Siopau'r Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r dudalen hon wedi ei diogelu gan ei bod yn erthygl swpus a chynhwysfawr gan un awdures (sef Mrs Mari Vaughan Jones) sydd hefyd yn nodi ei hatgofion ei hun. Os byddwch am ychwanegu ffeithiau, neu gywiro unrhyw camsyniad, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net neu eu nodi ar y dudalen sgwrs, ar gyfer sylw gan y Gweinyddwyr. Gellwch hefyd nodi gwybodaeth ychanegol ar brif dudalen pentref Y Groeslon.

Mae dolennau at dudalenni eraill yn gweithio yn yr un modd ag ar dudalennau eraill,

Map o leoliad siopau'r Groeslon
Wicisiopau085.jpg
Wicisiopau087.jpg

Dyddiau cynnar: Y tafarndai

O edrych ar bentref Y Groeslon y dyddiau yma (Medi 2018) , heb siop na chapel, nac eglwys yn agored, mae'n anodd credu lle mor lewyrchus oedd yma o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Bu yma chwech ar hugain o siopau o bryd i'w gilydd, yn y cyfnod pan oedd y chwareli yn llewyrchus.

Datblygodd y pentref hefo dyfodiad y rheilffordd. Cyn hynny yr ardal y tu hwnt i'r ysgol, o'r enw Rhosnenan oedd y pentref ac yma oedd y siop gyntaf y gwyddys amdani. Cedwid y siop gan Catrin Parry, ac fel unig siop yn yr ardal, gwasanaethai y boblogaeth cyn belled a'r Fron, lle roedd y chwarel yn datblygu a phobl yn symud yno i fyw o ardaloedd mwy amaethyddol. Cofiai Hugh Jones, Rhandir (1856-1905) fel yr oedd, pan yn fachgen, yn byw ym mhen pellaf Y Fron, gael ei anfon gan ei fam i siop Catrin Parry i brynu hanner owns o de at y Sul.

Gwaelod y pentref

Gyda dyfodiad y rheilffordd gellid cael mwy o amrywiaeth o nwyddau. Ym 1851 agorodd John Jones, gweinidog Bryn'rodyn, a'i wraig Elen, siop a phost yn yr Hen Bost, ar yr hen ffordd i Benygroes. Bu'r busnes yn rhedeg am bron i ddeugain mlynedd, ond yn anffodus fe laddwyd Mrs. Jones mewn damwain yn y stesion, pan oedd yn rhoi llythyrau ar y Mêl, (sef y trên a ddeuai â’r post bob bore). Datblygodd y Pentref yn bellach pan agorwyd dwy dafarn, Y Llanfair Arms, a agorwyd tua 1841 ac a gedwid gan Margaret Williams. Erbyn 1861 Owen Williams oedd y tafarnwr, ac yn ddiweddarach Owen Parry, oedd hefyd yn of. Y dafarn arall yr ochr arall i'r lôn, oedd Gwesty'r Grugan Arms, a gedwid ym 1880 gan Thomas Parry.

Erbyn yr ugeinfed ganrif roedd amrywiaeth o siopau yn y pentref. Ar y gornel gyferbyn â Llanfair Arms, roedd siop Eames, a gychwynnwyd gan John Eames, mab Felin Forgan. Roedd ar agor ym 1881. Mae'n amlwg iddo lwyddo yn y busnes, gan iddo godi tŷ sylweddol i'w deulu sef Glasfryn, ac oedd â thir yn perthyn iddo, er hwylustod i gadw merlen ar gyfer gallu cario nwyddau i'r siop a chario neges allan i'r cwsmeriaid. Mae stabl y ferlen i'w gweld a'i chefn at Lôn Newydd hyd heddiw. Bu'r siop yn nwylo'r teulu Eames tan 1956. Catrin Eames, ei chwaer, a'i mam, oedd yn ei chadw yng nghyfnod yr ail ryfel byd. Penderfynwyd arbrofi trwy werthu sglodion yno, a chodwyd rhyw fath o gwt sinc y tu fewn i’r siop, gan roi bwrdd hir a meinciau o bobtu ynddo. Yn mhendraw'r cwt roedd stof fawr, a thanc i'r paraffin oedd yn ei thwymo. Yma y coginwyd y sglodion a'r pys. O bosib bod y pys braidd yn galed, ac arferai un o lanciau'r pentref eu tynnu oddi ar ei blât a'u rhoi yn un rhes o'i flaen ar ganol y bwrdd, a'u fflicio at rywun oedd o fewn cyrraedd. Ni pharodd yr arbrawf yn hir.

