond mae wedi bod yn ei chartref presennol ers nifer o flynyddoedd bellach. Yn ogystal â'r post ei hun bu siop fechan yn gwerthu amrywiaeth o fân nwyddau yno hefyd, ac mae hynny'n parhau o hyd. Yn ystod y degawdau diwethaf bu nifer o wahanol bobl yn bostfeistri yn Nhrefor. Cofiaf Aneurin Jones yn y 60au a'r 70au. Fe'i holynwyd am gyfnod byr gan William Arthur Evans, ac yna daeth David Cullen yn bostfeistr. Ei ferch, Meirwen Cullen, sydd yn bostfeistres bellach.

Y drws nesaf i'r post yn Penmaen House roedd siop groser gyffredinol a gedwid gan Ifor Evans a'i briod Gwen. Cedwid amrywiaeth dda o ffrwythau a llysiau yno ynghyd â phob math o gigoedd oer. Roedd Ifor Evans hefyd yn gwerthu bara - yn bennaf o fecws Llanaelhaearn - ac roedd ganddo stoc dda o bapurau newydd a chylchgronau a melysion a'n denai ni yno'n gyson pan yn blant. Daeth y siop i ben pan ymddeolodd y perchnogion a bellach mae'n dŷ ers blynyddoedd lawer.

Dim ond un tŷ i fyny wedyn o Penmaen House roedd yna siop fach, fach ym mharlwr ffrynt Temperance House. Cadwyd y siop hon am flynyddoedd gan ddyn a adwaenid yn syml fel "Wili Temprans" ond, yn dilyn ei farwolaeth yn nechrau'r 1960au, daeth Dan Ellis a'i briod o Fynytho i fyw yno a pharhau â'r siop. Oherwydd ei bod mor fychan prin oedd y nwyddau a werthid yn y siop - pethau fel baco, fferins a mân nwyddau tŷ. Roedd Dan Ellis yn fardd cynhyrchiol ac ymddangosai ei waith yn bur gyson yn Yr Herald Cymraeg - yn aml mewn ymrysonau â Wil Parsal. Ni fu arhosiad Mr a Mrs Ellis yn Nhrefor yn hir ac ar eu hymadawiad yn y 1970au daeth y siop i ben.

Roedd Ben Hendra, neu sgwâr y pentref, wedyn yn lle prysur gyda'i dair siop bryd hynny. Yn yr adeilad a elwid yn Eifl House bryd hynny roedd siop jips a gedwid o'r 1960au i'r 1980au gan Peter ac Eva Pollard - hi'n ferch o Drefor ac yntau'n hanu'n wreiddiol o dde Lloegr. Roedd bri mawr ar y pysgod a'r sglodion, yn arbennig ar benwythnosau, gyda'r ciw yn aml yn ymestyn yn ôl gryn lathenni i lawr y stryd. Yn ogystal â bod yn siop jips roeddent yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau groser cyffredinol hefyd, yn arbennig ffrwythau a llysiau. Diddorol nodi hefyd bod cangen o Fanc Barclays y drws nesaf i'r siop jips bryd hynny. Byddai'n agored am hanner diwrnod neu ddiwrnod bob wythnos.

Ar draws y lôn i'r siop jips yn Manchester House cedwid siop esgidiau gan wraig weddw o'r enw Annie Griffiths. Pan oedd y chwarel yn ei hanterth mae'n siŵr bod Mrs Griffiths wedi gwneud busnes da yn gwerthu esgidiau hoelion mawr i'r chwarelwyr, ond erbyn y 60au a'r 70au roedd y chwarel yn tynnu at ei therfyn a'r cwsmeriaid wedi prinhau. Fodd bynnag, daliodd ati gyda'r siop nes ei bod yn ei phedwarugeiniau a chofiaf y byddai gwerthiant arbennig yno ar slipars, sî bŵts ("wellingtons" i roi eu henw crand iddynt) a sandalau yn yr haf. Dau fflat yw'r siop ers degawdau bellach.

Dros y ffordd wedyn fwy neu lai i Manchester House roedd adeilad helaeth Y Stôr, a fu am flynyddoedd yn brif gangen Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl. Gweler yr erthygl honno am fwy o fanylion am y Stôr. Hon bellach yw'r unig siop sydd ar ôl yn Nhrefor.

Yna, yn mhen draw tai bach Croeshigol fel y'u gelwir, cedwid siop nwyddau amrywiol gan Blodwen Parry. Fel Annie Griffiths daliodd Miss Parry hithau i gadw ei siop yn agored nes yr oedd oddeutu pedwar ugain oed. Yn ôl y sôn roedd Miss Parry wedi gwneud cryn elw ar un adeg gan mai ei siop hi oedd yr un agosaf i'r harbwr ac, yn y cyfnod pan fyddai nifer o longau'n galw'n wythnosol yn Nhrefor am gerrig y gwaith, byddai'r llongwyr yn mynd draw i siop Miss Parry i nôl bwyd a baco a'r cyfryw bethau. Fodd bynnag, erbyn y 60au a'r 70au roedd y llongau hwythau wedi peidio â galw i bob pwrpas a'r siop wedi dirywio'n enbyd a phrin oedd y cwsmeriaid. Am flynyddoedd bu hen arwyddion metel mawr yn hysbysebu Colman's Mustard a TyPhoo Tea ar dalcen yr adeilad. Bellach mae'n dŷ haf.

Cofiaf hefyd bod llain bach o dir ger y bont yng ngwaelod Ffordd yr Eifl bryd hynny ac roedd arno sylfeini siop fechan a fu'n agored tan oddeutu dechrau'r 60au. Siop bren oedd hon yn gwerthu tipyn o nwyddau cyffredinol. Fe'i cadwyd am gyfnod gan Ifan a Katie Pugh a byddent yn gwneud hufen iâ arbennig o dda yn ôl y sôn. Dywedir mai'r un oedd hufen iâ Ifan Pugh a hufen iâ Cadwaladr Cricieth! Am gyfnod byr wedyn bu'r siop yng ngofal Kit Parry a oedd yn byw dros y ffordd yn Hendy. Flynyddoedd cyn hynny bu becws cymunedol yn Hendy, gyda phopty mawr yn y cefn. Deuai'r pentrefwyr a'u bara yno i'w crasu am dâl bychan a thrwy hynny arbed y gost o gynhesu eu poptai cartref eu hunain.

Bu becws yn ogystal ar un cyfnod yn Glanrafon House, gyferbyn bron â chapel Gosen. Mae'n debyg i hwn ddirwyn i ben pan agorodd y Stôr fecws helaeth yn gysylltiedig â'r siop ar Ben Hendra. Yn dilyn cyfnod y becws bu Glanrafon House yn dŷ annedd am flynyddoedd, ond ers tro bellach mae'n gartref i swyddfa cwmni bysiau Clynnog a Threfor. Gall enw'r tŷ yma swnio'n rhyfedd gan nad oes afon ar ei gyfyl erbyn hyn. Ond ar un adeg roedd Yr Afon Bach, fel y'i gelwir yn Nhrefor, yn rhedeg yn agored dros y ffordd. Bellach mae'r rhan honno, a rhannau eraill, o'r afon bach wedi eu pibellu, er bod rhannau ohoni'n agored o hyd ar gyrion y pentref.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth bersonol