Ar gornel arall, gyferbyn â'r Grugan Arms Hotel roedd siop ddillad Rowland John Thomas. Ef hefyd oedd y postfeistr. Cychwynnodd y busnes tua 1890. Roedd y post yn y cyfnod hwnnw yn gwasanaethu ardal eang iawn, cyn belled a Charmel a'r Fron, ac yn golygu milltiroedd o gerdded i'r postmyn. Gan mai gyda'r Mêl 5.50 a.m. y deuai'r llythyrau a'r parseli, roedd yn rhaid i'r postfeistr godi'n fore iawn. Un gaeaf penderfynodd John Ellis Jones, y fferyllydd o Benygroes, anfon hysbyseb am "Win y Gwan" (sef Guinness), a werthai yn ei siop, i bob tŷ yn y gymdogaeth. Golygai hyn bod yn rhaid i'r postmyn alw ym mhob tŷ. Fel ai'r diwrnod yn ei flaen, dechreuodd fwrw eira, ac erbyn diwedd y pnawn roedd yn storm, a'r postmyn heb orffen dosbarthu, nes i un fynd i drafferthion yn yr eira. Yn ffodus fe'i cafwyd yn rhydd o afael y storm.

Uwchben y siop oedd y teulu yn byw i ddechrau. Fel y cynyddodd y teulu aeth y lle’n rhy fach, a symudwyd dros y ffordd i'r Grugan Arms Hotel a'i droi yn dŷ. Fe'i galwyd yn Rhianfa. Ar yr ochr agosaf i Benygroes i Rhianfa yr oedd adeilad bychan. Yma yr oedd gweithdy teilwriaid Rolant Thomas, lle byddent yn gwnïo'r siwtiau a'r ’’costumes’’ a dorrai ef mor fedrus. Roedd yn deiliwr tan gamp. Gwneud trowsusau chwarel oedd prif waith y teilwriaid. Talai'r cwsmeriaid amdanynt wrth yr wythnos, ac weithiau byddai dipyn o bryfocio, pan fyddai dyn byr boldew yn cael trowsus hir a dyn tal main yn cael un byr, llac.

Mewn cyfnod pan oedd llawer o farwolaethau mewn teuluoedd, oherwydd salwch neu ddamweiniau yn y chwareli, roedd cael dillad 'mowrning' addas yn bwysig. Byddai Mr. Thomas yn mesur yr holl deulu am 'fowrning', ac yn anfon y mesurau i Stoke on Trent. Deuai'r oll o'r dillad yn ôl ar y trên gyda troad y post. Byddai'r gweithwyr yno wedi gweithio trwy'r nos. Roedd yr hetiau i gyd-fynd â'r dillad yn cael eu gwneud yn Rhianfa gan ferched o dan oruchwyliaeth Mrs Thomas. Er ei bod yn gaeth i'w gwely hi fyddai yn eu hardduno a rubanau duon.

Yn ddiweddarach cymerodd y mab, John Thomas, y siop drws nesaf i fyny, Siop Newydd, oedd wedi bod yn siop groser ac 'ironmonger' gan Harri Jones. Byddai ef yn gwerthu pob math o hadyd yn y gwanwyn, tatws cynnar, nionod bach a llysiau, ond canolbwyntiodd John Thomas ar yr ochr 'ironmonger', gan werthu hoelion, pedolau clocsiau, torches, batris a phethau tebyg

Tu ôl i'r tai a'r siopau yma, ar gornel y pentref, roedd tŷ o olwg pawb. Yma, yn 80au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu teulu Owen Gough yn byw ac yn cadw busnes. Roedd ganddo weithdy teiliwr, a siop 'draper'. Bu'r tŷ yn wag am flynyddoedd lawer, cyn ei ddymchwel.

Drws nesaf i fyny i Siop Newydd, mae Bryn Clynnog, ond Old Boot Shop oedd yr enw yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd Ellis Jones, y crydd, a'i wraig Elizabeth yn byw yma. O agor y drws, roedd cownter bach ar y dde, lle byddai cwsmeriaid yn danfon a nol eu hesgidiau. Tu allan i'r tŷ, yr ochr uchaf, yr oedd grisiau llechi yn arwain i fyny at ddrws y gweithdy, oedd yn cymryd tua hanner llofft y tŷ. Yma y gweithiai'r cryddion yn y dydd ond y cyfarfyddai dynion a bechgyn y pentref gyda'r nos, i sgwrsio a chellwair yn y cynhesrwydd, tra byddai Ellis Jones yn mynd ymlaen â'i waith.

Ar y gornel mae Gwalia, ond Siop Ganol oedd yr hen enw. Yma yr oedd dwy chwaer a brawd, Mary Grâce, Leusa a John Jones, yn byw a chadw busnes. Roedd yma siop groser oedd yn gwerthu dipyn o bopeth, ond yn fwy arbennig, roeddent yn gwerthu ffisig anifeiliaid. Byddai yno olew o bob math, a phowdrau oedd angen eu cymysgu. Deuai'r ffermwyr yno hefo'u piseri a'u poteli, a byddai Leusa Jones yn cymysgu'r powdrau, ac yn cymeradwyo'r ffermwyr i fynd i Llanfair Arms am chwart o gwrw i'w cymysgu, a rhoi'r cymysgiad yn boeth ym mol yr anifail. Roedd plac uwchben y siop ac arwydd arno ar ffurf corn clywed, i ddynodi eu bod yn gwerthu cyffuriau yno. Ym mhedwardegau'r ugeinfed ganrif agorodd Owen Glyn Owen, Glynmeibion ei siop gig yma, cyn adeiladu siop newydd bwrpasol gyferbyn a'r Neuadd. Pan symudodd i Gaernarfon, daeth Peredur Evans i gadw siop ffrwythau a llysiau am gyfnod, ac yna trowyd yr adeilad yn dŷ.

Roedd dwy siop groser yn Rhes Grugan, un ym mhob pen i'r rhes. Siop Grugan oedd y siop isaf. Yma yr oedd Robert Owen a'i wraig yn cadw busnes. Mrs Owen ofalai am y busnes, tra byddai ei gŵr yn gweithio fel plastrwr yn Glynllifon. Siop Dorlan Goch oedd yr enw ar y siop uchaf. Robert Griffith, ac yn ddiweddarach Phoebe Jones, oedd yn ei chadw.

Bryn Menai Stores, neu Y Becws

Prentis Bryn Menai Stores, 1916

Erbyn hyn nid oes dim ar ôl o un o siopau prysuraf y Pentref, sef Bryn Menai Stores, neu'r Becws. Ar gornel Lôn Newydd yr arferai fod cyn dymchwel yr adeiladau i ledu'r ffordd. William Jones oedd y siopwr a dilynwyd ef wedyn gan ei fab Robert Alun. Roedd y Becws yn siop groser lawn iawn a chedwid llestri a chelfi tŷ. Tu ôl i'r siop roedd becws gyda'i bobty mawr yn y wal, a thu draw i hwnnw roedd y warws flawdiau. Yn anterth y busnes roedd yno gynorthwywyr a phrentisiaid, a dyn i gario allan, hefo car a cheffyl, neu feic hefo basged fawr o'i flaen i ddanfon neges o gwmpas y Pentref. Pan oeddent yn pobi cai'r bara ei werthu cyn belled a Chlynnog.

Yn y cyfnod cyn y rhyfel cyntaf roedd yn rhaid cael prentisiaeth i fod yn siopwr. Roedd prentisiaeth yn para pum mlynedd, ac ni chai prentis gyflog y flwyddyn gyntaf, ond yn hytrach byddai yn rhaid i'r teulu dalu i'r siopwr am gymryd y bachgen i'w brentisio. 2/6c oedd cyflog wythnos yn yr ail flwyddyn, a chynyddai yn raddol, mae'n debyg, weddill y brentisiaeth os oedd y prentis yn dderbyniol gan y meistr. Roedd y diwrnod gwaith o wyth y bore tan wyth y nos, wyth tan naw ar nos Wener, ac wyth tan ddeg ar nos Sadwrn, a mynd adref i gael cinio a'i te. Diwrnodiau hir iawn i fachgen o brentis 14 oed. Ar wahân i sgubo'r llawr a chadw'r siop yn daclus roedd yn rhaid i brentis ddysgu sut i wneud bagiau allan o ddalen fawr o bapur. Deuai'r bwyd i'r siop mewn swm (‘’bulk’’) mawr. Ciwb mawr oedd y menyn a'r lard, y te mewn cistiau pren sgwâr, yr halen mewn calen fawr, a'r caws mewn cosyn oedd angen ei dorri â weiren. Hongiai'r bacwn a'r ham o'r nenfwd. Roedd angen y bagiau papur i roi nwyddau fel te a reis a lentils a siwgr ynddynt, wedi iddynt gael eu pwyso'n barod yn bwysi a hanner pwysi. Gwneid y menyn a'r lard yn barseli bychan. Dysgai'r prentis hefyd sut i dorri'r caws â'r weiren a sleisio ham a bacwn â chyllell i'r trwch y dymunai'r cwsmer. Casgen fach a ddaliai'r finegr a'r triog, a deuai'r cwsmeriaid â'u poteli a'u potiau eu hunain yno i'w nôl. Unwaith anghofiwyd gau’r tap ar y gasgen driog a bu andros o lanast! Y prentis fyddai hefyd yn danfon y neges i dai cwsmeriaid y Pentref, hefo'r beic. Nid oedd yn waith hawdd i fynd i fyny'r gelltydd pan oedd y fasged yn llawn o nwyddau, a'r beic yn drwm iawn, ond ceid wib yn ôl wedi gwagio'r cwbl!

Unwaith aeth William Jones ei hun i Gefnen hefo'r car a'r ceffyl, i nôl llaeth enwyn a danfon neges yr un pryd. Roedd nifer o blant y pentref hefo fo yn y car. Galwodd ym Mrynteg i ddanfon neges, a thra roedd yno, dychrynodd rhywbeth y ceffyl, rhusiodd, gan garlamu yn wyllt i lawr yr allt nes stopio o flaen y Becws, a’r plant wedi dychryn yn arw. “O diar!" meddai William Jones, "gobeithio bod y llaeth enwyn yn iawn".

Daeth Robert Alun Jones i gymryd gofal o'r siop ar ôl ei dad, gan ddod a dipyn o newidiadau yn ei sgil. Cafwyd peiriant i sleisio'r ham a'r bacwn, ac ymhen rhai blynyddoedd rhewgell i gadw bwyd a hufen ia, a pheiriant y tu allan i werthu 'chewing gum'. Ar ddiwrnodiau braf a sych roedd yn arferiad gan Robert Alun i roi'r celfi tŷ ar y palmant y tu allan i gael mwy o le i symud yn y siop. Daeth un o'r pentrefwyr heibio, oedd wedi treulio amser yn y Dwyrain Canol pan yn y fyddin, gan ddweud,wrth y Siopwr pan welodd y bwcedi a'r brwsus a'r matiau yn dwr ar y palmant, "mae'r lle yma fel bazaar yn y dwyrain gen ti!".

Clawr llyfr cwpons dogni. Defnyddwyd hwn yn Siop Gwylfa, Pen-y-groes
Tu fewn i'r un un lyfr dogniLlyfr cwpons dogni
Llyfr cwpons dogni. Dyma'r cwpons ar gyfer cael prynu de; torrwyd un gwpon allan am bob chwarter o de a brynwyd

Siopwr anfoddog oedd Robert Alun, byddai yn llawer gwell ganddo fod wedi bod yn beiriannwr, a gallu dyfeisio pethau. Yn hytrach byddai wastad yn dyfeisio systemau newydd o gadw cyfrifon, fyddai o bosib yn golygu llai o waith iddo gyda'r nos wedi i'r siop gau. Erbyn amser yr ail ryfel a'r dogni bwyd roedd yn rhaid cadw cyfrif manwl o'r cwponau, (darnau bach o bapur oedd angen eu torri allan o'r llyfryn "Ration Book" oedd ar gyfer pob unigolyn, a'u cadw yn ofalus), fel y gallai eu trosglwyddo i'r awdurdodau. Oherwydd y "dyfeisiadau" newydd o gadw cyfrifon, a ymddangosai yn bur gymhleth i'r cwsmeriaid, roedd siopa yn y Becws yn cymryd llawer o amser - dymunol iawn i bawb oedd eisiau cyfle i sgwrsio ond rhwystredig iawn i rywun oedd ar dipyn o frys. Gyda dyfodiad y "Ration Books" roedd yn rhaid i bawb gofrestru mewn un siop gyda'r llyfr ac nid oedd caniatâd i newid. Ymddeolodd Robert Alun, gan nad oedd ei iechyd yn dda.

Yn y chwedegau gwerthwyd y siop i Mr .a Mrs. Parry o Lanllyfni. Buont hwythau yn cadw'r siop fel siop goser ond roedd arferion siopa yn newid. Wedi iddynt ymddeol, bu'r siop yn wag am gyfnod, cyn i Jano ei chymryd a'i newid i fod yn siop trin gwallt yn y saithdegau. Codwyd tai ar hyd Lôn Newydd ac roedd angen gwell mynedfa. Chwalwyd y Becws a'r adeiladau, a lledwyd y ffordd. O edrych yna heddiw mae'n anodd credu fod yr adeiladau wedi bodoli mewn lle mor gyfyng.

Gladstone House

Yn uwch i fyny'r pentref, yn Rhes Gladstone, mae'r enw Gladstone House i'w weld. Tŷ ydyw erbyn hyn, ond bu'n siop am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Fel 'Siop J.T.' yr adwaenid hi ar lafar gwlad, gan mai J.T. Jones, brodor o Lanuwchllyn, a'i wraig Margaret (merch Llys Elen, Y Groeslon) fu'n rhedeg y busnes am hanner can mlynedd. Cyfarfod pan oeddynt yn gweithio yn siop C.D. Jones yn Wrecsam, wnaethant, a symud i Groeslon, ac agor siop yng ngwaelod Rhes Rathbone ym 1907. Symudasant wedyn i Gladstone House a galw'r tŷ yn Meirionfa, i ddynodi'r cysylltiad â sir Feirionnydd. Roedd y siop yn gwerthu dillad dynion, merched a phlant, hefyd edeuau, botymau, rubanau a phethau cyffelyb, a chelfi i'r tŷ. I fyny'r grisiau, yr oedd ystafell yn gwerthu hetiau ac un arall yn gwerthu esgidiau.

Yn y dechrau byddai 'J.T.' yn mynd o gwmpas y wlad ar ei feic i gasglu 'clwb' oedd yn dod â chwsmeriaid i'r siop, a sicrwydd am gael tâl mewn pryd, ond yn ddiweddarach bu Harri Jones, o'r Cilgwyn yn trafaelio ar ei feic modur, cyn belled â Chlynnog a Threfor, Rhosgadfan, Rhostryfan a Llandwrog i gasglu a danfon ordors, a hel 'clwb'.

Mrs Jones ofalai am ddillad y merched, a bu R. H. Williams, Bryngwenallt, yn gweithio am flynyddoedd yn adran y dillad dynion.

Roedd J. T. Jones yn ŵr busnes arloesol, ac wedi arallgyfeirio ym myd busnes ymhell cyn i'r gair ddod yn boblogaidd. Tu ôl i'r siop roedd warws, lle roedd beiciau a beiciau modur ar werth, ac o flaen Gladstone House roedd y pwmp petrol cyntaf yn yr ardal. Prynodd injian olew hefo deinamo, a'i rhoi mewn cwt yng ngwaelod yr ardd i gynhyrchu trydan, i gael gwell golau nag a geid hefo lampau oel yn y tŷ a'r siop. Weithiau digwyddai rhywbeth a wnai i'r injian stopio, gan ddiffodd y golau'n sydyn, a rhaid oedd ymbalfalu i waelod yr ardd yn y tywyllwch i droi a throi yr handlen a wnai iddi ail gychwyn.

Ymddeolodd Mr. a Mrs. Jones a symud i Benygroes i fyw. Prynwyd y busnes gan Hugh Pritchard i ddechrau, ac yna daeth Hugh Hughes yno, ac wedyn Medwen Williams. Y busnes olaf yn y siop oedd siop 'fideos'. Wedi iddi gau yn derfynol fe'i trowyd yn dŷ.

Wrth ochr y siop mae 'entry' i fynd i gefn y tai yn y rhes. Yno mae adeilad a fu'n weithdy crydd am flynyddoedd. Deuai Thomas Jones (Twm Crydd) a'i frawd yno'n ddyddiol ar eu moto beic a 'side car'. Wedyn bu Llewelyn Jones o Fro Iago yno am gyfnod.

Pan symudodd J.T. Jones a'r teulu i Gladstone House o'r siop yn Rhes Rathbone, cymerwyd y siop yn Rhes Rathbone gan Ellis Williams, ( oedd a'i gartref yn Rhes Rathbone) a'i wraig Deborah, ar ôl eu priodas yn 1915. Yn yr amser hynny ni chaniateid i ferched gario ymlaen fel athrawesau ar ôl priodi. Cadwent siop groser yno. Yn anffodus bu Deborah farw yn ieuanc.

The People's Supply Stores/Siop Julie

Cymerwyd y siop gan WJ. Pritchard, Pengamfa, ac fe'i cadwodd am flynyddoedd. Siop groser a gadwai yntau hefyd. "The People's Supply Stores" oedd enw swyddogol y siop, ond fel 'Siop William John' yr adnabyddid hi ar lafar gwlad. Roedd y teulu yn byw y tu ôl ac uwchben y siop, a Gwynant oedd yr enw ar y tŷ. Wedi i W. J. Pritchard ymddeol cadwodd ei fab yng nghyfraith, Dilwyn Hughes, y siop am gyfnod, a dilynwyd ef gan Julie Davies, ond fel yn hanes Gladstone House fe'i trowyd yn dŷ.

Becws Tal-y-llyn

Roedd siop a becws prysur arall, yn Nhalyllyn, ar un cyfnod hefyd. Robert Jones a'i wraig Jane oedd yn cadw'r busnes. Roeddynt yn enwog am eu bara brith, ac ai Robert Jones oddi amgylch hefo'i gar a cheffyl, i werthu bara ac i ddanfon blawdiau i ffermydd. Jane Jones oedd yn gofalu am y siop. Agorai Jane Jones y siop ar ei chodiad, a byddai ar agor nes yr ai i'w gwely. Gan fod yn rhaid talu am fynd at y Doctor, a gweithwyr cyffredin yn cael hynny yn ddrud iawn, byddai pobl yn troi at ffisig parod a werthid mewn siopau lleol a doctora eu hunain. Roedd siopau lleol fel Talyllyn yn gwerthu amrywiaeth o ffisig parod fel 'tincture of rubarb' (tinti riwbob ar lafar gwlad) a spirit nitre at annwyd, asaphoetida (neu assiffeta) at lyngyr, casgara, Carter's Little Liver Pills, ac amryw eraill. Gan fod y siop yn agored trwy'r dydd roeddent i'w cael unrhyw amser. Byddent yn gwerthu blawd a burum i ferched oedd yn arfer pobi gartref, yn ogystal â nwyddau arferol siop groser. Deuai gwragedd ffermydd cyfagos yno i gyfnewid menyn ac wyau am neges . Yn ystod streic fawr 1926 , pan oedd glo yn brin, cai pobl oedd yn arfer pobi gartref fynd â'r toes i Dalyllyn i'w grasu. Roedd yn rhaid i bawb roi papur a'u henw arno yng ngwaelod y tun o dan y toes, fel byddai yn hawdd adnabod pwy oedd piau'r dorth ar ôl ei chrasu.

Ar ôl cyfnod Robert a Jane Jones yn y siop, daeth eu wŷr Robert (Bob) Jones, yno i redeg y busnes. Prynodd ef foto beic a 'side car' i fynd o amgylch y wlad.

Daeth cyfnod yr ail ryfel byd a newid sylweddol i siopau'r pentref, fel pob man arall. Nid yn unig roedd nwyddau yn brin, ond yr oedd y cwponau oedd yn rhaid i bob teulu eu cael, er mwyn gallu prynu bwyd, (e.e. ¼ pwys y pen o fenyn yr wythnos), ac oedd yn rhaid i'r siopwr eu cyfrif a chadw cofnod ohonynt, yn drafferthus i'r eithaf, heb sôn am y broblem o gadw'r ddysgl yn wastad os deuai cyflenwad annigonol o unrhyw "foethusrwydd" fel tun o ffrwythau neu dun samon i'r siop, a dim digon i'w rannu i bob teulu, a arweiniai at ffraeo a drwg deimlad. Y canlyniad oedd, y caeodd nifer o'r siopau, a dim ond Siop Eames, Bryn Menai Stores, a’r People Supply Stores oedd ar agor erbyn diwedd cyfnod y rhyfel.

Swyddfa'r Bost

Yn 1945 daeth un o fechgyn y Groeslon, Leslie Williams, adref o'r fyddin, a phenderfynu agor siop. Dechreuodd gyda busnes groser yn Siop Newydd, a bu yno am tua dwy flynedd, ond yn weddol fuan wedi i Phoebe Jones, Grugan Siop, benderfynu gwerthu ei siop a symud allan, symudwyd y busnes yno. Rhoddai hyn gyfle i 'r teulu allu cynnal siop a byw yn yr un lle. Roedd yn gyfnod anodd iawn i ddechrau busnes, gan fod dogni bwyd, a'r cwpons yn dal mewn grym. Cai ffermwyr ddogn ychwanegol o fwyd at y cynaeafau gwair, ŷd a thatws. Wedi diwrnod prysur yn y siop roedd angen danfon negesau gyda'r nos i'r ffermydd a'r tai ar gyrion y pentref. Yn 1956 aeth Siop Eames ar werth, a phrynodd Leslie Williams hi, gan symud y siop yno a throi Siop Grugan yn dŷ, fel ac y mae heddiw. Daeth y Swyddfa Bost yno hefyd, a Mrs Williams oedd yn gofalu am honno.

Tua'r adeg yma y dechreuodd pobl ddod hefo’r trên ar eu gwyliau i'r ardal. Byddai'r "fusutors" yn aros dan drefniant gwely a brecwast mewn tai yn yr ardal , neu yn rhentu tai a bythynod dros gyfnod eu gwyliau, ac felly angen neges am yr wythnos. O ddod yn rheolaidd arferent archebu eu neges dros y ffôn yn barod erbyn pan y cyrhaeddent y stesion.

Roedd cyfnod y Nadolig, yn naturiol iawn yn gyfnod prysur yn y Post, a rhaid oedd cael postmyn ychwanegol i ddanfon y cardiau y llythyrau a'r parseli. Bu llawer i fyfyriwr yn falch iawn o'r gwaith yma i roi arian ychwanegol yn y boced.

Mân siopwyr a gwerthwyr eraill

Ar ôl deugain ac un o flynyddoedd prysur, ymddeolodd y ddau, a daeth Mr a Mrs Roberts o Gaernarfon i gadw'r busnes. Wedyn daeth Vernon Evans, ei wraig Olwen, a'i thad a'i mam, William a Gwenda Jones, yno i'w chadw. Roedd ganddynt hwythau hefyd gysylltiadau â Chaernarfon, ond eu bod wedi byw yn Lloegr am dipyn o flynyddoedd. Er bod y ddau deulu yn bobl glên iawn nid oedd yr un cysylltiad lleol yno ar ôl Mr. a Mrs. Williams, ac o'r herwydd ni cheid yno yr un sgwrsio a thrafodaeth a'r un awyrgylch. Wedi marwolaeth Mrs Gwenda Jones ni allai'r teulu gario ymlaen ac fe gaeodd y siop, a oedd erbyn hynny yr unig siop yn y Pentref.

Ar wahân i brif siopau'r Pentref, roedd amryw o "siopau yn y parlwr", oedd yn gwerthu manion fel canhwyllau, oel lamp, papurau newydd, burum, fferins a baco. Rhoddai y siopau yma incwm ychwanegol i wragedd neu weddwon y chwarelwyr. Byddai adegau pan na allai'r dynion fynd at eu gwaith, oherwydd tywydd caled (a wnai saethu'r cerrig yn y twll yn waith peryglus iawn) neu oherwydd salwch, a ddeuai yn aml i rai yn gweithio allan ar ben mynydd ym mhob tywydd.

Gwerthai Thomas Williams yn 1 Rhes Glynllifon bapurau newydd Cymraeg fel Y Genedl, Yr Herald, Y Werin a'r Echo Goch, ac yna bu Katy Williams yn 2 Rhes Grugan yn eu gwerthu am flynyddoedd. Yn Rhiwenfa (Noddfa, heddiw) gwerthai Mrs. Owen fferins, baco a dipyn o bopeth, ond yr oedd yn arbennig am wneud pennog picl. Gwnai ef mewn crochan mawr, a'i werthu yn ôl y gofyn yn y siop. Roedd amryw o siopau "parlwr" eraill yn y pentref, a'u cyfnod o fod yn agored yn amrywio. Gellir gweld hyd heddiw ambell i dŷ rhes gyda ffenest fwy na gweddill y rhes yn dynodi y bu siop yno unwaith.

Roedd gan y rhan uchaf o'r Pentref ei siopau "parlwr" hefyd. Daeth gwraig o Buxton, swydd Derby, i fyw i 2 Frondeg yn 20au'r ganrif diwethaf. Miss Bladon oedd ei henw a gwerthai bob math o edafedd yno a manion gwnïo. Daeth yn bur adnabyddus, gan fod yr edafedd yn llawer meddalach na'r edafedd "cartref ‘' a gai ei werthu yn siopau Penygroes neu Caernarfon. Byddai yn gyrru i ffwrdd am yr edafedd a ddeuai i'r Groeslon ar y trên. Deuai ei chwsmeriaid yno o bentrefi eraill y cylch, a bu'r siop mewn bodolaeth tan yr ail ryfel byd.

Yn Bryn Afon, gwerthid y manion arferol fel papurau newydd, canhwyllau, oel lamp, burum a bara, baco, a fferins y deuai plant Ysgol Penfforddelen yno i'w prynu.

Bu teulu Appifforum yn gwerthu llyfrau gan fynd i'r chwareli i gael archebion a chai'r chwarelwyr dalu amdanynt yn fisol.

Yn Babell byddai Laura Evans yn cael "tripe" gan John T. Jones y bwtsiwr, oedd â'i ladd-dy yn Lleiniau. Ar ôl ei baratoi a'i goginio byddai yn ei werthu yn ôl y galw. Roedd hefyd yn berwi pwdin cyrens a resins mawr, a werthai am ddimai y sleisen i blant yr ysgol.

Bu siopau yn eu tro ym Mryngwenallt, Rhandir (Lleifior), a Gwelfor, ac mae'n debyg y bu rhai o'r siopau bach yn llewyrchus, gan beri i bobl ddweud fod llathen o gownter yn well nac acer o dir.

Yn ogystal âr ffermwyr lleol a ai o amgylch yr ardal i werthu llefrith o ddrws i ddrws yn ddyddiol, deuai gwerthwyr eraill yn eu tro, rhai fel Joseff o Gaernarfon a ddeuai ar y trên hefo'i fasged fawr yn llawn o bysgod. Byddai Bob Lloyd o Garmel yn dod i werthu te, a deuai eraill hefo defnyddiau gwnïo. Wrth fynd o gwmpas i werthu y dechreuodd Robert J. Williams, Llys Gwynedd ei fusnes. Cerddai cyn belled â Chilgwyn hefo ces mawr yn llawn o nwyddau i'w gwerthu. Yn ddiweddarach cafodd siop fach sinc wrth y tŷ, lle bu'n gwerthu fferins, baco a manion nes daeth dogni yr ail ryfel byd.

Dirywiad siopau'r pentref

Gyda dyfodiad y bysus yn 30au'r ganrif, daeth newid mawr i arferion siopa'r pentrefwyr. Deuai bws i lawr o Garmel i fynd i Gaernarfon ac ai gwasanaeth arall o Gaernarfon trwy waelod y pentref i Benygroes ac ymlaen. Daeth yn arferiad gan amryw i fynd i Benygroes ar nos Wener i weld y doctor ac i gasglu moddion o siop y fferyllydd, ac i ddod â phryd o bysgodyn a sglodion yn ôl i swper. Roedd taith i Gaernarfon ar bnawn Sadwrn i gael swlffa yn stondinau'r farchnad ar y Maes yn boblogaidd iawn hefyd. Achosodd hyn i'r man siopau gau o un i un, a bu trafferthion amser rhyfel yn ergyd pellach. Gyda pherchnogaeth ceir, a dyfodiad archfarchnadoedd, nid oedd yn bosibl i siop leol gystadlu ac felly bu cau yn anorfod. Nid oes man cyfarfod anffurfiol bellach i gael sgwrs wrth siopa. Colled yn sicr i'r Pentref.